Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (BA, DipAU)
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (BA, DipAU)
Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Ydych chi’n gobeithio camu ar, neu i fyny, yr ysgol yrfa? Ydych chi’n gobeithio astudio graddVmewn lleoliad sy’n agos i chi, gan ddal ati weithio? Dysgwch a datblygwch strategaethau arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer y gweithle gyda’r dystysgrif Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol drwy eich cyflwyno i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Ymhlith y meysydd a gwmpesir mae rôl trafodaeth a dadlau wrth ddatrys problemau, datblygiad eich deallusrwydd emosiynol a’r gallu i weithio’n effeithiol, yn annibynnol ac mewn tîm, ac arfer adfyfyriol.
Cewch fynediad i’r rhaglen drwy wneud cais ar-lein, ac nid oes raid i chi feddu ar gymwysterau blaenorol. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfleoedd i gael eich addysgu mewn amrywiaeth o ganolfannau yn y gymuned.
Cyflwynir y rhaglen gyda’r nos yn yr wythnos ac yn ystod y dydd ar benwythnosau – er enghraifft un dydd Sadwrn ac yna tair nos Fawrth ac ati, er mwyn eich galluogi i weithio ar yr un pryd ag astudio.
Bydd holl ymgeiswyr llwyddiannus y rhaglen TystAU yn graddio â Thystysgrif Addysg Uwch a Thystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan ILM a chynigir cyfle iddynt fynd ymlaen i raglen BA (Anrh) lawn a addysgir yn yr un ffordd. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus ar y rhaglen BA yn graddio â thystysgrif Gradd BA (Anrh) a thystysgrif statws proffesiynol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Ar ôl blwyddyn o astudiaethau llwyddiannus, bydd myfyrwyr TystAU yn graddio gydag achrediad deuol, ardystiad a chydnabyddiaeth ddigidol gan yr ILM. Yna gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r rhaglenni atodol DipAU neu BA.
Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus ar y rhaglen BA yn graddio â thystysgrif gradd y Drindod Dewi Sant, tystysgrif statws proffesiynol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ynghyd â’r cyfle i ddefnyddio llythrennau ôl-enwol am ddim am gyfnod o hyd at 3 mis.
Rydym yn rhoi opsiwn i’n myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ennill Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Gwnewch gais i Gaerfyrddin at ddibenion gweinyddol. Bydd yr addysgu’n cael ei gynnal yn y gymuned yn eich lleoliad dewisol.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Gwneud Cais Nawr ar frig y dudalen.
Gwnewch gais i Gaerfyrddin at ddibenion gweinyddol. Bydd yr addysgu’n cael ei gynnal yn y gymuned yn eich lleoliad dewisol.
Cais am Wybodaeth Dechrau gyda’r TystAU
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Gall myfyrwyr adeiladu eu gwybodaeth am fusnes, rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan arwain at ddatblygu strategaethau, cynlluniau a beirniadaeth wybodus.
- Cyfle a’r hyblygrwydd i fyfyrwyr gael eu haddysgu mewn lleoliad allgymorth yn y gymuned yn agos at ble maen nhw’n byw/gweithio, ynghyd ag astudio ar-lein. Targedir y rhai sydd eisoes yn gweithio yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith newydd.
- Mae pob modwl wedi’i fapio naill ai i gyrff proffesiynol neu ddyfarnu yn y maes hwn
- Caiff modylau eu haddasu i adlewyrchu gofynion cyflogwyr a sefydliadau yn y farchnad fodern, ôl-pandemig yn well.
- Mae hyfforddi a mentora wedi dod yn agwedd fwyfwy pwysig ar arweinyddiaeth; rydym yn rhoi opsiwn i’n myfyrwyr ennill Tystysgrif Lefel 5 gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Hyfforddi a Mentora os dymunan nhw fanteisio ar hynny.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nodau’r rhaglen yw:
- Rhoi cyfle i ddysgwyr astudio am ddyfarniad sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd a dilyniant gyrfa yn y dyfodol
- Cyflwyno myfyrwyr i ddulliau, strategaethau a sgiliau a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn cyd-destun cyffredinol
- Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â thrafod a dadlau wrth brosesu a datrys problemau
- Datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr i gefnogi gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac effeithlon
- Rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu i fyfyrwyr a luniwyd i’w cynorthwyo i gaffael a chymhwyso gwybodaeth
- Galluogi dysgwyr i ddod yn rheolwyr adfyfyriol, sy’n gallu diffinio targedau personol a phroffesiynol a’u cyflawni, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion )
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd; gorfodol)
- Menter ac Intrapreneuriaeth (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion )
- Cyfathrebu i Reolwyr (20 credyd; gorfodol)
- Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion )
- Datblygu Diwylliant Perfformiad Uchel (20 credyd; gorfodol)
- Datblygu’r Sefydliad sy’n Dysgu (20 credyd; gorfodol)
- Datblygu Meddwl yn Feirniadol yn y Gweithle (20 credyd; gorfodol)
- Deall ac Ymgysylltu â Phrofiad y Cwsmer (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Hyfforddi a Mentora (20 credyd; gorfodol)
- Deallusrwydd Emosiynol (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion )
- Arweinyddiaeth Ysbrydoledig (20 credyd; gorfodol)
- Arwain a Gweithredu Newid yn y Gweithle (20 credyd; gorfodol).
Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.
Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.
Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.
I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:
- Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
- Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
- Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
- Andrew Maund
- Christian Felices
- Michaela Schriek
- Paul Tinkler
- Brian Taylor
- Myfanwy Davies
- Karine Wiliiams
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol byddwn fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchog”.
Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.