Hafan YDDS - Y Brifysgol - Campysau, Canolfannau a Lleoliadau - Campysau Abertawe - 10 Peth Gorau i’w Gwneud yn Abertawe
10 Peth Gorau i’w Gwneud yn Abertawe
1. Traethau
Mae Traeth Abertawe, sy’n ymestyn am bum milltir ar hyd Bae Abertawe rhwng yr Ardal Forol a ‘Knab Rock’ ger y Mwmbwls, o fewn cyrraedd ar droed o holl gampysau canol y ddinas.
2. Gŵyr
Mae’r penrhyn syfrdanol hwn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y wlad, yn enwog am ei arfordir hardd. Enwir Rhosili yn un o 10 traeth gorau’r byd yn aml.
3. Bywyd Nos
Mae Stryd y Gwynt yn gartref i amrywiaeth o farrau, clybiau a thai bwyta i fyfyrwyr eu mwynhau.
4. Parciau Prydferth
Mae Gerddi Clun, Parc Cwmdoncyn a Pharc Brynmill ymhlith y mannau gwyrdd niferus sydd o fewn cyrraedd rhwydd ar droed neu ar feic o ganol y ddinas.
5. Diwylliant
Mae Abertawe yn llawn orielau, amgueddfeydd a theatrau. Mae yna leoliadau cerddoriaeth fyw, clybiau a gweithgareddau i’w darganfod wrth i chi ddod i adnabod y ddinas fywiog hon.
6. Chwaraeon
Yn gartref i’r Elyrch, parc dŵr dan do mwyaf Cymru ac amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, gan gynnwys syrffio, padlfyrddio, beicio, dringo, tennis a golff. Mae Abertawe yn lle gwych ar gyfer ffaniau chwaraeon.
7. Y Mwmbwls
Wedi’i phleidleisio’r lle gorau i fyw yng Nghymru yn rhestr 2018 y Sunday Times, mae gan yr ardal boblogaidd hon o Abertawe oleudy a phier o Oes Victoria ynghyd ag amrywiaeth o siopau a thai bwyta niferus. Ewch am dro ar hyd Bae Langland i badlo neu syrffio, a chofiwch hufen ia enwog Joe’s!
8. Yr Ardal Forol
Mae datblygiad SA1 newydd YDDS wedi’i lleoli mewn man hardd ger y môr, traeth, afon a marina. Mwynhewch ymlacio yn un o’r caffis a barrau ffasiynol gyda synau glan y môr yn y cefndir.
9. Uplands
Yn enwog ledled y byd am fod yn fan geni Dylan Thomas, y bardd a’r ysgrifennwr, mae gan yr Uplands farrau a chaffis gwych a pharc bendigedig a marchnad awyr agored rheolaidd yn y sgwâr.
10. Digwyddiadau
Mae Abertawe yn croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous, yn cynnwys Penwythnos Mwyaf y BBC, Sioe Awyr Cymru a’r Proms yn y Parc. Mae Stadiwm y Liberty yn cynnal gemau pêl-droed a rygbi yn ogystal â chyngherddau cerddoriaeth gan fandiau a pherfformwyr enwog.