Skip page header and navigation

Sioe Haf: Hysbysebu Creadigol

Hysbysebu Creadigol

Four yellow triskeles each with two legs and one arm hold up the letters blink; the background is pink and dotted with yellow stars.

"Dod i Delerau â Byd sydd wedi Newid"

Eleni, rydym yn dathlu cyflawniadau ein myfyrwyr trydedd flwyddyn am fwy o resymau nag arfer. Gan iddynt ddechrau yn y brifysgol ar ôl y pandemig, mae’r unigolion talentog hyn wedi gorfod dod i delerau â byd sydd wedi newid, lle nad oes fawr ddim wedi aros yr un fath. 

Yn eu tair blynedd o astudio, maent wedi profi chwyldro technolegol a diwylliannol sydd wedi gweld technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial yn dod yn realiti mewn cyfnod hynod fyr. Trwy hyn, mae ein myfyrwyr wedi addasu’n hwylus ac yn hyderus i’r newidiadau unwaith-mewn-oes hyn. Maent wedi bod yn ddewr ac yn feiddgar wrth greu ymgyrchoedd hysbysebu creadigol, mentrus sydd wedi manteisio ar lwyfannau digidol newydd, ac wedi ailddyfeisio llawer o’r fformatau traddodiadol.

Yn anffodus, dyma flwyddyn olaf y cwrs BA(Anrh) Hysbysebu Creadigol yng Ngholeg Celf Abertawe. Trwy gydol y 15 mlynedd diwethaf mae ein myfyrwyr talentog wedi ennill llawer o anrhydeddau creadigol, gan gynnwys Gwobrau D&AD, Gwobrau Dylunwyr Newydd a Gwobrau Marchnata i Fyfyrwyr. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio mewn uwch swyddi creadigol i asiantaethau o fri rhyngwladol fel Droga5, Grey a Saatchi & Saatchi. 

Wrth i’r cwrs ddod i ben, ein huchelgais olaf yw y bydd carfan eleni yn parhau i gyflawni’r un llwyddiant proffesiynol sydd wedi bod yn nodwedd ddiffiniol o’r cwrs hwn. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bob aelod o staff sydd wedi addysgu ar y rhaglen dros y blynyddoedd, ac i bob un myfyriwr sydd wedi astudio gyda ni. Dathlwn a diolchwn i’n myfyrwyr trydedd flwyddyn sy’n ymadael am sicrhau ein bod yn gorffen ar nodyn uchel iawn. Da iawn bawb! 😁

Martin Bush
Rheolwr Rhaglen 

Dosbarth '24

Ein Gwaith

Alexandra Craciun

Mae Alexandra Craciun yn fyfyriwr aeddfed ar y BA Hysbysebu Creadigol yn PCYDDS Abertawe. Mae ei threftadaeth Rwmanaidd yn ategu ei chreadigrwydd ac mae hi’n llwyddo o dan amodau anodd trwy ddyfalbarhau. Mae portffolio Alexandra yn arddangos ei sgil a’i phenderfyniad. Mae’n dangos cryfder, angerdd a phenderfyniad trwy bob llwyddiant a cholled! 

Kerstin Wilson

Mae Kerstin yn ddylunydd arbrofol a chreadigol sydd wrth ei bodd yn cynnwys cyfryngau cymysg yn ei gwaith. Mae’n dechrau gyda sylfaen ymchwil gadarn er mwyn datblygu dealltwriaeth wych o’r prosiect, yn tynnu brasluniau bawd, ac yn tanio syniadau. Mae hi’n mwynhau gweithio ar ymgyrchoedd integredig sy’n dangos yr amrywiaeth o fformatau y gall ymgyrch hysbysebu unigol eu dilyn. Ar ôl cwblhau ei gradd mae Kerstin yn gobeithio dod yn weithiwr creadigol ym maes hysbysebu a gweithio tuag at ddod yn gyfarwyddwr celf. 

Sharmin Begum

Mae Sharmin yn berson creadigol uchelgeisiol sy’n gallu addasu i unrhyw friff i ddatrys problem gan ddefnyddio amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae’n tynnu ar sbectrwm o sgiliau a ddysgodd yn y brifysgol, fel meddwl dargyfeiriol. Wedi’i harwain gan ei hangerdd am adrodd straeon, mae’n integreiddio seicoleg, technoleg a diwylliant i greu ymgyrchoedd effeithiol. Mae ei meddylfryd strategol, ei sylw i fanylion, a’i hymroddiad i ragoriaeth yn ei galluogi i wthio ffiniau a chreu naratifau teimladwy, yn ogystal â chydweithio ac arloesi. Ei nod yw creu effaith ym maes hysbysebu a dod yn gyfarwyddwr creadigol. 

Sophie Wyatt

Mae Sophie yn hysbysebwr creadigol sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru. Yn ystod ei hamser yng Ngholeg Celf Abertawe mae hi wedi ehangu ei gwybodaeth o hysbysebu a datblygu ei gwaith creadigol. Mae hi’n fwyaf hyderus yn creu deilliannau digidol gan fod hynny’n dyrchafu ei syniadau, ac mae hi hefyd wrth ei bodd yn creu darnau o waith modern. Mae Sophie yn cael ei hysbrydoliaeth o unrhyw beth a allai fod wedi dal ei diddordeb, boed hynny o’r cyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth, tueddiadau sydd ar gynnydd, neu arddulliau celf y mae hi wedi dod ar eu traws.