Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Tystysgrif Addysg Uwch - Astudiaethau Nyrsio a Gofal Iechyd Proffesiynol (Tystysgrif)
Mae Iechyd a Gofal yn newid yn y cyfnod digynsail hwn. Ni fu’n bwysicach erioed o’r blaen i’r bobl iawn gael y swyddi iawn yn y sector. Bydd angen i chi fod yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd neu Gynorthwyydd Gofal Iechyd ar hyn o bryd i wneud cais i’r cwrs hwn.
Os oes gennych y brwdfrydedd a’r ysfa i fynd i faes Nyrsio, Gwyddor Parafeddyg, Bydwreigiaeth neu unrhyw faes arall o hyfforddiant iechyd ond mae angen help arnoch i gael y cymwysterau iawn, mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Cynhelir y rhaglen hon ar y cyd â’n bwrdd iechyd a phartneriaid sefydliadau iechyd. Fe’i cynlluniwyd i roi’r cyfle i chi ddarparu tystiolaeth o’r sgiliau a medrau rydych yn eu harddangos wrth eich gwaith. Mae’n cyd-fynd yn agos â gofynion y Cyngor Nyrsio a’r Cyngor Meddygol.
Mae ein portffolio unigryw o raglenni wedi’u cynllunio i gynnig dysgu hyblyg ar gyfer bywydau hyblyg ac mae’n gweithio o’ch cwmpas chi a’ch ymrwymiadau gwaith a gofal.
Rydym hefyd yn cynnig pob modwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Tystysgrif mewn Astudiaethau Nyrsio a Gofal Iechyd Proffesiynol (1 flwyddyn)
Cod UCAS: NPH8
Gwnewch Gais Nawr
Cynigir ein holl raglenni ar ffurf AMSER LLAWN a RHAN-AMSER.
Rydym hefyd yn cynnig dau opsiwn dros DDWY neu DAIR BLYNEDD — mae hyn yn dibynnu ar lefel bresennol eich cymwysterau a’ch profiad cyflogaeth (gweler y meini prawf mynediad isod).
Sylwer: bydd cwblhau rhaglen DWY FLYNEDD yn llwyddiannus yn arwain at flwyddyn astudio ‘ar ben’ ddiamod er mwyn i chi sicrhau eich BSc.
Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
5 Rheswm dros astudio Nyrsio a Gofal Iechyd Proffesiynol
- Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu cyfunol fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd
- Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio
- Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Rydym yn eich cefnogi wrth i chi weithio o gwmpas patrymau eich shifftiau
- Rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r profiad sydd gennych yn barod wrth wneud eich cais
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn darparu sylfaen damcaniaethol ac ymarferol i ymchwil ac astudiaethau nyrsio, yn ogystal â hyfforddi mewn sgiliau a thechnegau addysgol uwch. Rydym hefyd yn cynnig mynediad i sefydliadau a phobl allweddol cyfredol o fewn y sector iechyd. Rydym hefyd yn darparu lefel uchel o gymorth academaidd ar draws y brifysgol gyfan i helpu cryfhau eich sgiliau academaidd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y sector iechyd ac addysg i sicrhau bod y rhaglen hon yn barod ar gyfer y sector.
Rydym hefyd yn cynnig cymhwyster mathemateg TGAU AM DDIM yn rhan o’r cwrs. Mae pob modwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Fe’ch anogir i wneud cais am eich gradd iechyd dewis cyntaf wrth i chi astudio gyda ni. Os byddwch yn dewis aros gyda ni ar ôl pasio eich blwyddyn gyntaf, rhoddir i chi gynnig diamod ar gyfer ail flwyddyn unrhyw gwrs yn y portffolio iechyd. Y rhain yw:
- Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd
- Rheolaeth Iechyd a Gofal (BSc, Dip AU, Tyst AU)
- BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- BSc Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc
Wrth basio’r ail flwyddyn, gallwch ychwanegu ato i radd lawn mewn unrhyw rai o’n rhaglenni BSc.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio sgiliau academaidd, ymchwil iechyd, technegau cyfathrebu, ac anatomeg a ffisioleg a’r model iechyd biofeddygol. Mae pob modwl yn gysylltiedig â’r Medrau NMC ac yn darparu cyfleoedd i ddarparu tystiolaeth o’r sgiliau ymarferol rydych yn eu defnyddio yn eich rôl bresennol.
Ymhlith yr asesiadau mae; traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau a phortffolios proffesiynol.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch medrau a’ch gallu i fodloni’r gofynion o ran sgiliau’r rôl rydych yn ymgymryd ag ef yn rhan o’r cwrs hwn.
Cewch eich cefnogi wrth ddefnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth, cyfathrebu a threfnu ar gyfer eich aseiniadau.
Dolenni perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Tania Davies
- Karen Hudson
- Neil Hapgood
- Ben Duxbury
- Joanna Fender
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y sector iechyd a gofal yn unig.
Mae’n well gennym ymgeiswyr sydd â chymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i natur y cwrs caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol:
- Eich rôl bresennol a sefydliad
- Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
- Os ydych chi’n siarad Cymraeg
- Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael
Mae gennym system cymorth cyflogaeth a phrofiad gwaith cryf iawn yn y Portffolio Iechyd. Rydym wedi llunio partneriaeth gydag Asiantaeth Nyrsio uchel ei pharch i ddarparu cyfleodd ar gyfer rolau â thâl a gwirfoddol o fewn iechyd a gofal. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â byrddau iechyd lleol a phrifysgolion i sicrhau na fyddwch yn methu cyfle i wneud cynnydd.
Mae gan y cwrs hwn gyfradd dilyniant addysg uwch arbennig o uchel, gyda tua 75% o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn mynd ymlaen i’w gradd dewis cyntaf. Mae’r rhain yn cynnwys nyrsio oedolion cyffredinol, nyrsio pediatrig, gwyddor barameddygol, bydwreigiaeth a therapi galwedigaethol ar draws y DU.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i’n tudalennau Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.