Skip page header and navigation

Busnes Cymhwysol (Marchnata) (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda’n rhaglen Busnes Cymhwysol (Marchnata). Adeiladwch y sgiliau eang sydd eu hangen i ffynnu fel swyddog gweithredol marchnata yn y byd busnes modern. Datblygwch a gweithredwch strategaethau marchnata mewn sefydliadau go iawn. Fe gewch y math o brofiad graddedig unigryw sy’n gallu eich helpu i neidio ar y blaen yn eich gyrfa. Byddwch yn fwy creadigol, ymwybodol yn fasnachol, cydweithredol, dylanwadol, ysbrydoledig, heriol, arloesol, â llythrennedd ariannol a chyfrifol.

Wrth i chi weithio trwy brofiad dysgu ar-lein unigryw sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu wedi’u teilwra a chynnwys fideo unigryw, cewch eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich craffter busnes.

Ymhlith y medrau technegol disgyblaeth-benodol a fydd yn cael eu datblygu trwy’r modylau Marchnata pwrpasol mae cyfoethogi profiad y cwsmer, marchnata partneriaeth, brandio, dulliau cyfathrebu marchnata integredig, integreiddio digidol, monitro a mesur effeithiolrwydd.

Un o nodau eraill y rhaglen radd hon yw cynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, wrth i chi ennill gwybodaeth a sgiliau busnes penodol. Cewch eich addysgu i ddatblygu agwedd bositif a beirniadol tuag at newid a menter wrth i chi adeiladu ystod eang o sgiliau a phriodoleddau a fydd yn eich galluogi i ddod yn ddinesydd byd-eang effeithiol.

Cyflwynir y rhaglen drwy Swyddfa Cymru-Ducere gan ddefnyddio arbenigedd a pherthnasedd diwydiannol Arweinwyr Byd-eang Ducere.  I gael rhagor o wybodaeth am Ducere, ewch i Ysgol Fusnes Fyd-eang Ducere.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
DAM1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd wedi’i theilwra i gyda-fynd â’ch nodau, eich uchelgeisiau a’ch diddordebau.
02
Datblygu portffolio prosiect perthnasol i’r diwydiant fel rhan o’ch gradd.
03
Dysgu drwy syniadau deinamig mwy na 250 o Arweinwyr Byd-eang Ducere, gan gynnwys cyn Arlywyddion, Prif Weinidogion, Enillwyr Gwobrau Nobel, Arweinwyr Byd-eang, Prif Swyddogion Gweithredol ac Arloeswyr Busnes.
04
Datblygu’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
05
Mwynhau cymorth myfyrwyr sy’n bersonol i chi.
06
Astudio pan fydd yn gyfleus i chi gyda fideos HD, cymorth academaidd heb ei ail a dim arholiadau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd BA Cyfrifeg yn arbenigo yn y maes swyddogaethol gan ganolbwyntio ar sgiliau cyfrifyddu a chyllid mewn amrywiaeth o gyd-destunau sefydliadol. Mae’r rhaglen yn addas i’r rheiny y mae’n well ganddynt arbenigo mewn sgiliau cyfrifyddu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ystod eang o sgiliau busnes.

Fel arfer, mae myfyrwyr y rhaglen hon yn rhifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol, ond nid yn orfodol, y byddant wedi astudio cyfrifeg, mathemateg neu fusnes o’r blaen. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

Datblygu Model Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Hanfodion Rheolaeth

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Hanfodion Rheoli Prosiectau

(20 credydau)

Rheoli Arian a Chyllid

(20 credydau)

Cyfrifoldeb Corfforaethol

(20 credydau)

Meddylfryd Dylunio

(20 credydau)

Busnes a Tharfu Digidol

(20 credydau)

Marchnata Digidol

(20 credydau)

Rheoli Cysylltiadau Gweithwyr

(20 credydau)

Cyfathrebu Rheolaethol

(20 credydau)

Data Mawr

(20 credydau)

Lleoli yn y Farchnad Gystadleuol

(20 credydau)

Yr Economi Fyd-eang

(20 credydau)

Strategaeth Rheolaeth

(20 credydau)

Strategaeth a Chynllunio Marchnata

(20 credydau)

Newid Sefydliadol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 pwynt UCAS ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith* sylweddol ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg.

    *Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau o’r“byd go iawn” sy’n dangos gallu myfyriwr i gymhwyso’i wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion yn datblygu galluoedd gan gynnwys:

    • Asio’r technolegau modern gorau i lunio strategaethau marchnata dylunio sy’n effeithiol yn yr economi ddigidol
    • Llunio strategaethau grymus ar gyfer ymgysylltu â chwsmeriaid gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac offer digidol eraill
    • Datblygu strategaethau i adeiladu brandiau effeithiol yn gyflym
    • Deall sut i weithio gyda thimau o gefndiroedd amrywiol
    • Llunio strategaethau twf byd-eang sy’n sensitif yn ddiwylliannol
    • Deall yr effaith y gall tueddiadau byd-eang eu cael ar fusnesau lleol a’r cyfleoedd y gallant eu creu.

    Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:

    • Swyddog Gweithredol Cyfrifon
    • Rheolwr Brand
    • Rheolwr Marchnata
    • Marchnatwr Digidol

Mwy o gyrsiau Business and Management

Chwiliwch am gyrsiau