Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Anthropoleg (BA)

Anthropoleg (BA) – Cydanrhydedd

Ymgeisio Nawr

Gellir diffinio Anthropoleg gan ei fethodoleg unigryw. Mae’n astudio bywyd cymdeithasol ar ei holl weddau. I ddeall bywyd cymdeithasol, mae Anthropoleg yn archwilio mynegiant diwylliannol ac ymddygiad grŵp mewn diwylliannau a chymdeithasau amrywiol gyda golwg ar esbonio’r bondiau sy’n clymu grwpiau dynol gyda’i gilydd a chydnabod y gwahaniaethau sy’n gwneud i gymdeithasau ymddangos yn annhebyg.

Nod Anthropoleg yw hyrwyddo ymwybyddiaeth feirniadol o amrywiaeth trefn ddynol ac annog dadleuon beirniadol ynghylch yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Gan fod dynol ryw mewn cyflwr o ddatblygu cyson, mae Anthropoleg yn adlewyrchu’r newidiadau hynny, ac felly mae’n ddisgyblaeth ddeinamig, berthnasol a chyffrous sy’n cyfrannu i reng flaen polisi a sgwrs gymdeithasol.

Mae anthropoleg wedi ehangu i gynnwys anifeiliaid annynol a bodau eraill (yn cynnwys technoleg) a bydd eich cwrs yn ystyried perthnasoedd gyda materoliaeth yr amgylchedd, y digidol, a bydau ar wahân i rai dynol.

Mae gwybodaeth am sut i gynhyrchu ethnograffeg yn hanfodol bwysig i radd mewn Anthropoleg. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y modylau a gynigir. Mae Anthropoleg yn eich annog i archwilio’n egnïol i gymhlethdodau bod yn ddynol, a thrwy hyn, yn ceisio cefnogi eich datblygiad creadigol a deallusol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO
  • Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
  • Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Dosbarthiadau dynamig sy’n archwilio materion o’r byd go iawn
  • Sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy
  • Cyfle i ddatblygu prosiectau ymchwil annibynnol
  • Cyfleoedd i astudio dramor ac i wneud gwaith gwirfoddol yn Affrica
  • Addysgu arbenigol gan ddarlithwyr a thiwtoriaid sy’n weithgar ym maes ymchwil

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae anthropoleg yn ymchwilio i hanfodion yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Mae’n hoelio ei sylw ar y byd cyfan ac yn dod â chi wyneb yn wyneb ag amrywiaeth syfrdanol o ymddygiadau dynol yn y presennol ac o’r gorffennol.

Caiff myfyrwyr Anthropoleg yn y Drindod Dewi Sant gyfle i arsylwi ac ymwneud â chymunedau a diwylliannau drostynt eu hunain. Er enghraifft, gall myfyrwyr gyflawni Gwaith Gwirfoddol Tramor a chymryd rhan weithgar ym mhrosiectau ymchwil staff, yn y DU a thramor.

Yn wir, rydym yn un o’r ychydig sefydliadau lle darperir hyfforddiant ymarferol yn y maes ar gyfer myfyrwyr israddedig.  Cynigir cyfleoedd cyffrous i holl fyfyrwyr anthropoleg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fynd dramor ar gyfer gwaith maes a rhoddir cymorth iddynt fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Golyga’r pwyslais hwn ar anthropoleg fel ymgysylltu ac arfer y bydd graddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn mynd i ffwrdd ag atgofion gwych o astudio am eu gradd, ond hefyd maent yn ennill set werthfawr o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn fanteisiol iddynt mewn marchnad swyddi sy’n fwyfwy cystadleuol.

Caiff myfyrwyr hefyd y cyfle i astudio dramor mewn un o blith nifer o sefydliadau mewn amryw o leoliadau, y mae pob un ohonynt yn cynnig rhaglenni gradd sy’n cymharu â’n rhaglen ninnau.  Rydym yn annog ac yn cefnogi myfyrwyr sy’n dewis cymryd yr opsiwn hwn nid yn unig am ein bod yn credu ei fod yn ychwanegiad ysgogol at yr astudio, ond hefyd ei fod yn ychwanegiad a fydd yn cyfoethogi’ch profiadau dysgu.

Mae’r opsiwn i astudio dramor ar gael yn ystod ail flwyddyn eich gradd yn unig.  Wedyn mae’n bosibl defnyddio’ch profiadau’n ddata ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf - prosiect annibynnol sy’n rhoi rhyddid i chi astudio unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Pynciau Modylau

Byddwch yn astudio pynciau fel:

  • Sgiliau Digidol
  • Gallu i ymgyfaddasu
  • Cyfathrebu
  • Creu portffolios
  • Meddwl yn greadigol
  • Meddwl yn feirniadol
  • Gwneud cyflwyniadau
  • Datrys problemau
  • Rheolaeth prosiect
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Hunan-fyfyrio
  • Gwaith tîm a chydweithredu gyda chyd-fyfyrwyr
  • Defnyddio technegau amlgyfrwng
  • Gweithio’n annibynnol
  • Gweithio i derfynau amser

Plîs sylwch, gall y pynciau hyn newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.

Asesiad

Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Rhaglen a Digwyddiadau Llambed

Dyniaethau | Y Gwahaniaeth Llambed

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Cyfathrebu, busnes
  • Eiriolaeth ddiwylliannol a chymdeithasol
  • Ffilm a’r cyfryngau
  • Codi arian, ymgynghoriaeth ar reoli, ymchwil
  • Iechyd, bwyd a ffordd o fyw
  • Hawliau dynol, anifeiliaid a thir
  • Datblygu rhyngwladol, cymorth a sefydliadau elusennol
  • Amgueddfeydd, treftadaeth, twristiaeth
  • Cyhoeddi
  • Cysylltiadau hiliol, cymuned, gwaith cymdeithasol, y proffesiynau gofal
  • Addysgu
Costau Ychwanegol
  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:

  • Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
  • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth