Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun (BA, MArts)
Astudiwch egwyddorion clasurol rheolaeth a’u perthnasedd cyfredol a gwerthuswch yr heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi yn yr hyn sy’n amgylchedd busnes sydd wedi’i globaleiddio, ei ddigideiddio ac felly’n amrywiol a modern ar y llwybr Busnes Cymhwysol (Rheoli). Datblygwch sgiliau entrepreneuraidd a fydd yn cynorthwyo wrth reoli’n effeithiol yn yr economi digidol, yn ogystal â meithrin mentergarwch o fewn sefydliadau sefydledig.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn eich galluogi i ddylunio a gweithredu fframweithiau a strategaethau rheoli i weddu’r sefyllfaoedd busnes unigryw y byddwch yn cael eich hunain ynddynt, waeth i ba sefydliad rydych yn gweithio.
Datblygwch a chryfhewch sgiliau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu, cysylltiadau â gweithwyr, rheoli gweithleoedd amrywiol a newid cyfundrefnol effeithiol.
Cynyddwch eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, wrth i chi ennill gwybodaeth a sgiliau busnes penodol. Datblygwch agwedd bositif a beirniadol tuag at newid a menter wrth gyfoethogi ystod eang o sgiliau a phriodoleddau a fydd yn eich galluogi i ddod yn ddinesydd byd-eang effeithiol.
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio’n benodol i fodloni anghenion gweithwyr proffesiynol prysur y diwydiant ac arweinwyr busnes uchelgeisiol, gan ddefnyddio addysgu a dysgu ar-lein i greu profiad dysgu hynod o ddiddorol a chymdeithasol.
Cytunai 100% o fyfyrwyr Celf Gain y Drindod Dewi Sant fod y staff yn esbonio pethau’n dda - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
- Ymweld yf wefan Sioe Haf Coleg Celf Abertawe (fersiwn Saesneg)
Opsiynau Llwybr
Celf Gain (BA)
Cod UCAS: 2T12
Apply via UCAS
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau i astudio ar gyfer rhaglen radd israddedig llawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe YDDS yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80
Ewch i adran wneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Mannau stiwdio unigol pwrpasol wedi’u lleoli mewn ysgol gelf gefnogol, deinamig a bywiog.
- Addysgir gan artistiaid sy’n gweithio’n rhyngwladol ac sy’n darparu amser cyswllt rhagorol.
- Mynediad at weithdai a chyfleusterau rhagorol, gan gynnwys pren, metel, cerameg a digidol.
- Cysylltiadau rhagorol â’r byd celf cyfoes ac anogir myfyrwyr i arddangos/ cysylltu ag orielau a mannau lleol.
- Tiwtorialau a chyswllt un i un rheolaidd gyda staff drwy gydol y dair blynedd.
Ymweld Celf a Dylunio Ffeithiau a Ffigurau
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn cwmpasu a dathlu ymagwedd eang ac agored.
Gallwch dynnu ar, a defnyddio, ystod eang o ddefnyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau i ddatblygu eich gwaith a chyfleu eich syniadau.
Arfer stiwdio sydd wrth wraidd ein haddysgu ac yn cwmpasu’r defnydd o ystod eang o weithdai, ynghyd â mannau stiwdio personol. Y stiwdios yw ein pwerdy, rhywle lle caiff eich syniadau eu harchwilio a’u datblygu trwy arferion materol – paentio, arlunio, arfer cerfluniol, fideo, sain, gosodwaith a pherfformio.
Mae safle hefyd yn rhan allweddol o’n haddysgu yn Abertawe, o ran cysyniad a lle. Mae’r berthynas rhwng ein hadran Celf Gain a’r ddinas wedi datblygu dros lawer o flynyddoedd, a chanlyniad hyn yw bod graddedigion wedi datblygu stiwdios artistiaid a chyfadeiladau oriel. Mae ein staff yn gweithio’n broffesiynol gyda sefydliadau celf pwysig sydd wedi llunio cysylltiadau gyda’r cwrs, gan eich galluogi chi i ymgymryd â gweithgareddau diwylliannol tu hwnt i’r brifysgol.
Mae’r syniad o Safle mewn perthynas â Chyd-destun yn ystyriaeth bwysig a chewch eich annog i archwilio’r berthynas hon. Mae archwilio i Gyd-destun yn un o bileri canolog eich cwrs. Addysgir pwysigrwydd Cyd-destun trwy ddarlithoedd damcaniaeth, darlithoedd seiliedig ar arfer, seminarau a gweithdai. Mae ein dulliau addysgu’n ymchwilio i Gyd-destun, o’r cyfoes, gwleidyddol, cysyniadol, athronyddol a’r ymarferol, gan gynnwys archwiliadau i ymatebolrwydd safle yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o briodolrwydd defnyddiau.
Mae arbrofi, ymchwilio a chwestiynu’n agweddau hanfodol ar arfer a damcaniaeth drwy gydol y cwrs. Mae cael gafael ar y themâu allweddol hyn yn eich galluogi i ymateb i faes datblygol arfer cyfoes a
sbectrwm eang cyfleoedd rhyngddisgyblaethol. Mae’r cyswllt hwn rhwng cysyniad a chyfrwng yn nodwedd sylfaenol o arfer celf gain cyfoes. I’r perwyl hwn, mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn eich annog i feddwl yn greadigol ac yn eich galluogi i fod yn rhydd i archwilio cyfryngau a gwthio’ch syniadau i’r ffiniau a thu hwnt. Rhoddir y pwyslais ar berthnasedd ac arwyddocâd defnyddiau/cyfrwng mewn perthynas â’ch syniadau a chyd-destunau.
Ar ein cwrs ni, credwn nad oes hierarchaeth o ran cyfrwng.
Fodd bynnag, rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar gysyniadau ‘amser a lle’, gan fod artistiaid yn aml yn gweithio o fewn cyd-destun eu safleoedd cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol a daearyddol.
Mae ein rhaglen yn eich annog i ystyried eich safle o fewn y gymdeithas, ynn hanesyddol ac yn gyfoes. Mae gosod pethau mewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes fel hyn yn sicrhau eich bod yn gallu lleoli eich gwaith eich hun, ac mae’n rhoi i chi lliaws o gyfeiriadau ac ysbrydoliaeth er cymharu ac fel enghreifftiau. Mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn eich annog i fod yn ymwybodol o ddadleuon damcaniaethol, arfer cyfoes a’r cynseiliau hanesyddol sy’n berthnasol i’ch datblygiad creadigol; o ganlyniad, daw’r stiwdio yn fforwm bywiog a phrysur ar gyfer trafod ac arfer.
Mae ein cwrs hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar y berthynas rhwng proses proffesiynol gwneud celf a’i gynaliadwyedd hir dymor. Mae gan ein tîm addysgu enw da sylweddol yn rhyngwladol o fewn eu meysydd unigol ac mae’r rhain, ynghyd â phrofiadau, yn darparu ystod o arbenigedd o baentio, arlunio, fideo, gosodwaith, gwaith safle benodol, curaduraeth a chyhoeddi. Mae’r mentrau hyn i gyd yn cyfrannu at wybodaeth seiliedig ar brofiad ymarferol iawn o guraduro ac arddangos.
Mae’r rhaglen hon yn darparu cyswllt uniongyrchol rhwng platfformau rhyngwladol arfer cyfoes a’ch man stiwdio pwrpasol chi yn adeilad Dinefwr, yng nghalon dinas Abertawe.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Arddangosfa 1.0 (20 Credyd; Gorfodol)
- Deunyddiau, Adeiladu a Dadadeiladu (20 credyd; gorfodol)
- Safle a Chynulleidfa (20 credyd; gorfodol)
- Cylchgrawn yr Artist (20 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Cysyniad a Phroses (20 credyd; gorfodol)
- Arddangosfa 2.0 (20 Credyd; Gorfodol)
- Adeiladu Bydoedd (20 Credyd; Gorfodol)
- Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol)
- Symbyliad ac Ymateb 2 (10 credyd; gorfodol).
- Ymholiad Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
- Ymholiad Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Ymholiad Creadigol Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
- Prosiect Mawr (60 credyd; gorfodol).
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Nid oes dim arholiadau ar y cwrs hwn.
Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol modylau, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:
Tiwtorialau
Rhoddir y tiwtorialau hyn ar draws pob lefel. Mae cyfnod dwysach o diwtorialau un i un yn digwydd ar gyfer myfyrwyr y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn sydd erbyn hynny’n gweithio’n fwy annibynnol. Gall myfyrwyr ofyn am diwtorial yn ôl yr angen. Fodd bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth gwerthfawr a rheolaidd gan bob aelod o staff. Rydym yn credu’n gryf y dylai myfyrwyr gael tiwtorialau unigol er mwyn cefnogi eu teithiau creadigol. Caiff y gwaith, gan gynnwys datblygiad ymarferol a chysyniadol, ei drafod, ynghyd â bwriadon y myfyriwr yn y dyfodol. Mae’n gyfle i unrhyw faterion/bryderon gael eu codi gan naill barti neu’r llall. Cynhyrchir dau gopi o’r cofnod ysgrifenedig o’r tiwtorial, bydd y myfyriwr yn cadw un copi a’r llall yn cael ei gadw ar ffeil.
Trafodaethau beirniadol grŵp
Cynhelir y rhain ar draws pob lefel. Mae’n yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cymheiriaid mewn ffordd strwythuredig yn ogystal â mewnbwn defnyddiol gan staff.
Cyflwyniadau anffurfiol a ffurfiol
Rhoddir cyfleoedd i bob myfyriwr siarad gyda’u cyd-fyfyrwyr am eu gwaith, gan alluogi iddynt ddeall pwysigrwydd cyflwyno o fewn arfer celf gain. Mae Cyflwyniad Ffurfiol yn y drydedd flwyddyn yn rhan o’u Prif Brosiect sy’n arwain at yr asesiad terfynol yn y Sioe Radd.
Arddangos gwaith
Mae natur hyn yn amrywio o un lefel i’r nesaf. Cyflwynir holl asesiadau myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail ym man stiwdio’r myfyriwr unigol, wedi’i ddilyn gan sioe diwedd flwyddyn ar y cyd yn y mannau a baratowyd, wedi i’r sioeau gradd ddod i ben. Caiff sut i baratoi’r mannau hyn; o wagio mannau stiwdio i droi man yn arddangosfa; ei addysgu, a’i ddeall, o fewn cyd-destun arfer proffesiynol, ar gyfer y drydedd flwyddyn.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â Diwydiant
Bywyd Myfyrwyr Abertawe
Sylwer: mae’r fideo ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.
Gwybodaeth allweddol
- Yr Athro Sue Williams – Cyfarwyddwr y Rhaglen
- (www.nomorepink.com) - Craig Wood
- Alexander Duncan
Ymweld tudalen Staff Celf Gain
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer eu dewis gwrs. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â’ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg (neu Gymraeg), ynghyd â llwyddiant mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tri Lefel A neu gyfwerth
- UAL L3 Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio.
- UAL L3 Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig mewn Celf a Diploma
- UAL L3 Diploma mewn Arfer Creadigol a Diploma Estynedig: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf gradd Teilyngdod
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn
Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk, am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Mae yna nifer o gyfleoedd o flaen ein myfyrwyr Celf Gain, lle mae eu hymagwedd aml-sgil yn eu caniatáu i deithio i lawr nifer o lwybrau artistig proffesiynol, gan gynnwys:
- Artist proffesiynol wrth ei waith
- Curadur/rheolaeth amgueddfeydd ac orielau
- Therapi Celf
- Arweinydd prosiect mewn celf gymunedol
- Addysgu/darlithio
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.
Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.
- Celf a Dylunio Sylfaen
- Celf Gain (MA)
- Fersiwn Saesneg
SHEREE NAQVI
"Mae’r cwrs yn rhoi ichi gyfle euraid i feddwl a gweithio fel artist. Does dim terfyn ar eich dychymyg. Mae hwn yn daith tair blynedd heriol ond wirioneddol cyffrous. Mae’r cwrs yn caniatáu i chi ddefnyddio amlgyfryngau, megis perfformio, ffotograffiaeth, paentio/darlunio, a llawer iawn mwy. Mae cael gweithio gyda staff hyfryd yn fonws mawr.”
JEREMY GLUCK
“Gan ddychwelyd i addysg ar ôl ysbaid o 40 mlynedd, mae’r Drindod yn cael effaith arna’i ar bob lefel. Mae ansawdd y profiad yn fy nghyfoethogi ac ysbrydoli. Mae e wedi ymestyn fy hunan-gysyniad ac yn parhau i fod yn antur creadigol.”
CLAIRE FRANCIS
“Mae’r darlithwyr yn anhygoel, maent yn eich gwthio tu hwnt i’ch ffiniau cyfforddus arferol gan eich cefnogi a darparu’r rhwyd diogelwch sydd ei hangen i ddilyn pob antur anhygoel o’ch proses. Disgynnais oddi ar lawer i glogwyn, fel petai, yn Abertawe; ond wrth wneud hynny, rwyf nawr yn gwybod ymhle mae’r ymylon. Dysgais pryd i roi’r brws paent i lawr, i wir edrych cyn gwneud marc, i ymdrin â’m harfer gyda phenderfyniad a natur chwareus; ond yn bwysicaf oll, rwyf wedi dysgu y gallaf wneud unrhyw beth rwy’n rhoi fy mryd arno. Cefais fy nhrawsnewid fel person gan y profiad.”
LYDIA COURTIER
“Yn y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi cael fy mendithio gan fannau stiwdio anhygoel, tiwtoriaid gofalgar, grŵp anhygoel o ffrindiau sydd i gyd yn caru celf gain yn ogystal â’r rhyddid i archwilio unrhyw drywydd, ddefnydd neu gysyniad rwy’n dymuno. Ni allaf ddychmygu pa fath o artist fydden i heb astudio yn YDDS ond nid ydw i’n credu y bydden i ble’r ydw i heddiw heb y Brifysgol.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae mwy o fanylion ar gael yma.
Gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada.
Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth