UWTSD Home - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol - Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle
Cynhadledd a Dosbarth Meistr
Cynhadledd Hyfforddi Heddiw am Well Yfory – Cymunedau a Sefydliadau Ffyniannus
Ym mis Tachwedd, bydd gennym ddatblygiad cyffrous i chi, sef, yn hytrach na chynnal cynhadledd eleni rydym yn bwriadu cynnal Dosbarthiadau Meistr dros ddau ddiwrnod gan roi’r cyfle i chi fynd yn fanylach i bynciau drwy roi i chi ragor o gyfle i drafod a dysgu’n ymarferol. Na phoenwch, fe fydd y gynhadledd hyfforddi yn cael ei chynnal y 2021 yn ddigwyddiad a gynhelir bob dwy flynedd.
Yr Athro Stephen Palmer, Centre for Coaching, International Academy for Professional Development Ltd
27 Tachwedd 2019 Abertawe: Adeilad IQ SA1
Bydd yr Athro Palmer yn cyflwyno gweithdy seiliedig ar sgiliau ar Dechnegau Delweddaeth i’w defnyddio o fewn Arfer Hyfforddi.
Yn ogystal â helpu lleihau straen, gall defnyddio technegau delweddaeth helpu hyfforddeion neu gleientiaid i wella’r ffocws ar nodau, cynyddu cymhelliad a gwella hunan-effeithiolrwydd a hyder. Mae’n addo bod yn weithdy difyr iawn!
- Dechrau am 1.30pm gyda chofrestru a chyflwyniad
- Gorffen am 5.00pm
Cynhadledd Hyfforddi Heddiw am Well Yfory – Cymunedau a Sefydliadau Ffyniannus
28 Tachwedd 2019 Abertawe: Village Hotel
Mae’n bleser gan Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol gyhoeddi ei hail Gynhadledd undydd ar Hyfforddi a Mentora yn y Gweithle.
Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar: Hyfforddi Heddiw am Well Yfory – Cymunedau a Sefydliadau Ffyniannus Bydd yn darparu cyfle gwych i glywed gan arbenigwyr rhyngwladol yn y maes gyda phrif anerchiadau i’w cadarnhau, yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn gweithdai.
Fel rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae gan yr Academi gefndir cryf mewn hyfforddi hyfforddwyr a mentoriaid ar gyfer y gweithle ac mae’n falch iawn i allu gwahodd prynwyr hyfforddiant, ymarferwyr, ymchwilwyr Meistr/Doethur a’n cyn-fyfyrwyr i rannu arfer gorau ac ymchwil yn y maes.
Bydd uwch ymarferwyr ac ymchwilwyr yn y maes yn cyfrannu at sesiynau cyfochrog ar y themâu Hyfforddi heddiw am well yfory: Cymunedau a Sefydliadau Ffyniannus. Bydd y cyflwyniadau trwy gyfrwng gweithdai, arddangosiadau perfformio/ymarfer yn ogystal â’r cyflwyniadau ymchwil mwy ffurfiol.
Bydd y gynhadledd hon hefyd yn cynnal digwyddiad rhyngweithio ar gyfer y Gymdeithas Hyfforddi yn yr Academi, canolfan i Gymru gyfan ar gyfer ymchwil hyfforddi a datblygu arfer.
Os hoffech chi hefyd gyfrannu’n uniongyrchol trwy boster yna cyflwynwch grynodeb o'r cyflwyniad erbyn 5 Tachwedd 2019.
I gofrestru
- ar y naill ddigwyddiad neu’r llall, neu’r ddau, cliciwch ar y dolenni canlynol:
Prif anerchiadau:
- Coaching Cultures and What We Have Learned
- Dr Annette Fillery-Travis, Pennaeth Academi Cymru ar gyfer Ymarfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACYPYC) (PCYDDS)
-
Building Momentum for Coaching and Mentoring in the Legal Sector: A 15-year Experimental Journey
Safbwyntiau Sefydliadol
-Dr Nigel Spencer Ysgol Busnes Saïd, Prifysgol Rhydychen
- Developing a coaching culture
- Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter, Heddlu Dyfed Powys
- Manager as Coach and Team Challenge
- Dr Helen Smith, Prifysgol Fetropolitan Manceinion
Gwella ein sylfaen sgiliau:
- Positive Psychology Health Coaching
- Prof Stephen Palmer Athro Ymarfer PCYDDS a Dr Siobhain O’Riordan Centre for Coaching
- Live demonstration of Coaching Supervision
- Dr Alison Hodge, Alison Hodge Associates
- Mindfulness Based interventions: implication for coaching practice
- Dr Peggy Marshall, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Imago Performance Consulting Group
- The impact of brain gender on effectiveness of organisations
- Kate Lanz, Rheolwr Gyfarwyddwr Lanz Executive Coaching
- Questions that challenge unhelpful thinking and questions that explore rather than solve
- Deni Lyall, Winning Performance Associates.
- Enhancing the Coaching Relationship through the Use of Silence
- Gwyn Thomas, Thomas-Hunte Solutions
Datblygiadau newydd o Ymchwil Cyfredol a Chyrff Proffesiynol
- Cyflwyniadau Amser Cinio - Posteri Ymchwil
- Arddangosfeydd gan Gyrff Proffesiynol a Chyhoeddwyr
I’w cadarnhau
Arhoswch am y derbyniad diodydd ar y diwedd gyda gwobrau yn y categorïau canlynol
- Poster gorau yn y gynhadledd
- Y defnydd mwyaf arloesol a/neu effeithiol o hyfforddi a mentora ar gyfer y gymuned
ENWEBIADAU AR AGOR O HYD - E-BOSTIWCH NI
DIWEDDARIAD: Y Gymdeithas Hyfforddi
Derbyniad gyda Gwobrau am y Poster Gorau a Defnydd Arloesol o Hyfforddi yn y Gymuned.
- Gyda digwyddiad rhwydweithio i ddilyn ar gyfer y Gymdeithas Hyfforddi
Mae’r Gymdeithas Hyfforddi yn yr Academi yn rhwydwaith o ymarferwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn archwilio a hyrwyddo’r defnydd o hyfforddi a mentora yng Nghymru i hyrwyddo perfformiad a llesiant unigolion a’u sefydliadau.
Yn y sesiwn hon cyflwynir adnoddau a chyfleoedd y rhwydwaith, a chynigir aelodaeth gysylltiol o’r Gymdeithas am flwyddyn i bob cyfranogwr yn rhad ac am ddim.
- Village Hotel, Abertawe
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
- Ardal Arloesi'r Glannau, Adeilad IQ