Skip page header and navigation

Addysg Gynradd gyda SAC (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
115 o Bwyntiau UCAS

Bydd graddedigion y cwrs hwn yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro proffesiynol, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.

* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
X120
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
115 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.
02
Llwybrau Cymraeg a Saesneg ar gael.
03
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:

  • Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
  • Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd, a chaiff y dull trawsnewidiol ei gyflawni;
  • Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen a fydd yn sail i astudiaeth israddedig;
  • Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall myfyrwyr ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm.
  • Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
  • Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
  • Datblygu Sgiliau’r Gymraeg – llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.

Bydd cyfanswm o 24 awr wedi’i leoli mewn ysgol i gael profiad addysgu proffesiynol.

Gorfodol 

Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu?

(20 credydau)

Cylch 1 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Cylch 1 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(20 credydau)

Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Datblygu llythrennedd a rhifedd proffesiynol a chymhwysedd digidol

(20 credydau)

Gorfodol 

Cylch 2 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu?

(30 credydau)

Cylch 2 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Cylch 2 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Cylch 2 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Dewisol

Gorfodol 

Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu?

(30 credydau)

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu?

(30 credydau)

Dewisol

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Pwyntiau UCAS

    Rhaid i ymgeiswyr sicrhau 115 o bwyntiau UCAS.

    Cymwysterau TGAU

    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth neu safon gyfwerth.

    Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – CRB

    Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth ac fe ddylech sicrhau eich bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’ (update service).

    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: dbs@uwtsd.ac.uk

  • Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.

    Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.

    Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, poster digidol, portffolios, fideo unigol a phrosiect ymchwil.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad i ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sy’n ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn gorfod talu costau sy’n ychwanegol i ffioedd dysgu’r brifysgol na ellir eu hosgoi. Mae’r rhain fel a ganlyn:

    Costau Gorfodol

    • Teithio i ysgolion lleoliad a’r Brifysgol
    • Teithio oddi ar y safle i ddarpariaeth arbenigol (yn cynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill)
    • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau carfan gyfan eraill yn ôl y calendr
    • Defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).


    Achoswyd o Reidrwydd

    • Prynu adnoddau addysgu
    • Teithio i leoliadau ‘dewisol’
    • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi.
       

      Dewisol

    • Teithiau astudio dewisol
    • Costau argraffu.
  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Wrth gwblhau rhaglenni presennol yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig.

    Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set gref o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu hystyried yn ddymunol iawn.

    Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen – o ran darpariaeth ac asesiad – yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.

Mwy o gyrsiau Teaching and PGCE

Chwiliwch am gyrsiau