Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Gwareiddiadau’r Hen Fyd (BA)

Gwareiddiadau’r Hen Fyd (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Archwiliwch hanesion a diwylliannau’r byd hynafol gyda’n rhaglen Gwareiddiadau Hynafol. Datglowch straeon diddorol amrywiaeth o ddiwylliannau, o’r Hen Aifft a’r Dwyrain Agos i’r byd Groegaidd-Rufeinig a Hen Tsieina. Mwynhewch gymharu a chyferbynnu diwylliannau amrywiol o bob rhan o’r byd.

Bydd y radd yn eich cyflwyno i natur amrywiol a chyfoethog gwead cymdeithasau hynafol. Bydd yn eich caniatáu i ddod i gysylltiad â’r amrywiol ddulliau a methodolegau y mae gwahanol ddisgyblaethau’n eu defnyddio i ymgysylltu â phobloedd a diwylliannau’r gorffennol hynafol (yn cynnwys hanes ac archaeoleg).

Byddwch yn datblygu gwybodaeth ddyfnach o’r gorffennol trwy astudio’n gymharol a rhyngddisgyblaethol. Bydd y cwrs yn darparu mewnwelediad cynhwysfawr i’r dadleuon allweddol sy’n gysylltiedig â sylfeini hanesyddol, diwylliannol, milwrol ac athronyddol amrywiaeth o wareiddiadau hynafol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd

Gwareiddiadau’r Hen Fyd (BA)
Cod UCAS: V901
Gwnewch gais drwy UCAS

Gwareiddiadau’r Hen Fyd gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: ACF1
Gwnewch gais drwy UCAS

  • Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
  • Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Côd sefydliad: T80

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Rydym yn cynnig dosbarthiadau bach sy’n caniatáu rhyngweithio a thrafod rhagorol, yn ogystal â chefnogaeth heb ei hail gan y tiwtoriaid - y math nad oes modd ei gyflawni mewn ystafelloedd darlithio mawr yn llawn o fyfyrwyr.
  2. Rydym yn un o’r ychydig brifysgolion ar draws y DU sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio ar ddiwylliant a gwareiddiadau’n hytrach na hanes ac archaeoleg yn unig.
  3. Mae cael ystod mor eang o bynciau cysylltiedig dan un to yn caniatáu i ni dynnu ar brofiad ein darlithwyr amrywiol mewn meysydd megis Archaeoleg, Hanes yr hen fyd a mytholeg, astudiaethau crefyddol ac Islamaidd, athroniaeth ac astudiaethau Tsieineaidd er mwyn darparu rhaglen unigryw ac amrywiol a fydd â rhywbeth o ddiddordeb i bawb.
  4. Caiff myfyrwyr y cyfle i fynd ar fodylau taith maes pan fyddwn yn archwilio rhyfeddodau’r hen fyd ein hun.
  5. Rydym wedi ein lleoli ar gampws anhygoel, â chyfoeth o hanes ac mewn lleoliad gwych gyda darlithwyr brwdfrydig, ymrwymedig, ac mae popeth yn argoeli’n dda i wneud eich amser yn y brifysgol yn brofiad unigryw ac arbennig gan eich gosod ar lwybr i yrfa gyffrous.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Caiff myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn y cyfle i dwrio i’r gorffennol ac astudio’n fanwl ddiwylliannau a thraddodiadau gwareiddiadau’r hen fyd.  Byddwch yn cymharu ac yn cyferbynnu ffordd y bobl hyn o fyw drwy archwilio’n fanwl wahanol feysydd bywyd bob dydd megis y diwylliannau, athroniaethau, cefndiroedd milwrol a hanesyddol a’r credoau gwahanol a oedd yn perthyn i amrywiol ddiwylliannau’r hen fyd.

Trwy fynd i’r afael ag amryw o feysydd astudio gwahanol (archaeoleg, hanes a diwylliant yr hen fyd i enwi ond ychydig) - nodwedd sy’n unigryw i’n cwrs - caiff ein myfyrwyr gipolwg ar ffordd y gwareiddiadau hyn o fyw a meddwl yn yr hen fyd, cipolwg na chewch yn unman arall.  Cewch y wybodaeth i ddeall sut roedd ofergoel, hud a lledrith, defodau a’r byd a ddaw oll yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr oedd y bobl hyn yn meddwl ac yn ymddwyn a sut y bu i’r rhain lunio eu byd hwythau, a’n byd ninnau.

Y gwareiddiadau y gallwch eu hastudio:

  • Tsieina’r Hen Fyd
  • Aifft yr Hen Fyd
  • America Ladin yr Hen Fyd
  • Ewrop Geltaidd
  • Y byd Groegaidd-Rufeinig ehangach
  • Diwylliannau Cristnogol, Iddewig ac Arabaidd cynnar
Pynciau Modylau

Yn eich astudiaethau cewch y cyfle i archwilio ystod eang o bynciau, sy’n cynnwys (ymhlith eraill):

  • Byd y Dwyrain Agos (Aifft y Pharoaid, Phoenicia, Cyprus a phobloedd ddirgel y Môr)
  • Arferion angladdol Aifft yr Hen Fyd
  • Hieroglyffau
  • Bywyd crefyddol mewn amryw o ddiwylliannau
  • Hanes a gwareiddiad Tsieina
  • Y byd Groegaidd-Rufeinig a’i ryngweithio ag amryw o wareiddiadau ar draws Affro-Ewrasia

Lefel 3 (Blwyddyn Sylfaen)

  • Sgiliau Goroesi Academaidd (20 credyd; gorfodol, ar y campws) 
  • Cyflwyniad i Fywyd Prifysgol (10 credyd; gorfodol, ar y campws) 
  • Ymchwiliad Annibynnol (10 credyd; gorfodol, ar y campws) 
  • Cyflwyniad i'r Dyniaethau (10 credyd; gorfodol, ar y campws) 
  • Ysgrifennu Academaidd (10 credyd; gorfodol, ar y campws) 
  • Deall Llenyddiaeth (20 credyd; dewisol, ar y campws) 
  • Siarad â'r Meirw (20 credyd; dewisol, ar y campws) 
  • Bod yn Ddynol (20 credyd; dewisol, ar y campws) 
  • Deall Democratiaeth (20 credyd; dewisol, ar y campws) 
     
Asesiad

Mae gradd Gwareiddiadau’r Hen Fyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â gwaith traddodiadol megis rhoi sylwadau ar destunau, traethodau a phrofion yn y dosbarth, cewch eich asesu drwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar ac ar PowerPoint, fel unigolyn ac aelod o grŵp - creu crynodebau, adroddiadau adfyfyrio, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, arholiadau i’w gwneud gartref, wicis mewn grwpiau, creu cynlluniau prosiect, ac wrth gwrs, y traethawd hir.  Mae’r asesu amrywiol hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau i allu cyflwyno deunydd mewn modd clir a phroffesiynol, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Mae’r mathau eang hyn o asesu’n creu amrywiaeth ym mhrofiadau’r myfyrwyr, gan ganiatáu i chi archwilio’r pwnc mewn ffyrdd gwahanol, ac ennill ystod o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr yn y dyfodol.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Rhaglenni a Digwyddiadau Llambed

Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi.  Y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith.  Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

  • Busnes a masnach
  • Y gwasanaeth sifil
  • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol
  • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
  • Newyddiaduraeth
  • Llywodraeth leol
  • Ymchwil ôl-raddedig
  • Addysgu
Costau Ychwanegol

Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
  • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig

Hanes yr Hen Fyd (BA)
Cod UCAS: V110

Hanes (BA)
Cod UCAS: V100 

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth