Datganiadau I'r Wasg 2017

Arbenigwraig ar wleidyddiaeth Cymru ac ymgyrchydd dros gyfartaledd, Laura McAllister yn cael ei hanrydeddu

13.07.2017

Dyfarnwyd Gymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Laura McAllister gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystod y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd heddiw yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Yn ei gyflwyniad i’r cynulliad, dywedodd Ceredig Emanuel, Pennaeth Chwaraeon, Iechyd a Addysg Awyr Agored, “Braint yw cael cyflwyno Laura McAllister, PhD, Athro, arbenigrwraig llywodraethiant, peldroedwriag ryngwladol, awdures, darlledwraig a sylwebydd – Merch y Dadeni neu’n fwy penodol ‘rywun â nifer o ddiddordebau a doniau’, neu’n well fyth, ‘person a all alw ar gorff o wybodaeth gymhleth er mwyn datrys problemau penodol’.  Y mae’n hanfodol er budd Cymru ein bod yn anrhydeddu, trysori a chefnogi dawn a meddwl mor finiog er mwyn buddio o’i gallu arweinyddaeth amlwg.

“Rwyf wedi cael y fraint dros flynyddoedd lawer i gyflwyno rhai o arwyr chwaraeon y genedl – Ray Gravell, Phil Bennett, Delme Thomas, Gerald Davies, a chyn-fyfyriwr y Drindod, Barry John . . . ac un arall hefyd na fydd rhai efallai yn ei hadnabod - Non Evans MBE – a gynrychiolodd Cymru nid yn unig mewn rygbi ond hefyd jiwdo, codi pwysau a reslo a’r ferch gyntaf i gystadlu mewn thri champ yng ngemau’r Gymanwlad. 

“Pam felly nad yw pobl yn adnabod Non Evans fel pencampwraig arobryn ac yn nabod yr arwyr rygbi mor dda?  Ddydd Mercher cefais y faint hefyd o gyflwyno Chris Coleman, rheolwr tîm pêldroed Cymru a roddodd inni ddwy neges – peidiwch ag ofni breuddwydio a gwnewch yn siwr eich bod yn cael eich cefnogi. 

Cyflwynaf ichi heddi Yr Athro Laura McAllister CBE, a wnaeth freudwydio er efallai na chafoddd yr un gefnogaeth wrth iddi ddilyn ei gyrfa fel peldroedwraig.”

Yn gyn beldroedwraig ryngwladol a chapten y tîm cenedlaethol gyda 24 o gapiau, mae Laura McAllister yn berson amryddawn. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd fel Athro Ymarfer mewn Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru ym mis Hydref 2016.  Mae Laura yn arbenigwr ar ddatganoli a gwleidyddiaeth Cymru.  Yn flaenorol roedd yn Athro Llywodraethiant yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Lerpwl. Graddiodd o Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd lle cwblhaodd radd PhD mewn gwleidyddiaeth.

Mae prif ddiddordebau academaidd Laura yn ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddiaeth, yn benodol:  datganoli, rôl comisiynau wrth lunio polisïau, gwleidyddiaeth ac etholiadau yng Nghymru, chwaraeon a pholisi cyhoeddus, y rhywiau a gwleidyddiaeth.  Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar y meysydd hyn ac mae’i llyfrau diweddar yn cynnwys Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party (2001) a Women and Constitutional Politics in Wales (2007).  Mae’n Athro Gwadd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Queensland, Brisbane, Awstralia ac Ysgol Gweinyddiaeth Genedlaethol Tsieina, Beijing. Mae Laura yn sylwebydd rheolaidd ar y cyfryngau ynghylch gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru a Phrydain a hi oedd y prif ddadansoddwr yn y stiwdio ar gyfer rhaglenni byw BBC Cymru dros nos ynghylch etholiad cyffredinol 2017.

Roedd Laura yn aelod o Gomisiwn Richard ynglŷn â Phwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyflwynodd adroddodd ym mis Mawrth 2004, a rhoddodd gyngor ymchwil i’r Panel Annibynnol ynghylch Cyflogau a Chymorth i’r ACau yn 2008-09. Bu Laura yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Seneddol ac yn gadeirydd Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth ym Myd Llywodraeth Leol (2013-14). Bu hefyd yn gyd-gadeirydd ymchwiliad y Prif Swyddog Gwyddonol i Fenywod mewn pynciau STEM (2014-16). Tan 2015, roedd yn aelod o Fwrdd Taliadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar gyflogau a lwfansau ACau. Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd panel Arbenigol Cynulliad Cymru ar ddiwygio etholiadol gan archwilio'r system etholiadol a’r oed pleidleisio isaf.  

Fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru o 2010 tan 2016 bu Laura yn arwain cyfnod rhyfeddol yn hanes chwaraeon Cymru gyda’r nifer fwyaf o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014 a’r Gemau Olympaidd a’r Para-olympaidd yn 2016.  Bu’n aelod o Fwrdd UK Sport, asiantaeth y Llywodraeth ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, ac ar hyn o bryd, mae’n un o gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae Laura hefyd yn aelod o Bwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA. 

Mae’n un o ymddiriedolwyr y Sefydliad Materion Cymreig, ac yn aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru yn y Cyngor Prydeinig. Roedd hefyd yn arfer bod yn un o Ymddiriedolwyr Stonewall UK. Mae Laura wedi cael graddau er anrhydedd gan Brifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Abertawe a De Cymru.

Cafodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016 ac mae’n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r RSA.

Wrth ddiolch i’r Brifysgol a llongyfarch y graddedigion ar eu llwyddiant, rhannodd Yr Athro McAllister yr hyn sydd wedi’i hysbrydoli i gyfrannau at fywyd cyhoeddus yng Nghymru.  “Tyfais i fyny ym Mhenybont ac fe gawsom ein annog i gredu, ein annog i anelu mor uchel â phosib. Rwyf bob amser wedi credo mewn uchelgais anrealistig a nodau sydd ychydig y tu hwnt i’ch cyrraedd ond gyda gwaith called a dyfalbarhad a phenderfynrwydd, yn aml nid ydynt yn anrealistic ond yn bethau y gallwch eu cyflawni. 

“Pan es i LSE roeddwn yn un o nifer fechan o fyfyrwyr oedd o gefndir ysgol uwchradd ac fe brofiais y teimlad cyffredin o ddiffyg hyder rwy’n credo rydyn ni gyd yn ei brofi os nad ydym wedi dod o gefndir braintiedig . . .  ond dros gyfnod sylweddolais nad yw bod yn freintiedig yn golygu eich bod yn well, a dweud y gwir rwy’n credu fod fy addysg a’m profiad yr un mor dda ag unrhywun arall o ba ysgol bynnag.  Fe ddysgodd imi wers dda rwyf yn ei defnyddio ar gyfer yr holl bethau rwyf wedi’u gwneud yng Nghymru, sef i ddatblygu hunan-hyder oherwydd rwy’n credu fel cenedl ein bod yn hynod o dalentog ond ambell waith yn dioddef o ddiffyg synnwyr o hunan-gred a hunan-hyder.”

Wrth gyfeirio at bwysigrwydd llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 a ddaeth â Chymru at sylw’r byd, dywedodd Yr Athro McAllister “Mae’r cysyniad o uchelgais yn un pwysig ond mae hefyd yn ymwneud â gwaith caled. Dydych chi ddim yn gallu cyflawni unrhywbeth mewn bywyd heb dorchi’ch llewys a gweithio’n galed a dysgodd fy nheulu imi beidio ag ofni gwaith caled.  Rwyf wedi ceisio meithrin hynny ym mhopeth a wnaf.  Felly peidiwch â bod ag ofn yr ergydion sy’n siwr o ddod a pheidwch ag ofni dweud eich dweud. Mae Cymru’n adnabyddus am fod yn dawedog ac ambell waith rwy’n credu ein bod yn rhy nefrus i ddweud pethau sy'n bwysig. . . Rwyf bob amser yn credu eich bod ond yn gwella trwy ddweud wrth bobl a sefydliadau yr hyn mae angen iddyn nhw glywed ac weithiau mae hynny'n anghyfforddus ac yn annymunol ac mae'n gwneud i chi fod yn amhoblogaidd,  ond i mi byddai'n well gen i fod yn amhoblogaidd a cheisio llwyddo na bod yn boblogaidd a pheidio cyflawni llawer".

Gwybodaeth Bellach

Cate Hopkins Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
E-bost: catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk 
Ffôn:
07872 423 788