Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Astudiaethau Celtaidd (BA)

Astudiaethau Celtaidd (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Nod Astudiaethau Celtaidd yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth lawn o amrywiaeth lawn o faes astudio amrywiol a chymhleth, ac ymgysylltu â nhw, gan fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd staff y Dyniaethau a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS). Bydd myfyrwyr yn archwilio i agweddau ar fywyd, llenyddiaeth, crefydd a diwylliant Celtaidd, o’r oes hynafol i’r presennol, gan gwmpasu nifer o feysydd daearyddol, o Gymru i Iwerddon a Chernyw.

Mae cwricwlwm eang a chytbwys yn annog brwdfrydedd am astudiaethau Celtaidd. Byddwch yn dysgu i werthfawrogi arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd yn ogystal ag amrywiaeth o agweddau gwahanol ar hanes a threftadaeth y rhanbarthau Celtaidd.

Mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi naill ai ddysgu Cymraeg neu wella’ch sgiliau Cymraeg gan gynyddu’ch sgiliau cyflogaeth a’ch datblygiad personol trwy gyfoethogi diwylliannol a chaffael sgiliau bywyd gwerthfawr.

Byddwch yn darllen a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd yn feirniadol a gwerthfawrogi amrywiaeth o ddamcaniaethau a methodolegau a ddefnyddir wrth archwilio’r gorffennol a gwerthfawrogi testunau llenyddol.

Yn raddedigion, bydd gennych hefyd amrywiaeth o sgiliau pwnc-benodol a generig a fydd yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer y gweithle ac astudiaeth bellach.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Astudiaethau Celtaidd (BA)
Cod UCAS: CS01
Gwnewch gais drwy UCAS

Astudiaethau Celtaidd  gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: CES1
Gwnewch gais drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am Ragor o Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Prof Jane Cartwright


£9,000
£13,500

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Bydd ein myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o fodylau a phynciau ar ddiwylliant Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, o’r Hen Fyd i’r cyfnod modern.
  • Addysgir y rhaglen hon i chi drwy ein platfform dysgu o bell unigryw, felly gallwch ddal ati i weithio a chadw at eich ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio at eich gradd BA.
  • Addysgir y modylau gan ysgolheigion gweithgar ym maes ymchwil o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru uchel ei pharch a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi cyhoeddi’n helaeth yn eu meysydd arbenigol, gan ddarparu amgylchedd addysgu o’r radd flaenaf.
  • Dysgu ymhle i ddod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf ar y bobloedd Geltaidd a sut i gwestiynu'r gwahanol fersiynau o’r gorffennol a gynigiwyd gan haneswyr, ieithyddion, llên-gwerinwyr ac archeolegwyr.
  • Manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg modern o bell a mynychu ein cwrs iaith preswyl dwys, dewisol yng nghanol y Fro Gymraeg yng Ngheredigion.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae rhai o brif arbenigwyr y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd wedi dod at ei gilydd i lunio rhaglen arloesol sy’n hyfforddi myfyrwyr mewn pynciau megis y Celtiaid cynnar, y derwyddon a chrefyddau Celtaidd, hanes cymdeithasol yr ieithoedd Celtaidd, bucheddau'r seintiau Celtaidd a chyltiau’r seintiau, llenyddiaeth a chwedlau gwerin Celtaidd clasurol, rhyddiaith a barddoniaeth Gymraeg yr oesoedd canol, portreadau o Lydaw a Chernyw, enwau lleoedd Cymraeg a Cheltaidd, diwygiad crefyddol yng Nghymru’r 18fed a’r 19eg ganrif a dylanwad mytholeg Geltaidd ar ysgrifennu cyfoes.

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r ieithoedd Celtaidd i’r rhaglen hon, gan fod myfyrwyr yn astudio testunau mewn cyfieithiad ac addysgir y rhaglen drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ddewis dysgu’r Gymraeg yn rhan o’r rhaglen ac mae’n bosibl hefyd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg astudio eu modylau’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg (gweler BA Astudiaethau Celtaidd).

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r nodweddion unigryw a’r cysyniadau ieithyddol sy’n diffinio ‘Celtaidd’ yn deulu o ieithoedd a sut yr ehangwyd y cysyniad hwn a’i ddylanwad i feysydd llenyddiaeth, archaeoleg, celfyddyd, cerddoriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol.

Pynciau Modylau

Lefel 3 (Blwyddyn Sylfaen)

  • Dysgu o Bell
  • Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Y Dyniaethau (20 credyd; gorfodol)
  • Ysgrifennu ar gyfer y Brifysgol (20 credyd; gorfodol)
  • Gwybodaeth a Chred (20 credyd; gorfodol)
  • Pobl ar draws amser (20 credyd; dysgu)
  • Iaith a Diwylliant (20 credyd; gorfodol)
Asesiad

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys nifer o'r mathau canlynol o asesu:

  • traethodau 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd
  • dadansoddi dogfennau
  • adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion
  • adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol
  • profion amser
  • arholiadau a welir a nas gwelir o flaen llaw
  • dyddlyfrau maes
  • posteri
  • cyflwyniadau grŵp ac unigol
  • traethodau hir 10,000 o eiriau
  • wicis
  • sylwebaethau
  • gwerthusiadau ffilm

Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan

Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan

Gwybodaeth allweddol

Staff

Addysgir y rhaglen hon gan ddarlithwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Bydd graddedigion llwyddiannus yn ennill sgiliau a fydd yn arwain at ystod o swyddi posibl yn cynnwys y canlynol:

  • addysgu
  • y diwydiant treftadaeth a thwristiaeth
  • llyfrgelloedd
  • archifau a gwasanaethau gwybodaeth
  • llywodraeth leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
  • gwasanaeth sifil
  • gweinyddu
  • prawf ddarllen
  • cyhoeddi
  • newyddiaduraeth
  • ffilm
  • teledu
  • y cyfryngau
  • y celfyddydau creadigol

Bydd llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y Drindod Dewi Sant/Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: er enghraifft MA Astudiaethau Celtaidd neu astudiaethau MPhil a PhD.

Bydd dysgu’r Gymraeg a dod yn ddwyieithog yn paratoi myfyrwyr i weithio’n hyderus yn rhan o weithlu dwyieithog yng Nghymru.

Costau Ychwanegol

Gwneir amcangyfrifon gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
  • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Olga Vanherle, Gwlad Belg

“Roeddwn yn gallu dal ati i addysgu yng Ngwlad Belg drwy gydol fy ngradd yn y Drindod Dewi Sant, diolch i'r hyblygrwydd a gynigir gan ddysgu o bell, ond cefais gyfle i ddod i adnabod fy nhiwtoriaid yn dda hefyd. Mwynheais i ddysgu Cymraeg gymaint es i ymlaen wedyn i gymryd MA Astudiaethau Celtaidd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n dwlu ar ymweld â Chymru ac mae hanes a llenyddiaethau’r rhanbarthau Celtaidd yn fy nghyfareddu.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i'n tudalennau Ysgoloriaethau a Bwrsarïau am y wybodaeth ddiweddaraf.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth