Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd (Dip AU, Tyst AU)
Mae’r Dyst AU a’r Dip AU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd wedi’u datblygu i helpu ymgeiswyr nyrsio brwdfrydig i gyflawni eu huchelgeisiau a breuddwydion.
Mae’r rhaglenni’n darparu’r wybodaeth, sgiliau a chymwysterau sy’n cynyddu tebygolrwydd ymgeiswyr gradd o gael mynediad i’w dewis cyntaf o gwrs gradd.
Wrth astudio’r Dip AU, bydd myfyrwyr yn parhau i wneud cais i’w dewis rhaglen radd, a gadael cwrs Y Drindod ar ddiwedd blwyddyn un y amodol ar pryd y cânt eu lle.
Cynigir pob rhaglen yn llawn amser a rhan amser.
Rydym hefyd yn cynnig dau opsiwn ar gyfer astudio dros dwy a thair blynedd – mae hyn yn amodol ar lefel cyfredol eich cymwysterau a phrofiad cyflogaeth.
Mae cwblhau rhaglen dwy flynedd yn llwyddiannus yn arwain at flwyddyn astudio ‘atodol’ diamod er mwyn i chi ennill eich BSc.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein rhaglenni, oherwydd y ffocws ar gyflawni’r nod eithaf sef statws nyrsio cymwysedig.
- Mae strategaeth dysgu’r rhaglenni’n gofyn i fyfyrwyr gwblhau dau fodiwl arfer gweithle/profiad gwaith i ymarfer eu sgiliau arfer proffesiynol mewn amgylcheddau byd go iawn.
- Mae gan yr holl staff addysgu gysylltiadau agos gyda diwydiant, maent yn neu wedi bod yn ymarferwyr wrth eu gwaith a/neu yn meddu ar ddyfarniadau cyrff proffesiynol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Prif nodweddion diffiniol y rhaglenni yw cynnig llwybr i mewn i addysg nyrsys i ddarpar nyrsys a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig nad yw wedi bod ar gael iddynt o’r blaen.
Mae staff yn ymfalchïo yn lefelau uchel y cymorth academaidd a ddarperir i fyfyrwyr.
Staff Mae gan staff rwydwaith o weithwyr proffesiynol y gellir ei ddefnyddio i gynnig sesiynau gwadd, hyfforddiant am ddim, ffug gyfweliadau, arweiniad a chefnogaeth.
Mae’r cwrs yn esblygu’n gyson yn unol ag adborth o’r diwydiant.
Blwyddyn 1 – Lefel 4 – Tyst AU
- Cyfathrebu a Chwnsela (20 credyd)
- Cyflwyniad i Ymchwil Iechyd (20 credyd)
- Cyflwyniad i Ffisioleg y Corff (20 credyd)
- Rheoli Sefydliadau ym maes Nyrsio (20 credyd)
- Datblygiad Personol ac Academaidd ym maes Nyrsio (20 credyd)
- Ymgysylltu â Diwydiant a Phroffesiynoldeb (20 credyd)
Blwyddyn 2 – Lefel 5 - Dip AU
- Dysgu Cydweithredol ar Waith (20 credyd)
- Gofal Cymunedol (20 credyd)
- Byw’n Dda: Yr Unigolyn Hŷn mewn Cyd-destun (20 credyd)
- Ffisioleg y Corf fyn cynnwys Maetheg (20 credyd)
- Seicopatholeg ac Ymatebion Therapiwtig mewn Iechyd (20 credyd)
- Hybu Iechyd Cyhoeddus (20 credyd)
Mae pob modwl yn orfodol.
Ni ddefnyddir arholiadau’n drwm yn y rhaglenni am fod ffocws yr asesu ar ymarfer gweithgareddau a gyflawnir yn nodweddiadol yn yr amgylchedd nyrsio a gofal iechyd.
Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu.
Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau; sy’n cynnwys.
- Ymarferion sefydlog ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
- Chwarae rôl (e.e. cyfweliadau nyrsio ffug gyda phenaethiaid diwydiant)
- Cyflwyniadau
- Portffolio nyrsio proffesiynol (yn adlewyrchu gofynion y diwydiant)
- Prosiectau ymchwil
- Blogiau adfyfyriol
- Mentora gan gymheiriaid
- Beirniadaeth fideo
- Traethodau
- Adroddiadau
- Profiad gwaith/lleoliadau.
Dolenni perthnasol
Campws Busnes Abertawe
Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?
Gwybodaeth allweddol
- Tania Davies
- Karen Hudson
- Neil Hapgood
- Joanna Fender
- Ben Duxbury
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â naill ai cymhwyster lefel 2 neu 3. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ystod o lwybrau sydd ar gael o fewn y portffolio iechyd, caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar ei rinwedd ei hun. Golyga hyn y gallwn gymryd eich profiad bywyd a gwaith yn eich swydd bresennol i ystyriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol yn glir yn eich datganiad personol.
- Os oes gennych neu os oes angen cymhwyster TGAU mathemateg (neu gyffelyb) arnoch
- Os ydych chi’n siarad Cymraeg
- Unrhyw brofiad gwaith neu gyflogaeth cysylltiedig
- Unrhyw brofiad o ofal neu gymorth yn y teulu
- Y math o rôl gofal iechyd yr hoffech ei chael.
Mae’r Brifysgol wedi creu partneriaeth gyda Trinity Nursing Services, asiantaeth nyrsio a gofal cenedlaethol, er mwyn sicrhau hyfforddiant am ddim ar lefel gweithiwr cymorth gofal iechyd, gwasanaeth cynefino â blaenoriaeth, ac yn bwysicach oll, y cyfle i weithio fel cynorthwywyr nyrsio asiantaeth â thâl ledled Cymru.
Mae staff yn darparu arweiniad gyrfaoedd i ddysgwyr, yn ogystal â chynnig llwybr dilyniant diffwdan ar gyfer ein myfyrwyr nyrsio i unrhyw gwrs arall a gynigir o fewn y portffolio ehangach.
I’r rheiny sy’n symud ymlaen i gyrsiau bwrsariaeth y GIG, cyflogaeth â thâl, neu gyrsiau eraill yn Y Drindod, rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr staff gwasanaethau proffesiynol mewnol i hwyluso’r broses.
Oherwydd y modwl ymarfer gwaith yn y rhaglen hon, bydd gofyn i’r myfyrwyr dalu am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol (BSc, DipAU)
- Rheolaeth Iechyd a Gofal (BSc, Dip AU, Tyst AU)
- Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (BSc, Dip AU)
- Gofal (TystAU)
- Astudiaethau Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd (Tyst AU)
“Mae’r cwrs wedi helpu i gyrraedd fy nodau addysgol ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i mi ddod o hyd i’m lle ar fy ngradd. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel.”
Nanteos Phillips
“Mae wedi fy helpu i gael y graddau yr oedd arna i eu hangen i ddechrau fy ngradd nyrsio. Roeddwn i wrth fy modd â chwnsela, anatomi a’r cyfle i wneud ymarfer gweithle. Os oes awydd didwyll arnoch i wireddu’r amcanion sydd wrth eich calon, bydd y cwrs hwn yn ddigon i’ch gwthio chi ymhellach.”
Sharde Dovaston
“Cwrs anhygoel gyda’r grŵp gorau o ddarlithwyr y mae pob un yn gyfeillgar, agos atoch, cefnogol a hynod ddeallus a gwybodus. Ni fyddwn i yn y sefyllfa’r ydw i ynddi ar hyn o bryd, gan ddechrau fy ngradd ym mis Medi, heb y cwrs hwn. Mwynheais bob agwedd, a’m hoff fodylau oedd y rhai ar arweinyddiaeth a threfnu, cyfathrebu a chwnsela a ffisioleg/anatomi.”
Eleise Evans
“Diolch i’m darlithwyr a’r staff. Roedd bob amser yn hawdd mynd atyn nhw ac roedden nhw’n gefnogol iawn. Rwy wedi cyfarfod â phobl arbennig a gwneud ffrindiau arbennig gydol fy amser ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. “
Eva Castro Jara
“Rwy wedi cael blas ar y cwrs hwn, heb os gwnaeth i mi ddeall mwy amdana i fy hun ac eraill o’n cwmpas.”
Kirsty Briscoe
“PEIDIWCH Â CHEFNU AR EICH DYHEADAU!”
Sally Gordon
“Bydd y cwrs hwn yn arwain at fwy o gyfle a gwybodaeth ynghylch eich dyfodol.”
Sophie Webb
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.