Skip page header and navigation

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i fodloni anghenion y diwydiant cyfryngau cyfoes drwy ffocysu’n bennaf ar dechnegau cynhyrchu newydd, dosbarthu ar-lein a chynulleidfaoedd, mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig llawer o gyfleoedd i gynhyrchwyr. Mae arbenigwyr o’r diwydiant yn rhan o ddarpariaeth y rhaglen i sicrhau bod gennych ffocws llawn ar ofynion cyflogwyr y dyfodol ac arfer proffesiynol cyfredol.

Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i gynhyrchu gwaith yn eich dewis arbenigedd o fewn maes Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, gydag ymwybyddiaeth o ystyriaethau technegol, creadigol, cyfreithiol a moesegol.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn aros gyda chi tu hwnt i’r seremoni raddio. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau eich bod yn barod i ymuno â gweithlu cyfoes, gan eich paratoi i fod yn hyblyg wrth eu cymhwyso i ystod eang o ddiwydiannau a sefydliadau fel gwasanaeth creadigol.

Bydd nifer o fodylau’n cynnig cyfleoedd i gysylltu â diwydiant, yn cynnwys Canolfan S4C Yr Egin a’i thenantiaid, yn ogystal â phartneriaid yn y DU fel OM-Digital, Panasonic Lumix ac Ironman.

Mae’r rhaglen yn rhannu llawer o ethos y rhaglenni Gwneud Ffilmiau Antur, Actio, Theatr, Dylunio a Chynhyrchu sydd yn y clwstwr, o ran eu bod yn ffocysu ar ddiwydiant ac yn gydweithredol. Rhennir staff, adnoddau a chyfleusterau ar draws y rhaglenni.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
DMP1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gan y cwrs ffocws proffesiynol sy’n cyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol ar lefel uchel gyda thechnegau technegol a chreadigol.
02
Anogir myfyrwyr i edrych tuag allan a bod yn uchelgeisiol o ran eu prosiectau a’u nodau gyrfaol.
03
Mae ein lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn gyfoes ac mae’n cynnwys mannau pwrpasol ar ran diweddaraf campws y Brifysgol, a drws nesaf i’r Egin, canolfan y cyfryngau, sy’n gartref i gwmnïau cyfryngau annibynnol, yn ogystal â’r darlledwr cenedlaethol, S4C.
04
Rydym hefyd yn rhannu gofod theatr bocs du mawr gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer gweithdai cynhyrchu.
05
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio gyda brandiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym wedi cynnal prosiectau gyda chwmnïau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ironman, Olympus, Lumix a Nikon Cameras.
06
Bydd myfyrwyr yn cael ystod o gyfleoedd i gael profiadau trwy gydol y flwyddyn fel gweithio ar setiau ffilm, ffilmio lleoliadau masnachol, a chymysgu delweddau ar ffrydiau byw.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Dros dair blynedd y rhaglen llawn amser bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau technegol a chreadigol hanfodol i ymdrin â briffiau gan gleientiaid ac i ddatrys problemau wrth integreiddio technolegau newydd i mewn i straeon.  

  • Mae lefel 4 yn ffocysu ar sgiliau craidd a datblygu dealltwriaeth o ddewisiadau creadigol, cysylltiadau byd-eang, technegau cynhyrchu, a’r rhwydwaith o gyfleoedd sydd ar gael.
  • Mae lefel 5 yn edrych tu allan i’r Brifysgol ar arferion diwydiant, cydweithio, ac ymagwedd fwy cysyniadol at greu cynnwys cyfryngau.
  • Mae lefel 6 yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno’r sgiliau maent wedi’u datblygu a’u cymhwyso i brosiectau cleientiaid a phrosiectau personol.

Anogir myfyrwyr ar bob lefel i roi eu gwaith mewn cyd-destun a gwyro prosiectau tuag at eu harbenigedd dewisol lle bynnag y bo modd. Er bod hwn yn gwrs creadigol, fe fydd myfyrwyr yn llwyddo o ddifri pan fyddant yn trochi eu hunain yn y ddisgyblaeth ar lefel dechnegol ac academaidd. Bydd cyfle i astudio dramor yn un o’n sefydliadau partner rhyngwladol sy’n cynnwys Norwy a’r Unol Daleithiau.

Gorfodol

Cyflwyniad i Wneud Ffilmiau

(20 credydau)

Egwyddorion Dylunio

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Technoleg Cynhyrchu

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilm

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Gorfodol

Cynhyrchu Ffilmiau Byr

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Gwneud Ffilm o'r Awyr
Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Rhyngwladol

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Gorfodol

Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Cynnwys Amlblatfform
Prosiect Cleientiaid
Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 120 o Bwyntiau UCAS.

    Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr rhywfaint o brofiad o gynhyrchu cyfryngau fel Safon Uwch neu BTEC mewn pwnc perthnasol. Mae angen portffolio ynghyd â chyfweliad. Bydd pob cymhwyster lefel 3 ac uwch yn cael eu hystyried. Os nad oes gan ymgeisydd eu profiad perthnasol efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar friff byr i’w ddarparu fel portffolio.

    Rhaid bod gan fyfyrwyr ryngwladol sgôr IELTS o 5.0 heb fod yn llai na 4.5 mewn darllen, siarad, gwrando ac isafswm sgôr o 5.0 mewn ysgrifennu ar gyfer HND; ac isafswm sgôr cyffredinol o 6.0 heb fod yn llai na 5.5 mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando neu Siarad ar gyfer BA (Anrh). Efallai y bydd angen VISA perthnasol ar gyfer UKVI hefyd.

  • Mae ein holl asesiadau wedi’u seilio ar waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Bydd rhan fwyaf y gwaith wedi’i seilio ar gynhyrchu gwaith ar gyfer briff penodol. Bydd hefyd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno prosiect, creu adroddiadau hunan-fyfyrio, ac adolygiadau o ddiwydiant. Bydd y gwaith a gynhyrchwch yn cael ei seilio ar safonau’r diwydiant ac yn caniatáu i chi fesur eich hunan yn erbyn eich uchelgeisiau eich hun. Bydd gwaith hefyd yn galluogi i fyfyrwyr gronni portffolio o waith cynhyrchu, profiad, cysylltiadau a chyfeiriadau.

  • Recommended

    • Memory card £25-£60
    • Smart device £200-£800

    Optional

    • Camera £500-£1500
    • Computer £900-£2000
    • Field trip £600-£1000
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Film, Media and Animation

Chwiliwch am gyrsiau