Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cynnig cyfleusterau a chymorth eithriadol a hyfforddiant er mwyn hyfforddi eich hyfforddwyr Cisco.
Rydym yn cynnig:
- Canolfannau hyfforddi yn yr adeilad IQ, gan gynnwys labordy hyfforddi rhwydweithio a diogelwch newydd.
- Cyfrifiaduron personol â manyleb uchel
- Ystod helaeth o lwybrwyr, switshis, waliau tân Cisco ac efelychwyr WAN
- Mynediad at ein cyfleusterau NETLAB
- Hyfforddwyr profiadol, cymwys a llawn cymhelliant sy’n gallu darparu holl gwricwlwm cyfredol Cisco
- Staff gweinyddol a chymorth pwrpasol
- Gwefan pwrpasol a Rhith-amgylchedd Dysgu
- Darlithfeydd ar gyfer cyfarfodydd grŵp mawr
Bydd dosbarthiadau ar gael ar-lein chwe wythnos cyn y gweithgarwch yn y dosbarth. Bydd cymorth e-bost, ffôn, WebEx a Skype ar gael yn ystod y chwe wythnos hyn.
Wrth fynychu dosbarthiadau, bydd gan fyfyrwyr fynediad i faes parcio am ddim (yn amodol ar argaeledd), cinio a lluniaeth arall.
Ar ôl cwblhau’r dosbarth hwn yn llwyddiannus, bydd hyfforddwyr yn cael 12 mis o gymorth ar gyfer y canlynol:
- Helpu Hyfforddwyr i ddeall gofynion offer labordy.
- Cynorthwyo wrth ateb cwestiynau hyfforddwyr ynghylch cwricwlwm, asesu neu ymarfer labordy.