Skip page header and navigation
four students walking through swansea town

Y Ddinas yw Eich Campws

Y Gorau O Ddau Fyd

Y ddinas fel eich campws? Yma. Egni cyffrous myfyrwyr? Yma. Teimlwch awel y môr a mwynhewch naws y ddinas wrth i chi astudio a chymdeithasu yn Abertawe. Byddwch o fewn pellter cerdded i’r darn pum milltir o draeth tywodlyd syfrdanol - a’r holl dafarndai, bwytai a bywyd nos gorau sydd gan Abertawe i’w cynnig.

Lleoliad Canol y Ddinas

student looking out to sea on the pier

Lleoliad Canol y Ddinas

Byw a dysgu yng nghanol dinas lewyrchus ar lan y môr yn PCYDDS Abertawe. Mae lleoliadau’r brifysgol yn cynnwys rhai o adeiladau hanesyddol harddaf y ddinas ochr yn ochr â rhai o’i hychwanegiadau modern mwyaf newydd.

Byddwch bob amser o fewn cyrraedd hawdd i gyrchfannau’r ddinas ar gyfer siopa, adloniant, diwylliant a bywyd nos, a chyfleusterau chwaraeon. Ac os ydych chi am fynd allan o’r ddinas, ewch i ddarganfod y Mwmbwls – ardal fywiog a hardd yn llawn bariau a bwytai, gyda phier a chastell – a phenrhyn godidog Gŵyr, ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd o ganol y ddinas.

Picture of UWTSD IQ campus made up of red bricks and glass windows under blue skies

SA1 Glannau Abertawe

Mae datblygiad Campws Glannau SA1 ac Ardal Arloesi Abertawe PCYDDS, yn ardal forol y ddinas, wrth ymyl y marina a darn pum milltir o draeth tywodlyd.

Y prif adeilad, yr IQ, yw lle byddwch chi’n datblygu syniadau ffres ac yn darganfod dyfeisiadau newydd gyda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gyda mynediad at offer arbenigol ar gyfer eich astudiaethau a’ch prosiectau. Mae’r IQ hefyd yn gartref i raglenni addysg ac addysg athrawon PCYDDS yn Abertawe. Ac mae ein llyfrgell newydd hynod fodern, Y Fforwm, gyda’i golygfeydd syfrdanol o’r ddinas a’r môr, ychydig gamau i ffwrdd.

Image of Swansea Business Campus, a grey building with glass windows under blue skies

Campws Busnes Abertawe

Eisiau gwneud eich ffordd ym myd busnes neu wasanaeth cyhoeddus? Ar Gampws Busnes Abertawe (SBC) PCYDDS, sydd wedi’i leoli’n gyfleus ger yr orsaf drenau, gallwch ymgolli yn ein graddau busnes arloesol.

Byddwch yn dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol ac academyddion sydd â phrofiad o ddiwydiant – ac yn datblygu’r sgiliau amlbwrpas sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn busnes a rheolaeth, gwasanaethau cyhoeddus, iechyd, neu fel entrepreneur. Hefyd, mae llety myfyrwyr gerllaw, sy’n golygu y gallwch fynd o’ch llety i’ch darlithoedd mewn eiliadau.

Image of UWTSD Alex building with a glass entrance with ALEX in white letters at dusk

Coleg Celf Abertawe

Meddwl am radd greadigol? Mae adeiladau Dinefwr a Heol Alexandra PCYDDS, sydd wrth galon ardal gelf y ddinas a ger oriel gelf ryngwladol Glynn Vivan, yn gartref i Goleg Celf Abertawe.

Gallwch astudio ystod eang o gyrsiau celf a dylunio arobryn yma yn ein gweithdai a’n gofodau stiwdio hardd. A phan fyddwch yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i arddangos eich gwaith yn ein sioe radd flynyddol ledled y ddinas – digwyddiad diwylliannol poblogaidd yn y ddinas a thu hwnt.

students in a light classroom doing art

Beth Fyddwch Chi'n Ei Astudio

Dewiswch ddechrau’r gwaith gydag amcanion gyrfa yn gadarn yn y golwg. Gwnewch donnau mewn busnes. Mynegwch eich hun mewn Celf a Dylunio. Archwiliwch syniadau a datblygiadau arloesol newydd sbon gyda phynciau STEM. Grymuswch y genhedlaeth nesaf drwy addysgu. Mae Abertawe’n gartref i raglenni arloesol sy’n cael eu harwain gan y diwydiant a’u llywio gan yrfaoedd.

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Student overlooking marina

Teithio i Abertawe

Mae ein campws yn Abertawe yn cynnwys sawl lleoliad ar draws y ddinas. Dyma ganolfan addysg ac arloesedd ddeinamig, wedi’i lleoli mewn dinas fywiog sy’n adnabyddus am ei harfordir hardd a’i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.