Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn llongyfarch Côr Ifor Bach ar ei llwyddiant fel pencampwyr Côr Cymru 2024. 

Cor Ifor Bach with Eilir Owen Griffiths holding the Côr Cymru trophy

Mae Côr Ifor Bach yn gasgliad o fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau BA Perfformio, BA Theatr Gerddorol, BMus Perfformiad Lleisiol ar gampws y Brifysgol yng Nghaerdydd ynghŷd â unigolion eraill sy’n byw ac yn gweithio yn y brif ddinas. 

Cynhaliwyd y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neithiwr lle roedd pum côr yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4,000. Cafodd y gystadleuaeth ei ddarlledu’n fyw ar S4C yng nghwmni’r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones. 

Cyflwynodd pob côr raglen amrywiol o ganeuon, gan greu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol. Ar y panel beirniadu eleni roedd Grant Llewellyn, yr arweinydd o Gymru; Greg Beardsell, y cawr corawl o Swydd Efrog; a Dr Darius Lim, yr arweinydd byd enwog o Singapôr.

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, Eilir Owen Griffiths, arweinydd Côr Ifor Bach. “Mae gwneud y gystadleuaeth yma wedi bod yn un o’r pethau yna sy’n gwthio’r côr,” 

“Mae’r côr yma dim ond gyda fi ers mis Hydref, ac megis dechrau gobeithio ydi hwn i ni, oherwydd maen nhw wedi gweithio mor, mor galed.”

Penderfynodd y myfyrwyr sefydlu’r aelwyd fel rhywbeth allgyrsiol i’w hastudiaethau er mwyn medru cymdeithasu, canu a chystadlu gyda’i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Un o aelodau’r côr yw’r myfyriwr BA Perfformio, Jona Milone. Meddai

“Wedd hi’n brofiad anhygoel i gystadlu yng Nghôr Cymru gyda chystadleuaeth mor ddwys! Mae e wir yn hudol; o’r foment ble chi’n sefyll ar y llwyfan gyda’r ensemble a chymryd yr anadl gyntaf – cyn mynd ar y siwrne yma gyda’ch cyd-ganwyr.

“Mae Eilir wedi dangos i ni shwt mae Côr Ifor Bach yn lawer fwy na jyst canu fel ensemble, mae’n cynnwys emosiwn, adrodd straeon a pherfformio. Mae’r rhan fwyaf ohono ni yn astudio’r Celfyddydau, ac felly’n joio’r mynegiant o berfformio yma. 

“Gan ddiolch i Ifor Bach, fi wedi dod hyd yn oed agosach i bobl y côr sy’n dod a phobl o’r Brifysgol a phellach at ei gilydd i ganu’n un, fel grŵp o bobl ifanc Cymraeg a dathlu ein hangerdd a chariad tuag at y grefft.” 

Beirniad answyddogol y gystadleuaeth oedd y soprano adnabyddus, Elin Manahan Thomas, 

“Fel rheol buasai beirniad yn dweud ’mod i wedi synnu gydag ansawdd y corau sydd wedi bod yn cystadlu, ond y gwir amdani yw nad ydw i wedi synnu o gwbl,” meddai.

“Llongyfarchiadau enfawr i Gôr Ifor Bach – mae hi wedi bod yn bleser gwrando arnyn nhw yn ein swyno.”

Ychwanegodd Hefin Owen, Cynhyrchydd y gyfres Côr Cymru ar S4C:

“Llongyfarchiadau i Gôr Ifor Bach ar ennill tlws Côr Cymru 2024.Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu.

“Mae’n braf dweud bod y safon eleni mor uchel ag erioed.

“Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon