Y Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)
Cyflwynir Addysg Athrawon trwy Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Athrofa (PDPA).
Gydweithrediad gwirioneddol rhwng Yr Athrofa: Addysg a'r Dyniaethau ac ysgolion partner, mae PDPA wedi datblygu ar y cyd raglenni ar gyfer athrawon ar bob cam o’u bywyd proffesiynol – o athrawon dan hyfforddiant sy’n cychwyn ar eu gyrfa hyd at arweinwyr systemau sy’n rheoli newid.
Mae PDPA yn defnyddio model rhwydwaith arloesol er mwyn lleoli athrawon dan hyfforddiant, gyda 18 o Ysgolion Partner Arweiniol yn cefnogi rhwydweithiau ehangach o Ysgolion Partner. Ceir mwy o wybodaeth am yr ysgolion hyn, sydd wedi’u lleoli ar draws de Cymru
- "Myfyrwraig aeddfed yn cyrraedd y brig wrth iddi ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth." Darllenwch fwy...
Dull newydd ac arloesol o addysgu athrawon
Cyngor y Gweithlu Addysg
Mae pob un o’n rhaglenni addysg athrawon wedi’i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Mae hon yn safon ansawdd gydnabyddedig sy’n angenrheidiol er mwyn gallu addysgu yng Nghymru. Mae’r safon yn drosglwyddadwy ar draws y DU.