Skip page header and navigation

Cymdeithaseg (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae cymdeithaseg yn ddisgyblaeth academaidd aeddfed sydd â hanes hir o gefnogi cyflogadwyedd. Bydd y rhaglen Cymdeithaseg yn eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol sy’n berthnasol i gymdeithaseg, i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae problemau cymdeithasol cyfoes wedi codi ac o ymatebion i bolisi cymdeithasol.

Trwy’r cwrs hwn byddwch yn ymgysylltu â gwybodaeth am yr amrywiaeth o anghenion dynol a chymdeithasol, ac o’r polisïau cymdeithasol a’r sefydliadau lles sy’n bodoli er mwyn eu cyflawni. Bydd y rhaglen yn defnyddio ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd i hwyluso dealltwriaeth o faterion Cymdeithaseg a’r cyd-destunau y mae’r rhain yn berthnasol iddynt.

Byddwch yn archwilio materion cymdeithaseg, hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag anghenion ychwanegol, iechyd a gofal cymdeithasol, cenedl ac amrywiaeth, anabledd a chymunedau, teuluoedd ac unigolion a dysgu i ddeall bod tensiynau’n bodoli rhwng realiti a delfryd cydraddoldeb, tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, rhyddid a chynaliadwyedd, ochr yn ochr â gwerthoedd, diddordebau, safbwyntiau normadol, moesegol a moesol. Byddwch yn deall effaith gwahanol safbwyntiau damcaniaethol a thrafodaethau gwleidyddol ar ddarpariaeth Cymdeithaseg.

*Modiwlau dethol yn amodol i ail-ddilysu

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SOC1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r graddau hyn yn ffocysu ar Gymdeithaseg ar waith er mwyn darparu ecwiti a chydraddoldeb yn y gymdeithas.
02
Cyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda chleientiaid mewn amgylchiadau bywyd go iawn.
03
Staff sy’n ymchwilwyr gweithredol sydd hefyd yn ymgysylltu â damcaniaeth ac arfer yn y sector, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd o ystod eang o sefydliadau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Caiff y rhaglen tair blynedd hon ei thanategu gan flwyddyn sylfaen gychwynnol, sy’n cynnwys modylau sy’n archwilio cymdeithaseg, eiriolaeth, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol.

Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad, wrth i’r modylau ddatblygu dealltwriaeth eang o faterion a datrysiadau cymdeithasegol.

Mae blwyddyn olaf yr astudiaethau’n ymgorffori traethawd hir gyda chysylltiadau i agweddau ar Gymdeithaseg y mae’r myfyriwr yn dymuno eu dilyn mewn mwy o fanylder.

Gorfodol 

Gweithredu, Grymuso ac Arfer Gwrth-ormesol

(20 credydau)

Gweithio Amlasiantaeth: Polisi ar Waith

(20 credydau)

Deall Cymdeithas: Cyflwyniad i Theori Gymdeithasegol

(20 credydau)

Pwy Ydym Ni: Diwylliant a Hunaniaeth

(20 credydau)

Gorfodol 

Gwaith, Tlodi a Lles yn y Byd Modern

(20 credydau)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anabledd a Llesiant

(20 credydau)

Amrywiaeth a Gwahaniaeth mewn Byd Modern

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Perthnasoedd Cyfathrebu a Theuluoedd yn y Gymdeithas Gyfoes

(20 credydau)

Cymunedau Cynaliadwy a Datblygu Byd-eang

(20 credydau)

Trosedd a Gwyredd yn erbyn Grym a Rheolaeth

(20 credydau)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anabledd a Llesiant

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).


    80 o Bwyntiau UCAS.


    Bydd myfyrwyr annhraddodiadol yn cael eu hystyried yn ôl eu profiad ac ar eu rhinweddau unigol.


    Croesewir ymgeiswyr sydd â chymwysterau AB/ Mynediad.

  • Dim arholiadau yn y rhaglen hon.

    Mae’r asesiad ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau seminar, adroddiadau, dyddiaduron adfyfyriol, taflenni a fideos dogfen. Mae’r dulliau asesu hyn yn cysylltu â datblygiad sgiliau cyflogadwyedd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).


    Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sydd eu hangen i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.


    Bydd hefyd costau pellach ar gyfer y canlynol, nad ydynt ar gael i’w prynu gan y Brifysgol:
    Llyfrau
    Dillad
    Gwaith maes
    Argraffu a chopïo
    Deunydd ysgrifennu

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Y cyfle i astudio yn Ewrop a’r DU am semester ym mlwyddyn 2.

    • Eiriolwr
    • Cymunedau yn Gyntaf
    • Y Sector Cyfiawnder Troseddol
    • Swyddog Addysg
    • Rolau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant chwaraeon a ffilm (yn ymateb i ddigwyddiadau presennol)
    • Teuluoedd yn Gyntaf
    • Darlithydd AU/AB
    • Awdurdod Lleol
      Rheolaeth a Gofal
    • Awdurdod Iechyd Lleol
      Rheolaeth a Gofal
    • Y Cyfryngau
    • Nyrsio a Nyrsio Iechyd Meddwl (Angen astudio ymhellach)
    • Yr Heddlu
    • Swyddog Prawf (Angen astudio ymhellach)
    • Rheolaeth Prosiect
    • Rheolwr Prosiect
    • Ymchwil
    • Cynorthwyydd Ymchwil
    • Gwaith gofal cymdeithasol
    • Gweithiwr Cymdeithasol (Angen astudio ymhellach)
    • Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr
    • Cefnogi Grwpiau Agored i niwed
    • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid

    Gall graddedigion hefyd ddewis dal ati i astudio a chwblhau cymwysterau ôl-radd ac ymchwil ôl-radd drwy fynd ymlaen i naill ai’r, MA Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas neu PhD mewn Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol sy’n caniatáu myfyrwyr i ddefnyddio cyllid i ôl-raddedigion