Ydds Hafan - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg - Academi TG - CCNA Llwybro a Switsio
Mae cwricwlwm Llwybro a Switsio CCNA Cisco Networking Academy® wedi’i lunio ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am swyddi TGCh lefel mynediad neu’n cynllunio dilyn sgiliau TGCh mwy arbenigol.
Mae Llwybro a Switsio CCNA yn trin a thrafod ystod eang o bynciau rhwydweithio, o hanfodion i uwch gymwysiadau a gwasanaethau, gyda chyfleoedd am brofiad ymarferol a datblygu sgiliau gyrfaol. Bydd myfyrwyr yn barod i sefyll arholiad ardystiad Llwybro a Switsio CCNA® ar ôl cwblhau cyfres o dri modwl. Ym mhob modwl, bydd myfyrwyr y ‘Networking Academy™’ yn dysgu cysyniadau technoleg gyda chefnogaeth cyfryngau rhyngweithiol a chymhwyso ac arfer yr wybodaeth hon trwy gyfres o weithgareddau ymarferol a ffug sy’n atgyfnerthu eu dysgu.
CCNA Llwybro a Switsio
Cewch baratoi i gymryd arholiad ardystiad Cisco CCENT ar ôl cwblhau’r ddau fodwl cyntaf a/neu arholiad Llwybro a Switsio CCNA ar ôl cwblhau pob un o’r pedwar modwl. Rhaid bwcio a thalu am yr arholiadau ar wahân drwy ganolfan brawf Pearson Vue.
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CADW LLE AR DDIWRNOD BLASU CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
£1,250
Pam dewis y cwrs hwn
- Dysgu hanfodion llwybro, switsio, ac uwch dechnolegau i baratoi at arholiadau ardystio CCNA, rhaglenni gradd cysylltiedig â rhwydweithio, a gyrfaoedd lefel mynediad.
- Datblygu sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau gan ddefnyddio offer real a ‘Cisco Packet Tracer’.
- Cymwys i gael taleb gostyngiad ar gyfer arholiad ardystiad CCNA.
- Mae asesiadau wedi’u mewnosod yn darparu adborth ar unwaith i gefnogi gwerthusiad gwybodaeth a sgiliau a gafaelwyd.
- Wedi’i addysgu gan staff sydd ag ardystiadau academaidd a diwydiannol perthnasol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Llwybro a Switsio CCNA yn addysgu cysyniadau rhwydweithio cynhwysfawr, o gymwysiadau rhwydwaith i’r protocolau a gwasanaethau a ddarperir i’r ymgeiswyr hynny gan haenau isaf y rhwydwaith. Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen o rwydweithio sylfaenol i fodelau rhwydweithio menter a damcaniaeth mwy cymhleth yn hwyrach yn y cwricwlwm.
Cyflwyniad i Rwydweithiau: Mae’r modwl cyntaf hwn yn y CCNA yn cyflwyno gwahanol bensaernïaeth, modylau, protocolau, ac elfennau rhwydweithio - swyddogaethau sydd eu hangen i gefnogi gweithrediadau a blaenoriaethau cwmnïau Fortune 500 i fanwerthwyr arloesol bach. Cewch hyd yn oed gyfle i adeiladu rhai rhwydweithiau ardal leol syml (LAN) eich hun. Bydd gennych wybodaeth ddigonol o gynlluniau cyfeiriadau IP, diogelwch rhwydwaith sylfaenol, a gallu perfformio ffurfweddiadau sylfaenol ar gyfer llwybrwyr a switshis. Nid oes angen unrhyw rhagofynion.
Switsio, Llwybro, a Hanfodion Diwifr: Mae’r modwl hwn yn ffocysu ar dechnolegau switsio a gweithrediadau llwybro sy’n cefnogi rhwydweithiau busnes bach i ganolig, gan gynnwys rhwydweithiau ardal lleol diwifr (WLAN) a chysyniadau diogelwch. Byddwch yn perfformio ffurfweddiad a datrys problemau rhwydwaith, adnabod a lliniaru bygythiadau diogelwch LAN, a ffurfweddu a diogelu WLAN sylfaenol. Argymell ffyrdd i baratoi: CCNA: Cyflwyniad i Rwydweithiau neu feddu ar wybodaeth gyffelyb.
Rhwydweithio Menter, Diogelwch, ac Awtomatiaeth: Mae’r trydydd modwl yn y gyfres CCNA yn disgrifio’r dulliau pensaernïaeth ac ystyriaethau sy’n gysylltiedig â dylunio, diogelu, gweithredu a datrys problemau rhwydweithiau menter. Mae’n trin a thrafod technolegau rhwydwaith ardal eang (WAN) a mecanweithiau ansawdd gwasanaeth (QoS) a ddefnyddir i ddiogelu mynediad o bell gan gyflwyno rhwydweithio a ddiffinnir gan feddalwedd, creu rhith amgylcheddau, a chysyniadau awtomatiaeth sy’n cefnogi digideiddio rhwydweithiau. Gwaith paratoi a argymhellir: CCNA: Hanfodion Switsio, Llwybro, a Diwifr neu feddu ar wybodaeth gyffelyb.
Mae’r Academi Rhwydweithio yn darparu profiad dysgu cyfoethogi a chynhwysfawr trwy’r defnydd o asesiadau ac offer arloesol. Caiff asesiadau ffurfiannol a chrynodol eu hintegreiddio yn y cwricwla a’u cefnogi gan uwch system darparu ar-lein i ddarparu adborth cyfoethog ar unwaith sy’n cefnogi gwerthusiad yr hyfforddwr a’r myfyriwr o’r wybodaeth a’r sgiliau a gaffaelir. Mae rhaglenni Academi Cisco yn cynnig casgliad llawn o asesiadau i gefnogi dysgu yn yr 21ain ganrif: Ffurfiannol, crynodol ac asesiadau Sgiliau ‘Packet Tracer’ Cisco.
Dolenni Cysylltiedig
Achrediadau Proffesiynol
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn cynnig y cyfle i gofrestru gan Gymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ar gyfer statws llawn.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes unrhyw rhag-ofynion
Os ydych chi’n hoffi trwsio pethau, dysgu’n gyson ac yn gwerthfawrogi datrysiad coeth i broblemau cymhleth, fe allech chi hoffi swyddi ym maes rhwydweithio. Bod yn barod i gyfleu cynlluniau, cydweithredu gyda chydweithwyr, creu cyllideb ac adeiladu tîm. Mae rhaglen Academi Rhwydweithio Cisco yn eich rhoi ar ben ffordd i gael y swyddi hyn.
Teitl Swydd: Gweinyddwr Rhwydwaith, Dylunydd Rhwydwaith, Peiriannydd Rhwydwaith, Darparwr Datrysiadau
Ffi ardystio Diwydiant CCNA sydd tua $200.
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.