Hanes
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Phrifysgol Coleg Y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed. Ar y 1 Awst 2013, Daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS. Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol.
Campws Llambed
Sefydlwyd y campws yn 1822 fel Coleg Dewi Sant i ddarparu addysg ryddfrydol i aelodau’r glerigiaeth.
Dros y blynyddoedd, fe ddatblygodd ystod o bynciau a, fel Prifysgol Cymru Llambed, roedd gan y brifysgol enw da am ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn Saesneg, Archeoleg, Tsieinëeg, y Clasuron, Hanes, Diwinyddiaeth, yn ogystal â chyflwyno meysydd newydd fel Athroniaeth, Anthropoleg, Gwareiddiadau Hynafol ac Ysgrifennu Creadigol.
Nawr, yn PCYDDS, mae’r gymuned academaidd yn parhau i ffynnu ac mae’r portffolio a gynigir yn denu carfan ryngwladol o fyfyrwyr bob blwyddyn.
Campws Caerfyrddin
Adeilad gwreiddiol 1848 sydd yng nghanol campws Caerfyrddin. Ei enw gwreiddiol oedd Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy, ac fe’i sefydlwyd i hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion yr eglwys yng Nghymru a Lloegr. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw’n Goleg Y Drindod ac yna yn Goleg Prifysgol Y Drindod cyn uno â Phrifysgol Cymru Llambed i greu PCYDDS.
Campysau Abertawe
Yn ystod y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif roedd yna dri sefydliad addysgol ar wahân yn gwasanaethu ar ddinas Abertawe: Coleg Celf Abertawe (sefydlwyd yn 1853); Coleg Addysg Abertawe (sefydlwyd yn 1872) a Choleg Technegol Abertawe (sefydlwyd yn 1895).
Yn 1976, daeth y tri sefydliad ynghyd i ffurfio Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, a ddaeth yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn y pendraw. Yn 2008, rhoddodd y Cyfrin Gyngor ganiatâd i’r sefydliad gael ei ail-enwi’n Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, unodd y sefydliad â champysau Llambed a Chaerfyrddin i greu’r PCYDDS newydd.
Llinell Amser
Prifysgol Llambed
- 1822 Sefydlu Coleg Dewi Sant gan yr Esgob Burgess
- 1827 Derbyn y myfyrwyr cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi
- 1828 Derbyn y siarter gyntaf
- 1960 Cael y cyllid cyntaf gan y Pwyllgor Grantiau Prifysgol
- 1971 Ymuno â Phrifysgol Cymru
- 1971 Newid yr enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant
- 1996 Newid yr enw i Brifysgol Cymru Llambed
- 2010 Uno â Choleg Prifysgol Y Drindod a chreu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Coleg Prifysgol Y Drindod Caerfyrddin
- 1847 Gosod carreg sylfaen Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy
- 1848 Agor y Coleg
- 1931 Mabwysiadu'r enw newydd, sef Coleg Y Drindod
- 1990 Achredu gan Brifysgol Cymru ar gyfer graddau
- 2008 Cyflawni grymoedd dyfarnu graddau a addysgir
- 2009 Cyflawni statws Coleg Prifysgol
- 2010 Uno i mewn i Brifysgol Cymru Llambed a chreu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
- 1853 Sefydlu Coleg Celf Abertawe
- 1872 Sefydlu Coleg Addysg Abertawe
- 1895 Sefydlu Coleg Technegol Abertawe
- 1976 Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg
- 1991 Athrofa Addysg Uwch Abertawe
- 2008 Cyflawni statws Prifysgol a newid yr enw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe
- 2013 Uno i mewn i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- 2010 Ffurfio’r Brifysgol trwy Siarter Frenhinol atodol 1828
- 2013 Uno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe
- 2013 Coleg Sir Gâr yn uno â Grŵp PCYDDS
- 2014 Coleg Ceredigion yn uno â Grŵp PCYDDS