Skip page header and navigation

Perfformio (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerdydd
2 Flynedd Llawn amser
90 - 120 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Perfformio yn gwrs arloesol, cyfrwng Cymraeg a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae’r cwrs yn datblygu perfformwyr amlddisgyblaethol, hyderus sydd â gwybodaeth gadarn am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt, ac sydd â chysylltiadau â’r diwydiannau hynny. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ddatblygu’n berfformwyr sy’n gallu perfformio yn y theatr, mewn neuaddau cyngerdd neu ar y radio ac mewn stiwdios teledu.

Mae strwythur y cwrs yn uchelgeisiol, a bydd y profiadau a gaiff myfyrwyr yn gyfoethog, amserol ac amrywiol, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer nifer o wahanol yrfaoedd sy’n gysylltiedig â pherfformio.

Cewch eich cyflwyno i ystod o sgiliau amrywiol yn ystod y cwrs a fydd yn eich paratoi i fod yn berfformiwr amryddawn a fydd yn gallu cyfrannu’n greadigol ac yn hyderus mewn nifer o wahanol gyd-destunau.

Trwy gydol dwy flynedd ddwys y cwrs, bydd gennych gyfle i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o’r diwydiant y bydd angen i chi eu meithrin er mwyn gallu gweithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
C68M
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
90 - 120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd yn unig
02
Asesiadau Ymarferol — Dim Arholiadau
03
Cyfle i gymryd rhan mewn cynhyrchiad llawn gyda thîm technegol proffesiynol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Lefel 4 (Medi-Ebrill)

Cyfnod o ddatblygu sgiliau a thechnegau craidd yw Lefel 4. Mae’r 15 wythnos gyntaf yn gyfle i ganolbwyntio ar ddosbarthiadau actio, canu (1 i 1 a gwaith ensemble) a gwaith llais ynghyd â dosbarthiadau Tap, Bale, Jazz a dawns Gyfoes. Bydd cyfle i ddadansoddi ac ymchwilio ystod eang o arddulliau yn ein labordy theatr.

Daw y cyfnod i ben gyda prosiect perfformio sy’n gyfle i gymhwyso yr holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y lefel.

Lefel 5 (Mai-Rhagfyr)

Addysgir Lefel 5 am ryw 10 wythnos y naill ochr a’r llall i’r gwyliau haf. Yn ystod yr wythnosau hyn, byddwch yn datblygu ymhellach eich sgiliau a’ch technegau craidd ym meysydd actio, canu a dawnsio. Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiectau sy’n eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol, gyda phwyslais ar ddatblygu gwaith newydd, clyweliadau ac actio ar gyfer y teledu.

Lefel 6 (Ionawr-Mehefin)

Mae Lefel 6 yn ymwneud â dod â’r sgiliau a’r technegau at ei gilydd mewn dau gynhyrchiad sy’n rhoi cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol. Mae’r modiwl Diwydiannau Creadigol yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i bontio gyda’r byd gwaith yn cynnwys paratoi arddangosfa derfynol. Yn ogystal, byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol a all ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar y radd ac arddangos eich doniau unigol.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dosbarth Perfformio

(20 credydau)

Actio

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 1

(20 credydau)

Canu 1

(20 credydau)

Labordy Theatr

(20 credydau)

Sgiliau Clyweliad

(10 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Diwydiannau Creadigol

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 2

(20 credydau)

Canu 2

(30 credydau)

Prosiect Cydweithredol

(20 credydau)

Cynhyrchiad 1

(30 credydau)

Cynhyrchiad Terfynol

(30 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Proses Clyweldiad ar-lein

    CAM 1: Hunan-dâp

    Dylai darpar fyfyrwyr baratoi hunan-dâp gyda’r cynnwys canlynol:

    1. Un gan mewn arddull sioe gerdd
    2. Monolog: Ni ddylai’r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac nid yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe’ch cynghorir i ddewis cymeriad sy’n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen naturiol. Gall ymgeiswyr berfformio eu monolog naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

    Cofiwch nodi yn glir y manylion canlynol ar ddechrau y tap:

    • Enw llawn
    • Y cwrs rydych yn ymgeisio amdano
    • Teitl y darn a gyflwynir.

    CAM 2: Cyfweliad

    Cewch eich gwahodd i gyfweliad byr gyda thîm y rhaglen ar Zoom. Rhaid i chi baratoi’r canlynol:

    1. Monolog: Ni ddylai’r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac ni ddylai fod yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe’ch cynghorir i ddewis cymeriad sy’n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen frodorol. Dylai ymgeiswyr berfformio’r monolog yn Gymraeg.
    2. Bydd tîm y rhaglen yn gweithio gyda chi ar eich darn dewisol ac yna cwestiynau.

    Yn dilyn clyweliad llwyddiannus bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle. Mae lleoedd cyfyngedig ar gael bob blwyddyn.

    Byddem yn chwilio am 90-120 o bwyntiau UCAS.

    Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.

  • Perfformiadau/digwyddiadau
    Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. 

    Tiwtorialau rheolaidd
    Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

    Cyflwyniadau
    Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

    Gweithlyfrau proses
    Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.