Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Dawns Fasnachol (BA)
Mae’r cwrs hwn yn darparu platfform i chi fel artistiaid dawns uchelgeisiol, i ddechrau eich gyrfa yn y sector dawns a chelfyddydau perfformio masnachol. Cewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau a dealltwriaeth am y diwydiant y bydd arnoch eu hangen er mwyn gallu gweithio’n broffesiynol a manteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.
Mae’r radd ddwys hon yn paratoi dawnswyr ar gyfer y diwydiant dawns fasnachol mewn amgylchedd dysgu ymarferol, yn y stiwdio, gan gynnig y cyfle i ennill a datblygu sgiliau technegol ac artistig hanfodol trwy hyfforddiant proffesiynol.
Dan arweiniad staff sydd â chyfoeth o brofiad proffesiynol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’ch cymheiriaid ar gampws rhyngddisgyblaethol yn mireinio eich techneg a sgiliau perfformio trwy nifer o brosiectau dawns.
Mae’r cwrs yn datblygu sgiliau a fydd o gymorth wrth i chi greu cyfleoedd gwaith neu ennill gwaith yn y diwydiannau creadigol dawns fasnachol. Un o’i brif gryfderau yw ei drawstoriad eang o diwtoriaid o’r diwydiannau creadigol a fydd yn gweithio gyda chi ac yn eich cefnogi a chynorthwyo ym mhob agwedd ar eich astudiaethau.
Caiff nifer o fodylau eu rhannu gyda rhaglenni perfformio eraill WAVDA. Mae cydweithio’n bwysig a bydd gweithio ar brosiectau amlddisgyblaeth yn ehangu eich gorwelion a’ch posibiliadau galwedigaethol.
Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.
BA Dawns Fasnachol
Cod UCAS: COD1
Gwnewch gais drwy UCAS
Cadw lle ar ddiwrnod agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
Os hoffech chi astudio dawns fasnachol yn ymarferol a dysgu am y diwydiant dawns gyfoes, dyma’r cwrs i chi. Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant dawns fasnachol, waeth beth fo’ch cefndir neu brofiad o ddawns.
Byddwch yn dod o hyd i’ch hunaniaeth fel artist trwy astudio amrywiaeth eang o ffurfiau ar ddawns, gan adeiladu ar wahanol dechnegau dawns a sgiliau perfformio, fel:
- Hip Hop
- ‘House’
- Ffync
- ‘Waacking’
- ‘Voguing’
- Bale
- Tap
- Jazz
- Cyfoes
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i weithio gydag ymarferwyr a choreograffwyr presennol sy’n gweithio yn y diwydiant i ddatblygu prosiectau a pherfformiadau.
Trwy gydol y dair blynedd cewch gipolwg perthnasol ar y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth pan fyddwch wedi graddio.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trwy gydol y dair blynedd, cewch eich addysgu gan ymarferwyr proffesiynol sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r holl gysylltiadau pwysig â’r diwydiant.
Byddwn yn eich helpu i ddod yn artist dawns unigryw gyda dealltwriaeth ragorol o’r diwydiant dawns gyfoes a’r sgiliau i gynnal eich gyrfa greadigol eich hun.
Blwyddyn Un:
Bydd y flwyddyn hon yn ffocysu ar eich dealltwriaeth a’ch datblygiad o amrywiaeth eang o dechnegau dawns sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant dawns fasnachol. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau, gan ddysgu am ffitrwydd, maeth ac atal anafiadau holl-bwysig er mwyn gwrthsefyll gofynion y diwydiant. Daw’r flwyddyn hon i’w hanterth mewn prosiect perfformio a fydd yn cael ei arwain gan goreograffydd gwadd.
Blwyddyn Dau:
Bydd y flwyddyn hon yn adeiladu ar, ymestyn a herio’r sgiliau rydych wedi’u dysgu yn y flwyddyn flaenorol. Byddwch yn ennill sgiliau ychwanegol mewn gweithdai drwy astudio meysydd arbenigol fel acro a syrcas. Gan ffocysu ar dechneg clyweliad, fe gewch gipolwg gwerthfawr ar y broses glyweld a gweithio o fewn prosiect cydweithredol.
Blwyddyn Tri:
Yn eich blwyddyn olaf, fe gewch y cyfle i ddatblygu eich darn dawns eich hun gydag arweiniad gan diwtoriaid. Byddwch yn gweithio tuag at berfformiad arddangos, gan ddysgu sut i gyflwyno’ch hun fel artist dawns. Daw’r cwrs i’w anterth mewn prosiect perfformio ar raddfa fawr.
Ar ôl i chi raddio, byddwn yn parhau i’ch cefnogi trwy gydol eich gyrfa.
- Hyfforddiant Dawns 1
- Dawn Gyfoes 1
- Dawns Fasnachol 1
- Dosbarth Actio
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol
- Prosiect Perfformio
- Hyfforddiant Dawns 2
- Labordy Dawns
- Techneg Dawns Fasnachol 2
- Prosiect Cydweithredol
- Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth
- Techneg Clyweld
- Arfer Proffesiynol ar gyfer Perfformio
- Cynhyrchiad Terfynol
- Diwydiannau Creadigol
- Prosiect Annibynnol
Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau sy’n cynnig cyfleoedd i gyflwyno dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gydol y cwrs. Mae nifer o’r dulliau yn cynnwys perfformiadau, portffolios, ffug glyweliadau, asesiadau dosbarth, podlediadau, ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau.
Gwybodaeth allweddol
- Tori Johns
- Amy Guppy
- Alexa Bustamante
- Jack Philp
- Leighton Wall
120 o Bwyntiau UCAS
Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i roi i chi’r sgiliau angenrheidiol i fod yn artist dawns llwyddiannus. Drwy raddio’ o’r BA Dawns Fasnachol, byddwch wedi eich paratoi i ymgymryd â rolau fel:
• Perfformiwr
• Coreograffydd
• Teithio
• Dawns Ddigidol
Mae’r radd hon hefyd yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd eraill mewn meysydd eraill drwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol trwy gydol y dair blynedd.
Byddai costau ychwanegol yn cynnwys prynu’r canlynol:
- esgidiau bale
- esgidiau jazz
- sgidiau tap
- leotardau
- teits bale merched
- legins du neillryw
- top dawns dynion
- esgidiau cymeriad merched
Os hoffech wybod mwy, ymwelwch â Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.