Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Cyllid Rhyngwladol (BA)

Cyllid Rhyngwladol (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS

Mae’r rhaglen Cyllid Rhyngwladol wedi’i llunio i fodloni eich anghenion pe baech yn dymuno astudio elfennau ar gyllid yng nghyd-destun amgylchedd byd-eang. Trwy gyfuno modylau o’r rhaglenni Cyfrifeg a’r Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, mae’r rhaglen yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth berthnasol i gael gwaith yn y sector cyllid, bancio a chyfrifeg.

Nid yn unig mae’r rhaglen yn ceisio rhoi i chi ddealltwriaeth eang o fusnes, ond hefyd mae’n sicrhau eich bod yn bodloni gofynion trylwyr y ddisgyblaeth.

Caiff sgiliau a gwybodaeth graidd eu datblygu, fel rheolaeth adnoddau dynol, marchnata, datblygiad proffesiynol a chyllid. Mae sgiliau rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modylau.

Mae Lefel 5 yn eich cyflwyno i elfennau allweddol ar reolaeth cyllid a busnes. Yn y f lwyddyn olaf gallwch brofi eich gwybodaeth fanwl am theorïau a fframweithiau mawr.

Mae modylau Lefel 6 yn ffocysu ar y cyd-destun byd-eang. Disgwylir i chi ymgymryd â phrosiect annibynnol yn gysylltiedig â mater byd-eang, sefydliad rhyngwladol neu’r ddau.

  • Cwrs trwy gyfrwng y Saesneg yw hwn gyda’r opsiwn i astudio rhai modylau trwy gyfrwng y Gymraeg.
OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Cyllid Rhyngwladol (BA)
Cod UCAS:  IF01
Gwnewch gais trwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Richard Dunstan


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Astudio cyllid o safbwynt cyfoes gyda modylau a luniwyd i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain neu greu busnes yn y dyfodol.
  2. Ymuno ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.
  3. Cynyddu eich cyflogadwyedd trwy gysylltiadau cryf a sefydledig â diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a thrwy brosiectau byw, interniaethau, darlithoedd gwadd a gwaith maes.
  4. Elwa o gymorth academaidd a bugeiliol ardderchog.
  5. Opsiwn i astudio dramor am semester, yn un o’n sefydliadau partner.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i'w datblygu eu hunain. Mae’r cyfle i astudio busnes a rheolaeth ar waith yn brofiad deallusol boddhaus sydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu gyrfa i’r dyfodol.

Lluniwyd y rhaglen i fod â phwyslais ar ddysgu seiliedig ar waith er mwyn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd yn barod ar gyfer gyrfa mewn busnes rhyngwladol. Bydd strategaethau dysgu arloesol yn rhai galwedigaethol er mwyn datblygu myfyrwyr neilltuol a chanddynt ffocws lleol a rhyngwladol gyda'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae persbectif rhyngwladol y Brifysgol a’i hintegreiddiad gyda chyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol yn gwarantu cynnwys tra pherthnasol a chyfredol. Mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol yn gysylltiedig â phwnc a hefyd yn brofiadau cymdeithasol gan gynnwys amrywiaeth o deithiau astudio maes a fydd yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr ymhellach.

Mae’r sgiliau o reoli TGCh, cyfathrebu â chyfoedion a sefydliadau allanol, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, rhesymu moesegol, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth wedi’u canmol yn arbennig. Mae cynnydd myfyrwyr trwy’r rhaglen yn sicrhau eu bod yn meithrin hunanhyder cynyddol ac yn gallu rheoli eu dysgu eu hunain. Bydd graddedigion wedi datblygu hunanhyder a’r gallu i weithio mewn amgylcheddau amrywiol a chyfathrebu ar amrywiaeth eang o lefelau. Mae cyfraniad cyflogwyr, siaradwyr gwadd a sefydliadau eraill at gyflwyno’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio gyda rhwydweithiau allanol a gweld perthnasedd eu hastudiaethau.

Pynciau Modylau
  • Cyllid ar gyfer Busnes
  • Cyflwyniad i’r Gweithle Digidol
  • Meddalwedd Cyfrifyddu
  • Deallusrwydd Digidol a Dadansoddeg
  • Rheolaeth Ariannol
  • Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd
  • Prosiect Ymgynghori Rhyngwladol
  • Rheolaeth Perfformiad Ariannol
  • Moeseg Fyd-eang
  • Adrodd Corfforaethol a Chyfrifoldeb Cymdeithasol
Asesiad

Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r “byd go iawn” sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Cysylltiedig

Campws Busnes Abertawe

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.  Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt wneud cais, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheini sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheini sydd â phrofiad gwaith, ond heb fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. Yn 2015/16 roedd 98% o raddedigion yr Ysgol Fusnes mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach ar ôl chwe mis.

Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir.

Costau Ychwanegol

Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

Costau teithiau maes a lleoliadau

Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth