Skip page header and navigation

Cangen y Drindod Dewi Sant

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.  

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.  

Mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae ganddi Gangen weithgar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Gangen yn trefnu arlwy o ddigwyddiadau cymdeithasol, o ddigwyddiadau’r glas a chinio blynyddol, i’r Côr cymdeithasol a phaned a sgwrs. Yn ogystal, mae’r Gangen yn cynnig cefnogaeth ieithyddol ac ariannol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 

Ysgoloriaethau

Students working together in 1822 Cafe

Ysgoloriaethau

Oeddech chi’n gwybod bod ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael am astudio o leiaf elfen o’ch cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg? 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu’n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg.  Am fanylion llawn am yr ysgoloriaethau, ewch i wefan y Coleg.

Aelod o staff yn sefyll ar bwys baner Cymraeg

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae’r Brifysgol hefyd yn rhoi cyfle i bawb sy’n siarad Cymraeg  i gofrestru ar y Dystysgrif Sgiliau Iaith sy’n rhoi tystiolaeth i gyflogwyr am eich sgiliau iaith ac yn cyfoethogi’ch CV. Gellir cofrestru ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Porth

Llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Coleg yw’r Porth. Fe’i sefydlwyd yn 2009 er mwyn annog Prifysgolion i rannu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg â’i gilydd. Yn sgil hynny, mae wedi datblygu yn ffocws hollbwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r Porth yn seiliedig ar Blackboard, ac yn agored i staff a myfyrwyr yn holl brifysgolion Cymru. 

Mae’n cynnwys: 

  • adnoddau a deunyddiau electronig 

  • oriel gwe 

  • modiwlau a deunyddiau cefnogol 

  • porth chwiliadwy o dermau ar gyfer addysg uwch. 

Er bod y Porth yn cynnwys nifer o adnoddau agored, mae angen cofrestru fel defnyddiwr er mwyn cael mynediad at rai adnoddau (e.e. modiwlau penodol).  Mae’r broses o gofrestru fel defnyddiwr ar y Porth yn rhwydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar dudalen hafan gwefan y Porth

Eich Swyddog Cangen

Mae gan y Coleg Cymraeg Gangen a Swyddog Cangen ym mhob prifysgol ac mae eu prif gwaith yn cynnwys: 

  • Cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg 

  • Cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 

  • Trefnu gweithgareddau cymdeithasol 

  • Cynnig cyfle i fyfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg leisio barn am faterion cyfrwng Cymraeg eu prifysgol 

 Ffion Hann Jones - Coleg Cymraeg

Ffion Hann Jones yw ein Swyddog Cangen yma yn y Drindod Dewi Sant. Er bod ei swyddfa wedi ei lleoli mewn man canolog ar gampws Caerfyrddin, mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn weithredol ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys Abertawe, Llambed, Caerdydd a champysau Coleg Sir Gâr. Mae croeso i ddarpar fyfyrwyr, myfyrwyr a staff, alw draw, e-bostio neu codi’r ffôn os am sgwrs a derbyn cyngor a gwybodaeth ynghylch gwaith y gangen ar unrhyw adeg.  

Am fwy o wybodaeth: 

Ffion Hann Jones 

f.hann-jones@uwtsd.ac.uk

01267 676618 

Insta: @CangenDDS 

Facebook: Cangen y Drindod Dewi Sant 

X: Cangen y Drindod