“Ailfeddwl Globaleiddio yn yr Hen Fyd”: Cynhadledd ryngwladol i’w chynnal yn Y Drindod Dewi Sant Llambed
16.04.2018
Cynhelir cynhadledd ryngwladol amlddisgyblaethol sy’n anelu at archwilio dulliau o ymdrin â thema ‘globaleiddio’ ar draws yr hen fyd ar gampws Llambed Y Drindod Dewi Sant y mis nesaf.
O dan y teitl “Ailfeddwl Globaleiddio yn yr Hen Fyd” bydd hyd at 30 o arbenigwyr academaidd o Asia, Ewrop, De a Gogledd America yn ymweld â Cheredigion i gyflwyno papurau a chymryd rhan mewn trafodaethau yn y digwyddiad tridiau. Ymhlith y prif siaradwyr yn y gynhadledd mae’r Athro Mark Horton o Brifysgol Bryste ac Athrofa Max Planck ar gyfer Gwyddor Hanes Dynol, yr Almaen a’r Athro Michael Sommer o Universität Oldenburg.
Meddai trefnydd y gynhadledd, sef yr Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Rhufeinig ac Archaeoleg yn Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Cysylltiol Ralph Häussler:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal y gynhadledd hon a chroesawu cynifer o arbenigwyr o fri yn y maes i Lambed – cynhadledd ‘fyd-eang’ go iawn yw hon. Diben y gynhadledd yw bwrw goleuni newydd ar ryngweithio ac ymatebion trawsddiwylliannol yn rhanbarthau rhyng-gysylltiedig a phlethedig yr hen fyd.
Dadansoddir materion methodolegol sy'n gysylltiedig â thema ‘globaleiddio’ mewn gwahanol gyd-destunau, yn enwedig defnyddio’r cydsyniad hwn mewn gwahanol ranbarthau a gwahanol gyfnodau'r hen fyd. Yn yr 21ain ganrif, ‘Globaleiddio’ yw un o arwyddeiriau ein hoes fodern, garlamus a rhyng-gysylltiedig. Ond nid rhywbeth newydd yw globaleiddio. Eisoes rhwng 2,000 a 3,000 o flynyddoedd yn ôl, gallwn nodi datblygiadau cymharol, megis rhyngddibyniaeth gynyddol rhwng rhanbarthau anghysbell yr hen fyd. Erbyn hyn, mae craffu cynyddol ar gysyniad ‘globaleiddio’ a chymdeithas gosmopolitaidd yn y byd sydd ohoni. O'r herwydd, bydd astudio globaleiddio ynghylch yr hen fyd yn ein galluogi ni i osod y drafodaeth fodern hon oddi mewn i fframwaith hanesyddol ehangach. Mae croeso i bawb alw draw ar gyfer yr hyn sy’n argoeli bod yn drafodaeth ddifyr dros ben.”
Bydd y Gynhadledd yn dechrau am 8:30a.m. ar 8 Mai ac yn dod i ben ganol dydd ar 10 Mai 2018. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.uwtsd.ac.uk/humanities-performingarts/re-thinking-globalisation-in-the-ancient-world/ neu dudalen Facebook y Gynhadledd - @globallampeter. Mae croeso i chi gysylltu â’r Athro Cysylltiol Ralph Häussler (R.Haeussler@uwtsd.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663