Ysbrydoliaeth ~ Creadigrwydd ~ Arloesedd ~ Cyfleoedd
Mae ‘Cystadleuaeth Mentergarwch ac Arloesi’ yn tynnu sylw at ddatrysiadau Cyfrifiadurol arloesol gan fyfyrwyr sy’n astudio yn Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol y Drindod Dewi Sant.
Mae Cystadleuaeth yn rhan o fodwl Prosiect Grŵp Arloesi sy’n galluogi ac yn cynorthwyo myfyrwyr i ffurfio timau rhyngddisgyblaethol i ddarganfod a rhyddhau eu potensial. Maent yn datblygu arloesedd blaengar a sgiliau cyflogadwyedd ac yn cyflwyno eu syniadau arloesol, prototeipiau a chynlluniau dechrau busnes technoleg newydd i banel o arbenigwyr o’r diwydiant.
Mae’r Gystadleuaeth yn ddigwyddiad sy’n annog ymgysylltu gan fyfyrwyr a chyfranogiad gan y gymuned. Fe’i noddir gan bartneriaid ysbrydoledig yn y diwydiant sy’n awyddus i gefnogi mentrau newydd arloesol, cyflogi graddedigion newydd, darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, gweithio ar brosiectau cydweithredol y flwyddyn olaf a chyfrannu at ddatblygiad a thwf ein myfyrwyr a’n cymuned.
Mae myfyrwyr buddugol wedi derbyn cyllid sbarduno i ddatblygu eu prototeipiau, creu Cwmnïau Busnes Technoleg newydd, cyflogi graddedigion lleol a chyfoethogi ein heconomi.