Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
Mae’r Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn ymrwymedig i ddatblygu graddedigion creadigol, medrus a chyflogadwy. Mae integreiddio theori ac ymarfer, dod o hyd i atebion i broblemau anodd a gallu deall eu cryfderau personol yn rhoi pasbort sgiliau i bob person graddedig ar gyfer cyflogadwyedd. Rhoddir sylw mawr i daith bersonol, broffesiynol ac addysgol y myfyriwr; gan ddarparu cyfleoedd hyblyg i astudio ar raglenni a grëwyd gyda diwydiant a'r sector cyhoeddus.
Yma yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, rydym yn falch i gynnig ystod o gyrsiau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Archwiliwch ein cyrsiau cyfrwng Cymraeg ac edrychwch ar fanteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yma yn Y Drindod Dewi Sant.