Skip page header and navigation

Wrth i ni ddathlu Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2024, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o dynnu sylw at gyraeddiadau Rebecca Evans, sy’n hyrwyddo diogelwch yn y gweithle yn Tata Steel.

Rebecca Evans in her work clothes

Yn fyfyriwr y Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP), mae Rebecca wedi bod yn dadlau dros ddiogelwch yn y gweithle drwy gydol ei gyrfa. Mae ei hymrwymiad i ddatblygu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol ym maes diwydiant trwm wedi ennill clod a chydnabyddiaeth iddi.

Amlygir taith Rebecca tuag at wella diogelwch yn y gweithle trwy ei chyflwyniad cynhwysfawr am gredydau dysgu drwy brofiad trwy’r modwl ‘Achredu Dysgu Blaenorol drwy Brofiad’, sydd wedi rhoi’r hyn sy’n cyfateb i 2/3 o Radd mewn Arfer Proffesiynol iddi. 

Dywedodd Rebecca:

“Mae astudio tuag at Radd mewn Arfer Proffesiynol wedi bod yn foment hollbwysig yn fy ngyrfa a’m datblygiad proffesiynol. Mae wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i mi ar gyfer adfyfyrio, twf, a dilysu fy arbenigedd. Mae dilyn y rhaglen hon wedi gwella fy sgiliau, ehangu fy sylfaen wybodaeth, ac agor drysau i bosibiliadau newydd yn fy maes. Pan siaradais â’r tîm FfAP am ddilyn BA, roeddwn i’n rhyfeddu y gallwn gynllunio cynnwys y llwybr BA o amgylch fy niddordebau. Roeddwn wrth fy modd o glywed y gallwn hawlio hyd at 2/3 o’m dyfarniad trwy hawlio credyd ar gyfer y dysgu yr oeddwn i wedi’i wneud yn barod wrth weithio.

“Mae’r modwl cydnabod dysgu drwy brofiad wedi bod yn gyfrwng i gyfoethogi fy set sgiliau a gwella fy effeithiolrwydd yn fy rôl. Trwy gydnabod gwerth fy mhrofiadau ymarferol yn ffurfiol, rydw i wedi ennill hyder yn fy ngalluoedd a gwerthfawrogiad dyfnach o’r mewnwelediadau a gefais trwy ddysgu ymarferol. Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi dilysu arwyddocâd fy nghyfraniadau ac wedi fy ngrymuso i barhau i gael effaith ystyrlon yn fy ngweithle.”

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd yn y tîm Fframwaith Arfer Proffesiynol yn PCYDDS:

“Mae ymrwymiad diwyro Rebecca i ddiogelwch yn y gweithle nid yn unig yn ddyletswydd, ond yn brawf o’i hymroddiad i lesiant pob unigolyn ym maes diwydiant trwm. Wrth i ni nodi’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith, rydym yn dathlu ei chyraeddiadau nodedig, sy’n sefyll yn symbol o ragoriaeth ac ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae’r modwl Achredu Dysgu Blaenorol drwy Brofiad a alluogodd Rebecca i adfyfyrio ar ddysgu a sgiliau yn daith hunan-ddarganfod sydd wir yn rhoi gwerth i flynyddoedd o brofiad ac yn dathlu cyraeddiadau unigol. Gall dysgwyr o bob diwydiant astudio am ddyfarniad mewn Arfer Proffesiynol a hawlio hyd at 2/3 ar gyfer yr hyn y maen nhw eisoes wedi’i ddysgu wrth weithio.” 

Wrth i Rebecca adfyfyrio ar ei hamser yn fyfyriwr yn PCYDDS, ychwanegodd:

“Trwy fy nhaith gyda’r Fframwaith Arfer Proffesiynol, rydw i wedi dod i ddeall nad cyfrifoldeb yn unig yw hyrwyddo diogelwch yn y gweithle – mae’n ymrwymiad dwfn i lesiant pob unigolyn ym maes diwydiant trwm. Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy nghydnabod am fy ymdrechion wrth feithrin diwylliant diogelwch cadarnhaol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn atgyfnerthu fy nghred yng ngrym trawsnewidiol strategaethau rhagweithiol, deialog agored, a gwelliant parhaus.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon