Skip page header and navigation

Busnes a Rheolaeth (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Archwiliwch ffyrdd o feddwl am fusnes cyfoes a pharatowch i gyfrannu at ddyfodol busnes mwy cyfrifol, lle bydd busnes yn dechrau dod yn ddatrysiad, yn hytrach nag yn broblem, yn lleol a byd-eang. Dewch i astudio Busnes a Rheolaeth gyda ni a dysgwch sut y gall busnes cyfrifol gyfrannu at adfywio cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yn ogystal ag adfywio economaidd.

Nod y rhaglen hon yw cynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolwyr, yr economi, a’r amgylchedd busnes o fewn cyd-destun byd-eang newidiol. Bydd eich astudiaethau yn helpu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn busnes a rheolaeth drwy ddatblygu eich sgiliau proffesiynol a deallusol, yn cynnwys meddwl beirniadol, datrys problemau cymhleth, creadigrwydd ac adfyfyrio.

Mae’r cwrs yn meithrin ymagwedd sy’n edrych at y dyfodol, a byddwch yn dysgu i feddwl am ganlyniadau gweithrediadau, a sut y gellir addasu busnesau a chymdeithas i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy. Byddwch yn gallu meddwl am faterion cyfiawnder cymdeithasol, moeseg, a llesiant, a sut y mae’r rhain yn berthnasol i fusnes a rheolaeth. Byddwch yn graddio fel dinesydd byd-eang sy’n cyfrannu at lunio byd cynaliadwy trwy eich bywyd personol a phroffesiynol.

Gobeithiwn y bydd ein graddedigion yn rhan o lunio syniadau busnes yn y byd.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
227W
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rhowch hwb i’ch cyflogadwyedd trwy gysylltiadau sefydledig cryf â’r diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector trwy brosiectau byw, interniaethau, darlithoedd gwadd a gwaith maes.
02
Cewch astudio busnes o safbwynt cyfoes gyda modylau sydd wedi’u cynllunio i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arwain busnes yn y dyfodol.
03
Ymunwch ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Os ydych am fod yn barod ar gyfer dyfodol busnes a bod yn barod i ymateb i heriau byd-eang a lleol a chyfleoedd, y rhaglenni arloesol hyn, sy’n seiliedig ar egwyddorion moesegol a chynaliadwy yw’r dewis gorau i chi.  

Yn fyfyriwr Busnes a Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn rhan o gymuned ddysgu gefnogol gyda staff brwd sy’n weithgar ym maes ymchwil, a fydd yn ymdrechu i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn  Y Drindod Dewi Sant.  Mae gennym ddull cynyddol a thrawsnewidiol o ddysgu sy’n adeiladu annibyniaeth dysgwyr a’u gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Yn rhan o’ch astudiaethau, cewch gyfle i wneud interniaeth, gyflawni gwaith maes ac elwa o amrywiaeth o ddarlithoedd gwadd gan entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes. Mae gennym gysylltiadau ag amrywiaeth eang o gysylltiadau, y mae llawer o’r rhain yn rhoi cyfle i gael semester astudio rhyngwladol dramor, a gynigir ym mhrifysgolion UDA a Chanada.

Y tu allan i’ch cwrs, mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd dysgu cyffrous a chefnogol lle cyfuna mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel â lawntiau gwyrdd, lleoedd wedi eu tirlunio a mannau cymdeithasol hyblyg.

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Dulliau Rheoli Cyfoes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Gorfodol

Newid ac Arloesi Technolegol

(20 credydau)

Ymholiad ac Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Busnes Cyfrifol o Safbwynt Byd-eang

(20 credydau)

Busnes Digidol

(20 credydau)

Strategaethau ar gyfer Gwydnwch a Ffyniant

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd am gyfrannu i ddyfodol busnes a rheolaeth.  Nid oes angen yr astudiaeth flaenorol a byddem yn croesawu ymgeiswyr gan amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Ein cynnig arferol ar gyfer y BA yw 88 pwynt tariff UCAS, a 46 pwynt tariff UCAS ar gyfer yr HND.  Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill yn gyfraniad at eich pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyniadau’n ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, eich profiad a’c chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

  • Caiff y rhaglen BA Busnes a Rheolaeth ei hasesu trwy gyfuniad o ddulliau arloesol a rhai mwy traddodiadol a ddyluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr, y gallu i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol yn ystod eu tair blynedd o astudio.

    Mae asesiadau wedi eu cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae plant adeiladu dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac y mae modd iddynt ddysgu oherwydd asesiad ffurfiannol gydol y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr fynd ar ymweliadau dewisol dros nos yn y DU neu dramor ar ryw adeg yn ystod eu rhaglen astudio, gydag amcangyfrif o £600-£1000. Unwaith eto, nid yw presenoldeb ar ymweliadau maes dros nos ychwanegol yn orfodol ac ni fyddant yn effeithio ar y radd derfynol. Mae costau ar gyfer ymweliadau maes sy’n rhan o’r modylau wedi eu cynnwys yn ffioedd y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • BA Business and Management students have the opportunity to apply for our study abroad programme. If accepted, students will study overseas in one of our US or Canadian partner institutions for the second semester of level 5.

  • Noda adroddiad gan Fforwm Economaidd y Byd, erbyn 2020 y bydd 55% o’r sgiliau a ystyrir yn bwysig i gael swydd heddiw wedi newid; yn ôl yr adroddiad, y tri uchaf y bydd galw amdanynt gan y gweithlu fydd datrys problemau, meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd. Trwy astudio Busnes a Rheolaeth gyda ni, byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r galluoedd i ddatrys problemau’r dyfodol yn greadigol trwy fynd ati i gyflawni dysgu sy’n seiliedig ar broblemau ac sy’n anelu at drawsnewid eich meddwl am fusnes a rheolaeth.  Oddi mewn i’r rhaglen, byddwch yn gweithio ar brosiectau byw ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a byddwch hefyd yn cyflawni interniaeth orfodol yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

    Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn meysydd megis arweinyddiaeth cynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, rheolaeth prosiectau, datblygu cymunedol ac adfywio.

    Mae pwyslais ar entrepreneuriaeth ac arloesi yn y rhaglen hefyd wedi golygu bod nifer o’n graddedigion diweddar wedi gadael i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn mynd ati’n rhagweithiol i gyfeirio myfyrwyr at gymorth mewnol ac allanol ar gyfer datblygiad busnes.

    Mae nifer o’n graddedigion yn dewis symud ymlaen i astudio pellach ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth naill ai yn Y Drindod Dewi Sant neu mewn prifysgolion eraill.  Yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ac mae gennym nifer o fyfyrwyr Doethuriaeth gweithredol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau