UWTSD Home - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Gwrthdaro a Rhyfel (BA)
Mae’r cwrs arbenigol hwn yn cyfuno hanes, athroniaeth a moeseg rhyfel. Mae cynnwys y radd yn eang ac fe fydd yn cynnwys astudiaethau o’r byd hynafol, y canoloesol a chyfnodau modern cynnar a modern ac ar draws ystod eang o bynciau.
Gwrthdaro a Rhyfel (BA)
Cod UCAS: 9C3R
Gwneud cais trwy UCAS
Gwrthdaro a Rhyfel gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: CWF1
Gwneud cais trwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
£9,000
£13,500
Pam dewis y cwrs hwn?
- Ystod eang o fodylau, sy’n ffocysu ar lawer o wahanol leoedd, themâu, pynciau a phobl, o Haig i Hitler, Alecsander i’r Bom Atomig, a Chesar i Churchill
- Cyfle i astudio rhyfel a gwrthdaro ar draws rhan eang o hanes, yr holl ffordd nôl i’r hen fyd trwy’r Canoloesoedd ac i’r oes sydd ohoni.
- Lle i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd i ddilyn eich hoff bynciau a diddordebau chi.
- Dulliau ymarferol ac addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un
- Cyfle i gyfuno eich astudiaethau gyda modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trosolwg o’r cwrs
Mae’r rhaglen Gwrthdaro a Rhyfel yn cyflwyno myfyrwyr i hanes rhyfela o’r hen fyd i’r oes sydd ohoni. Mae’n ystyried natur rhyfela, moeseg a moesoldeb lladd, llenyddiaeth rhyfel a damcaniaethau rhyfel a strategaeth.
Mae’r radd yn gyfle i gael gwybodaeth fanwl o bwnc cyffrous trwy fodylau arbenigol ac ymchwil annibynnol, lle cewch ymchwilio ymhellach i wrthdaro yn ôl eich diddordebau personol chi.
Ymhlith y pynciau perthnasol mae:
- Sgiliau Digidol
- Gallu i ymgyfaddasu
- Cyfathrebu
- Creu portffolios
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn feirniadol
- Gwneud cyflwyniadau
- Datrys problemau
- Rheolaeth prosiect
- Ysgrifennu adroddiadau
- Hunan-fyfyrio
- Gwaith tîm a chydweithredu gyda chyd-fyfyrwyr
- Defnyddio technegau amlgyfrwng
- Gweithio’n annibynnol
- Gweithio i derfynau amser
Plîs sylwch, gall y pynciau hyn newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Asesu
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglenni a Digwyddiadau Llambed
Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, deall, dadansoddi a hunan-reolaeth hyn yn rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Gallai Hanes Modern baratoi myfyrwyr ar gyfer meysydd gwaith sy’n cynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. Yn Llambed, mae gennym hanes cadarn o helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd mewn Hanes Modern – ar lefel MA a PhD.
Mae llwybrau gyrfaol ar gyfer graddedigion Gwrthdaro a Rhyfel, gan gynnwys:
- Academaidd
- Y Lluoedd Arfog
- Busnes
- Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
- Newyddiaduraeth
- Y gyfraith ac eiriolaeth
- Llywodraeth leol
- Gwleidyddiaeth
- Ymchwil ôl-raddedig
- Addysgu
Costau Ychwanegol
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
- Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
- Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig
Hanes Hynafol (BA)
Cod UCAS: V110
Hanes (BA)
Cod UCAS: V100
Astudiaethau Canoloesol (BA)
Cod UCAS: V130
Dyfyniadau Myfyrwyr
Rory (BA Gwrthdaro a Rhyfel)
“Mae Gwrthdaro a Rhyfel yn caniatáu i chi astudio rhan o hanes nad yw’r ysgol yn aml yn ffocysu arno. Mae’r gwahanol bynciau a dosbarthiadau bach yn golygu bod hon yn rhaglen radd difyr”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth