Datganiadau I'r Wasg 2017

Ail-ymweld â Tsunami de Cymru

20.04.2017

Heno, bydd ail ddarllediad o raglen ddogfen Timewatch ar BBC Four yn trafod ymchwil Yr Athro Simon Haslett, Pro Is Ganghhellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i’r trychineb naturiol gwaethaf i daro tir mawr Prydain.

 

Simon Haslett and Dr Ted Bryant

Mae The Killer Wave of 1607, yn rhaglen ddogfen Timewatch am ymchwil yr Athro Simon Haslett i’r llifogydd trychinebus a achosodd yr hyn y credir yw’r trychineb naturiol gwaethaf i daro tir mawr Prydain, gydag amcangyfrif o 2000 o farwolaethau.

Mae’r Athro Haslett yn Athro Daearyddiaeth Ffisegol ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn 2003, gyda chydawdur o Awstralia, yr arbenigwr tsunami, Dr Ted Bryant, cyhoeddodd ddamcaniaeth bod llifogydd Môr Hafren yn 1607 wedi’u hachosi nid gan storm ond gan tsunami a darodd arfordir de Cymru, Dyfnaint, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw.

Yn ne Cymru, effeithiwyd yn benodol ar Wastadeddau Gwent bob ochr i Gasnewydd, ynghyd â Chaerdydd, ac yn Sir Gaerfyrddin, ysgubwyd pentref cyfan i ffwrdd.

Digwyddodd y llifogydd ar fore 30 Ionawr 1607 ac yn ôl rhai adroddiadau o’r cyfnod, roedd y tywydd yn “fayre and brightly spred” a bod “mighty hilles of water” wedi rhuthro ar draws gwastadeddau’r arfordir o gwmpas Aber Hafren gan achosi marwolaeth a dinistr i’r trigolion, sydd, ochr yn ochr â thystiolaeth arall, yn awgrymu disgrifiad o tsunami yn hytrach na storm.

Wrth son am y rhaglen dywedodd yr Athro Haslett:

“Ffilmiodd Ted a fi’r rhaglen Timewatch yn ystod haf 2004 ac ar y pryd roedden ni’n ofalus i egluro beth oedd tsunami a sut y byddai un yn cael ei sbarduno, gan nad oedd y gair yn gyfarwydd bryd hynny. Fodd bynnag, erbyn darlledu’r rhaglen ym mis Ebrill 2005, yn dilyn tsunami Gŵyl San Steffan 2004, roedd y byd yn deall yn iawn beth yw tsunami a’r dinistr y gall ei achosi.”

Yn dilyn tsunami Gŵyl San Steffan comisiynodd llywodraethau ar draws y byd asesiadau risg tsunami a chasglodd Adroddiad DEFRA yn 2005, oedd yn dyfynnu ymchwil yr Athro Haslett a Dr Bryant, mai de orllewin Prydain yw’r rhan fwyaf tebygol i brofi tsunami yn y DU. Ers hynny, yn anffodus mae tsuanmi erchyll Japan yn 2011 a’r tusnami llai o faint yn Ynysoedd y Solomon yn 2014 wedi atgyfnerthu’r risg mae tsunami’n ei beri i drigolion arfordirol ar draws y Byd.

Ers gwneud Killer Wave of 1607, mae’r Athro Haslett a Dr Bryant wedi mynd ymlaen i gyhoeddi tystiolaeth bellach mewn cyfnodolion gwyddonol a gasglwyd yn ystod eu gwaith maes o gwmpas Môr Hafren:

“O ddarllen y cliwiau yn y dirwedd, mae ein tystiolaeth maes yn awgrymu bod y don yn fwy na 6m (18tr) o uchder yn Aber Hafren ac mewn mannau treiddiodd sawl cilometr i mewn i’r tir.

“Hefyd, er nad oes cofnod pendant o ddaeargryn y diwrnod hwnnw, mae’r cyfnod yn un oedd â lefelau uchel o weithgaredd seismig, gyda dau ddaeargryn yn cael eu teimlo yn ardal Môr Hafren yn ystod yr wythnosau a’r misoedd yn dilyn y llifogydd. Roedd un o’r daeargrynfeydd yn ddigon cryf i achosi i’r dŵr mewn llyn yn Nyfnaint symud yn ôl a blaen, ffenomen a elwir yn seichio.

“Fodd bynnag, mae’n bosibl nad daeargryn oedd achos uniongyrchol tsunami Môr Hafren, ond gallai daeargryd fod yn ddigon i sbarduno tirlithriad tanfor oddi ar y silff gyfandirol a allai greu tsunami.”

Wrth i’w hymchwil ehangu, daeth yn amlwg fod Ynysoedd Prydain wedi profi sawl tsunami drwy hanes, a arweiniodd at ail raglen ddogfen Timewatch Britain’s Forgotten Floods a ddarlledwyd yn 2008.

Nawr, yn 2017, 410 o flynyddoedd ers llifogydd 1607, mae eu hymchwil yn parhau i’n hatgoffa bod tusnami, er eu bod yn ddigwyddiadau prin yn y DU, yn gallu digwydd dros amser ac yn achlysurol yn achosi dinistr a cholli bywyd.

Dangosir Killer Wave of 1607 eto ar BBC Four am 8pm ddydd Iau 20 Ebrill 2017.