Ymchwil ac Ysgolheictod

Mae ymchwil wrth wraidd ein gwaith ym maes datblygiad proffesiynol felly gallwch fod yn sicr bod ein darpariaeth ar flaen y gad o ran ymarfer.

Mae ein prif ddarlithwyr, yr Athro Stephen Palmer, Dr Annette Fillery-Travis a Dr Christine Davies ymhlith yr ymchwilwyr mwyaf cynhyrchiol a ddyfynnir yn aml ym maes hyfforddi, mentora, seicoleg hyfforddi, straen a llesiant, dysgu proffesiynol, addysg ddoethurol, e-ddysgu a newid sefydliadol, gan gynnal ar yr un pryd ffocws cywir ar anghenion eu hymgeiswyr doethuriaeth.

Mae’r Athro Stephen Palmer wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau, a nifer o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid, ac mae Dr Annette Fillery-Travis hefyd wedi cyhoeddi’n helaeth a bod yn rhan o ystod o brosiectau’r UE, gan gynnwys arwain un ar arfer gorau mewn goruchwyliaeth ddoethurol (www.superprofdoc.eu) a’r prosiect cyfredol Horizon 2020 ar e-ddysgu.  Nid yn unig y mae Annette wedi datblygu gweledigaeth unigryw’r Academi yn gartref ar gyfer creu a beirniadu ymchwil cymhwysol ond mae hi hefyd wedi hyfforddi goruchwylwyr doethuriaeth ledled Ewrop wrth ei datblygu. Mae gan Dr Christine Davies ddiddordeb penodol mewn ymchwil addysgegol a gwella profiad myfyrwyr yn ystod eu rhaglen.

Mae gennym Grŵp Ymchwil bywiog ym maes Hyfforddi a Mentora sy’n cwrdd yn fisol yn Llundain ac sy’n gallu cynnig goruchwyliaeth ddoethurol mewn amrywiaeth o feysydd. Os hoffech ymuno â ni ar eich taith ymchwil chi yna edrychwch ar ein rhaglenni doethurol yma.

Rhaglen Uwch Gymrawd DSW

Ar yr adeg allweddol hon i’r Athrofa mae ACDSW wedi creu cyfle am gymrodoriaeth.  Yn ddiweddar rydym wedi mabwysiadu cynllun strategol newydd sy’n rhoi inni’r nod mentrus o ddod yn arweinydd ym maes dysgu seiliedig ar waith, hyfforddi, mentora a llesiant. Gofynnwn gwestiynau newydd i ni ein hunain, ein hymgeiswyr, a’r meysydd yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt. Edrychwn yn ddyfnach o lawer i faterion yn ymwneud â  pherfformiad sefydliadol a llesiant, lle mae angen gwell tystiolaeth, gwell syniadau, a meddylfryd newydd arnom. Rydym yn awyddus i ddod yn bartneriaid â phobl gymwys a all ymuno â ni i archwilio rhai heriau allweddol yn ein gwaith.  

Pa fath o waith fydd yn cael ei wneud gan yr Uwch Gymrodyr DSW?

Bydd pob cymrawd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ACDSW, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Ymchwil ar bynciau blaenoriaethol yn gysylltiedig â hyfforddi, mentora a llesiant ac i adnabod cyfleoedd ar gyfer mentrau a rhaglenni’r Athrofa;
  • Rhyngweithio ag arweinwyr meddwl allweddol yn natblygiad mentrau’r Athrofa; 
  • Ysgrifennu ac ymchwilio i gynnwys ar gyfer gohebiaeth yr Athrofa, gan gynnwys blogiau ac erthyglau; a  
  • Rhyngweithio gyda myfyrwyr doethurol ACDSW

Caiff cymrodyr y cyfle i gymhwyso eu profiad bywyd, proffesiynol ac academaidd, i feddwl am heriau newydd a chyfredol gyda’r nod o gyflwyno safbwyntiau newydd i’n gwaith. 

Os yw’r cyfle hwn yn apelio atoch, lawrlwythwch y manylion canlynol ac ymgeisio trwy gyflwyno’r ddogfennaeth briodol i coaching@uwtsd.ac.uk.