Skip page header and navigation

Y Polisi Derbyn a Thelerau ac Amodau i Ymgeiswyr

Y Polisi Derbyn

Mae’r Polisi derbyn yn egluro nodau’r Brifysgol ynghylch derbyn myfyrwyr ac mae’n disgrifio’r egwyddorion a’r prosesau a ddefnyddir i ddethol a derbyn myfyrwyr newydd i raglenni astudio a addysgir. Dylid darllen y ddogfen Polisi Derbyn ar y cyd â Datganiad Polisi ar Dderbyn Myfyrwyr Anabl

Mae’r Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Adborth, Apeliadau a Chwynion yn gysylltiedig â Derbyn Myfyrwyr yn egluro’r trefniadau i ymgeiswyr gael adborth ynghylch cais aflwyddiannus, apelio ynghylch penderfyniad yn ymwneud â dethol myfyrwyr neu gwyno ynghylch y broses dderbyn.

Telerau ac Amodau i Ymgeiswyr a Myfyrwyr

Os byddwch yn derbyn cynnig ar gyfer lle ar raglen astudio yn y Drindod Dewi Sant, byddwch yn ymrwymo i gytundeb (contract) â ni. Y Cytundeb Myfyrwyr hwn, ynghyd â’ch llythyr cynnig, yw’r contract y byddwn yn ei wneud â chi ac mae’n gontract sy’n rhwymo mewn cyfraith. Mae’n bwysig iawn eich bod yn ei ddarllen yn ofalus cyn derbyn eich cynnig.

Cytundeb Myfyrwyr (2022/23)

Cytundeb Myfyrwyr (2023/24)

Dylid darllen y ddogfen Cytundeb Myfyrwyr ar y cyd â Datganiad Polisi ar Dderbyn Myfyrwyr Anabl.

Ffurflen Ganslo

Gellir defnyddio’r Ffurflen Ganslo‌ i hysbysu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eich bod yn dymuno canslo eich lle ar eich rhaglen ddewisedig.

Costau ychwanegol yn ystod eich astudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant

Mae ffioedd dysgu Y Drindod Dewi Sant yn talu am gost cyflwyno’ch cwrs, a rhaid eu talu bob blwyddyn. Fodd bynnag, efallai y bydd costau ychwanegol eraill yn ystod eich astudiaethau, er enghraifft:

  • Offer cysylltiedig â’r cwrs a gwerslyfrau craidd 
  • Ffioedd stiwdio (Celf a Dylunio) ac offer cysylltiedig
  • Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Costau argraffu
  • Gwisg neu ddillad amddiffynnol
  • Cyfraniadau at gostau cynhaliaeth, cludiant a llety ar gyfer gwibdeithiau maes, arddangosfeydd a sioeau sy’n gysylltiedig â gwaith myfyrwyr, lleoliadau gwaith a, lle bo’r rhain yn cynnwys teithio dramor, yswiriant atebolrwydd iechyd a chyhoeddus
  • Ffioedd aelodaeth cyrff proffesiynol 
  • Costau dewisol cysylltiedig â graddio fel hurio gŵn, tocynnau gwesteion, ffotograffau swyddogol. 

Mae rhai o gyrsiau’r Drindod Dewi Sant yn cynnwys gwibdeithiau maes dewisol a lleoliadau gwaith posibl, lle anogir i chi gymryd rhan ond nid yw hyn yn orfodol, i ddangos deilliannau dysgu modwl neu raglen ac ni fyddwch dan anfantais os na fyddwch yn cymryd rhan. Bydd gofyn i chi dalu costau ychwanegol ar gyfer y gweithgareddau dewisol hyn.

Bydd eich ffioedd dysgu blynyddol yn cynnwys eich ymgais cyntaf i wneud yr holl fodylau angenrheidiol i gwblhau blwyddyn academaidd honno eich rhaglen. Gall gwneud modylau ychwanegol, ail-wneud gwaith a/neu ailadrodd elfennau o gwrs yn gallu gofyn am dâl/costau ychwanegol. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y cwrs penodol.