Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Patrymau Arwyneb a Thecstilau (BA, MDes)
Mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn un fywiog ac amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar archwilio tecstilau, materoliaeth, patrymau a gwneud yng nghyd-destun ffasiwn, addurno mewnol ac orielau a arweinir gan ddylunio. Mae’n heriol yn academaidd ac yn gyfoes ei hagwedd, a byddwch yn dysgu llu o sgiliau ymarferol a thechnegol, gan fwynhau potensial dylunio ein cyfleusterau digidol arloesol a thraddodiadol helaeth.
Rydym yn dwyn ein myfyrwyr ynghyd i greu hunaniaeth grŵp cryf, tra bo’r llwybrau’n caniatáu ichi ddewis arbenigedd. Mae’r diwylliant stiwdio yn greiddiol i brofiadau myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, gan greu amgylchedd dysgu cydweithredol â ffocws proffesiynol sy’n anelu at adlewyrchu’r gweithle gydag ymagwedd gadarnhaol, ddifyr ac agored at weithio gydag eraill.
Mae ein myfyrwyr yn graddio yn ddylunwyr a gwneuthurwyr, yn barod i ffynnu mewn amrywiaeth o swyddi a mentrau creadigol, ar ôl i sawl prosiect byw arwyddocaol, profiad arddangos a chysylltiad â’r diwydiant gael eu gwreiddio yn eu hastudiaethau. Mae hon yn nodwedd ddiffiniol o'n rhaglen. Mae prosiectau byw wedi cael eu cynnal â Rolls Royce Bespoke Interiors, H&M Design, Eley Kishimoto London, Hallmark UK ac Orangebox. Mae'r rhaglen yn ddeinamig, wedi'i chreu i dyfu ac i adlewyrchu'r diwydiant creadigol y byddwch yn cyflwyno cynigion iddo, gyda chyflogadwyedd yn greiddiol iddi.
Roedd 100% o fyfyrwyr Dylunio Patrymau Arwyneb - Tecstilau Mewnol PCYDDS yn fodlon ar eu cwrs (ACF 2019)
Gweld Catalog y Radd Dylunio Patrymau Arwyneb
Gweld Sioe Raddio Haf Coleg Celf Abertawe
Patrymau Arwyneb a Thecstilau - Gwneuthurwr (BA)
Cod UCAS: STM1
Gwnewch gais trwy UCAS
Mae materoliaeth wrth wraidd Patrymau Arwyneb a Thecstilau, gan ddiwallu anghenion myfyrwyr sy'n dymuno arbenigo fel Dylunwyr Wneuthurwyr y dyfodol. Byddwch yn gwneud gwaith arloesol sy'n addas ar gyfer deilliannau pellgyrhaeddol pwrpasol, neu swp-gynhyrchu, yn ymwneud â dylunio, crefftau, orielau, gwrthrychau, cyrff neu ofod - chi sy'n penderfynu!
Patrymau Arwyneb a Thecstilau - Ffasiwn (BA)
Cod UCAS: STF1
Gwnewch gais trwy UCAS
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno dylunio ar gyfer anghenion pellgyrhaeddol a chyson newidiol y diwydiant ffasiwn - o'r stryd fawr i'r pen uchaf. Mae myfyrwyr yn archwilio tecstilau ac arwynebau yn yr ystyr ehangaf, wrth ddysgu i ddehongli briffiau, cyflwyno cynigion i gynulleidfaoedd, ymchwilio a rhagfynegi tueddiadau.
Patrymau Arwyneb a Thecstilau – Addurno Mewnol (BA)
Cod UCAS: STI1
Gwnewch gais trwy UCAS
Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dylunio a gwella gofodau mewnol â thecstilau arloesol, gorchuddion wal a deunyddiau arloesol – o rai masnachol i rai cysyniadol. Mae myfyrwyr yn archwilio tecstilau ac arwynebau yn yr ystyr ehangaf, wrth ddysgu i ddehongli briffiau, cyflwyno cynigion i gynulleidfaoedd, ymchwilio a rhagweld tueddiadau.
MDes (opsiwn 4 blynedd)
Mae'r MDes yn rhoi cyfle i fyfyrwyr symud ymlaen o lefel israddedig i lefel gradd meistr o fewn strwythur rhaglen integredig. Mae modylau'r bedwaredd flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso a throsglwyddo meddylfryd dylunio cysyniadol i ymwneud â phrosiect manwl yn y byd go iawn. Ei nod yw addysgu unigolion creadigol i ddiwallu anghenion galwadau cyfoes a galwadau’r dyfodol. Mae gweithgareddau Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth y gyfadran gyfan yn sail i’r rhaglen.
Patrymau Arwyneb a Thecstilau
Cod UCAS: SPT1
Gwnewch gais trwy UCAS
Sut i wneud cais
Gwneir pob cais i astudio am raglen radd israddedig lawn amser trwy UCAS — mae Coleg Celf Abertawe yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.
Gall ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau rhan-amser wneud cais trwy'r Brifysgol.
Ewch i adran ymgeisio'r Brifysgol i ddarganfod mwy.
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
- Cewch brofiadau myfyriwr bywiog ac ysbrydoledig a chewch fwynhau cymhareb staff-myfyrwyr ardderchog gydag amser cyswllt hael.
- Bydd gennych eich gofod stiwdio pwrpasol eich hun a mynediad i'n gweithdai â chyfarpar rhagorol gydag ystod eang o gyfleusterau.
- Byddwch yn ymwneud â phrosiectau byw cyffrous a'n cysylltiadau â’r diwydiant drwy gydol y rhaglen.
- Byddwch yn aelod gwerthfawr o gymuned flaengar y cwrs patrymau arwyneb a thecstilau sy'n canolbwyntio ar ddylunio, a chewch brofi gwaith caled a hwyl i’r un graddau.
- Byddwch yn ymuno ag un o'r goreuon! – yma ar y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, cawn ein rhestru ymhlith y 10 gorau yn gyson, gan gyrraedd y safle 1af yn y DU ar gyfer ffasiwn a thecstilau yn Nhablau Cynghrair y Guardian 2020.
Cymerwch olwg ar ein tudalen ffeithiau a ffigurau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae portffolio’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn rhoi profiad ymarferol helaeth, ac mae’n canolbwyntio ar greu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol ar gyfer ystod eang o gyd-destunau dylunio cyfoes. Gwneir hyn trwy sefydlu proses ddylunio broffesiynol barhaus a fesul cam dros y 3 neu 4 blynedd. Mae’n gyfuniad o syniadau, ymchwil, lluniadu a gwneud, ymarfer adfyfyriol ac amrywiaeth eang o fformatau cyflwyno.
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro er mwyn i’n dysgwyr brofi ystod o brosesau ac arferion a gaiff eu cymhwyso i'w harbenigedd dewisol (Gwneuthurwr, Ffasiwn neu Addurno Mewnol) wrth gynnal ymagwedd sy'n berthnasol i arfer dylunio cyfoes.
O'r cychwyn cyntaf byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddulliau gweithio ac amgylcheddau dysgu a gefnogir gan dîm ymroddedig: ymweliadau astudio, ymchwil, lluniadu, dylunio, gwneud, dulliau argraffu digidol ac analog, llifo a lliwio, tiwtorialau, ymarfer cyd-destunol, prosiectau byw, cystadlaethau, profiad diwydiant, arddangosfeydd, hunan-hyrwyddo a pharatoi portffolio. Pan fyddwch yn ein gadael ni, byddwch yn barod ar gyfer y gweithle!
Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys addysgu dwys, i’ch cyflwyno i amrywiaeth o ffyrdd newydd o ddysgu, prosesau materol eang, ymarfer astudiaethau gweledol, a meddylfryd dylunio blaengar. Eir i'r afael â'r rhain trwy brosiectau llwybr a rhaglen benodol, a hefyd trwy brofiadau carfan ehangach Coleg Celf Abertawe mewn astudiaethau cyd-destunol a'n modylau priodoleddau graddedigion. Mae elfennau o’r astudiaethau cyd-destunol a'r modylau priodoleddau graddedigion mewn arddull dysgu cyfunol sy'n cyfoethogi eich sgiliau digidol ochr yn ochr â'ch modylau sy’n seiliedig ar ymarfer.
Cewch brofiad o raglen gyfoethog ac amrywiol, wedi'i chynllunio o gwmpas y tri llwybr, gan eich galluogi i ennill a datblygu sgiliau trin arwynebau a dulliau adeiladu. Mae gweithdai tecstilau print, lliwio a chwmwl creadigol Adobe yn cyflwyno'r sgiliau i'r graddau Meistr. Mae gweithdai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gwneud yn rhoi'r cyfle i chi archwilio defnyddiau mewn ystyr eang, gan eich galluogi i weithio mewn dau ddimensiwn a thri dimensiwn.
Mae astudiaethau cyd-destunol a'r modylau priodoleddau graddedigion wedi'u cynllunio i fod yn sail i'ch ymarfer stiwdio.
Mae Blwyddyn 2 yn adeiladu ar flwyddyn 1, gan adleisio 'siâp' strwythur y modwl. Mae'r gwaith prosiect dylunio ar y lefel hon yn eich annog i fentro, i ddadansoddi, i herio confensiynau ac i werthuso eich ymagwedd unigol. Cewch eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau gyda phwyslais ar wthio tuag at arloesi ac ehangu eich llais creadigol eich hun.
Byddwch yn parhau i ddatblygu eich ymarfer trwy brosiectau byw, cystadlaethau, gweithgareddau gweithdy a dulliau uwch mewn ystod eang o brosesau digidol a materol. Mae astudiaethau cyd-destunol yn datblygu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau celf a dylunio hanesyddol a chyfoes ac yn eich paratoi ar gyfer modwl y Prosiect Annibynnol ar lefel 6.
Mae’r modwl Priodoleddau Graddedigion yn eich cyflwyno i’r cyd-destun cyflogaeth yr ydych yn gweithio tuag ato ac yn cynnig gweithdai ymarferol mewn gwaith tîm, datrys problemau, ac adeiladu presenoldeb proffesiynol ar-lein. Mae prosiectau cyswllt allanol wedi’u targedu rhwng lefelau 5 a 6 i roi cyfle i chi wneud cysylltiadau, datblygu rhwydweithiau i fynd ar deithiau ymchwil neu ar leoliad, gan roi blas i chi o bosibiliadau'r dyfodol.
Mae Blwyddyn 3 yn gofyn i chi roi eich ymarfer stiwdio yn ei gyd-destun mewn ymateb i'ch dewisiadau personol, eich set sgiliau, eich cryfderau a'ch uchelgeisiau, eich gallu i arloesi, a'ch profiadau prosiect allanol a byw hyd yma. Gwneir hyn drwy brosiect mawr personol sylweddol a phrosiect byw arall. Mae modwl y Prosiect Annibynnol yn rhoi eich ymarfer stiwdio mewn cyd-destun trwy ddarn ysgrifenedig estynedig ac yn cynnig cyfle i chi gloddio’n ddyfnach i'r syniadau a'r cysyniadau rydych chi'n ymchwilio iddynt. Daw’r flwyddyn i ben gyda chorff o waith neu gasgliad dylunio sy’n mynegi eich taith greadigol fel dylunydd neu wneuthurwr yn llawn, a chaiff ei arddangos mewn gofod cyhoeddus neu rithwir; y Sioe Raddio.
Cynhelir gweithdai hyrwyddo proffesiynol i gryfhau strategaeth ymadael yr unigolyn.
Blwyddyn Un - Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU, BA ac MDes)
- Dyfodol Digidol a Materol B1 (20 credyd; gorfodol)
- Gwneud Delweddau 1 – Lluniadu ar gyfer Dylunio (10 credyd; gorfodol)
- Dyfodol Digidol a Materol B2 (20 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Mawr A1 – Syniadau ar Waith (20 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Mawr A2 – Dylunio ar gyfer Cyd-destun (20 credyd; gorfodol)
- Diwylliant Gweledol a Materol (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau - Lefel 5 (Dip AU, BA ac MDes)
- Dyfodol Digidol a Materol B3 (20 credyd; gorfodol)
- Pecyn Cymorth Paratoi ar gyfer y Dyfodol (20 credyd; gorfodol)
- Gwneud Delweddau 2 – Lluniadu ar gyfer Briff Byw (10 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Mawr A3 - Dylunio ar gyfer Briff Byw (20 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Mawr A4 - Briff Hunangyfeiriedig (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol)
- Iaith Weledol a Materol (10 credyd; gorfodol).
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â'r Diwydiant
Bywyd Abertawe
Gwybodaeth allweddol
- Anna Lewis
- Catherine Hammerton
- Claire Savage Onstwedder
- Georgia McKie
- Kate Coode
- Lloyd James
- Sharon Cooper
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy'n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â'ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Gweler ein Canllaw Cyfweliadau (yn Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Addurno Mewnol
- Dylunwyr tecstilau
- Dylunwyr papur wal
- Argraffwyr sgrin
- Dylunwyr wneuthurwyr
- Dylunwyr patrymau
- Addurnwyr mewnol
- Dylunydd cynnyrch ffordd o fyw
- Rolau mewnol ar gyfer brandiau addurno mewnol
- Gwaith llawrydd ar gyfer brandiau a chleientiaid addurno mewnol, rhagfynegi tueddiadau a rhagolygon addurno mewnol
- Golygyddol – cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio
Ffasiwn
- Dylunwyr tecstilau
- Dylunwyr patrymau
- Argraffwyr sgrin
- Dylunwyr tecstilau digidol
- Dylunwyr wneuthurwyr
- Cynorthwywyr dylunio
- Dylunydd ffordd o fyw ac ategolion
- Swyddi hyfforddai graddedig
- Steilwyr ffasiwn
- Rolau mewnol ar gyfer brandiau
- Gwaith llawrydd ar gyfer brandiau
- Rolau mewn stiwdio ddylunio
- Rhagfynegi tueddiadau a rhagolygon ffasiwn
- Golygyddol - cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio
Deunydd Ysgrifennu
- Darlunwyr
- Dylunio nwyddau anrhegion – papur lapio ac ategolion a chasgliadau cysylltiedig
- Dylunio deunydd ysgrifennu – cardiau, llyfrau, casgliadau ffordd o fyw
Cyrff Celfyddydol
- Rheoli Oriel
- Rheoli Prosiect
- Gwneuthurwyr arddangosfeydd
- Stocio a gwerthu trwy siopau oriel wedi'u curadu
- Prosiectau cymunedol
- Gwirfoddoli
- Gweithdai
- Artistiaid Preswyl
Manwerthu
- Marchnata Gweledol – dylunio a gosod
- Caffael
- Steilio
- Steilydd personol
- Gwerthu trwy siopau manwerthu
Addysgu
- TAR – Uwchradd, Cynradd, AB
- Darlithwyr Gwadd
- Darlithwyr Prifysgol
- Gweithdy, Llawrydd
- Gweithdai Cymunedol a Grwpiau celfyddydol
Dulliau gweithio
- Cyflogaeth
- Hunangyflogaeth
- Gweithio llawrydd
- Mentergarwch
- Gwirfoddol
Rhestr Enghreifftiol o'r Cwmnïau y Mae Myfyrwyr yn Gweithio iddynt ar hyn o bryd
- Monsoon
- Hallmark Creative UK
- Tigerprint
- Misfit Fashion
- Nobody’s Child
- Humbug Design Ltd
- Lush
- In the Style
- H&M, Sweden
- Cubus, Norwy
- Talking Tables
- IG International Greetings
- The Silk Bureau
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Emma Bridgewater
- Tenn Ltd
- John Lewis
Rhestr Enghreifftiol o Fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i redeg Busnesau Creadigol llwyddiannus
- Jo Ashburner – Red Dragon Flags, The Roof Project
- Stephanie Cole
- Nia Rist Prints
- Hannah Davies
- Harriet Popham
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu'r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u hymarfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd 'pecyn celf a dylunio' sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o'r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â'ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
- Sefydliad Celf a Dylunio (TystAU) – Fersiwn Saesneg: Art and Design Foundation (CertHE)
- Dylunio Patrwm Arwyneb (MA) – Fersiwn Saesneg: Surface Pattern Design (MA)
- Tecstilau – Deialogau Cyfoes (MA) – Fersiwn Saesneg: Textiles (MA)
- TAR Uwchradd Celf a Dylunio gyda SAC
- TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg gyda SAC
Harriet Popham
Sut fyddech chi'n disgrifio'r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb yma yng Ngholeg Celf Abertawe?
“Mae’r cwrs Patrymau Arwyneb yn un cyffrous, heriol ac amrywiol. Mae dysgu cynifer o dechnegau’n eich galluogi i ddod o hyd i'ch arbenigedd a bwrw ati ag ef. Mae’r Tiwtoriaid yn hynod gefnogol wrth eich helpu i gyrraedd eich potensial llawn ac yn mwynhau gwneud hynny, a daw’r stiwdio yn ail gartref i chi – yn llawn lliwiau, patrymau a chwerthin. Roedd yr holl beth yn ysbrydoliaeth i mi.”
Ciara Long
Beth oedd eich hoff ran o'r cwrs Patrymau Arwyneb yn Abertawe?
“Yr awyrgylch gymunedol wrth weithio yn y stiwdio – ni welais hynny mewn unrhyw Brifysgol arall.
Yr amrywiaeth eang o weithdai a sgiliau i'w dysgu.
Gweithio ar friffiau byw gyda chwmnïau allanol gan ei fod yn rhoi elfen realistig i’r cwrs o ran sut olwg allai fod ar fywyd ar ôl y brifysgol.”
Charlotte Field
“Mae popeth sy'n cael ei addysgu ar y cwrs israddedig yn gosod y sylfaen ar gyfer y diwydiant. Rydych chi'n dysgu sgiliau y byddwch yn eu defnyddio hyd weddill eich gyrfa."
Beth a ddysgoch yn ystod eich gradd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol yn eich gyrfa?
“Mae’r gweithdai tecstilau traddodiadol yn rhoi sylfaen dda iawn yn y prosesau argraffu sy’n dal i gael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu torfol modern. Wrth weithio fel dylunydd printiau masnachol, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o gyfyngiadau cynhyrchu er mwyn i chi allu gwneud y gorau o’ch dyluniadau.”
Fran Dixon
Pam wnaethoch chi ddewis astudio Dylunio Patrymau Arwyneb yn Abertawe?
“Dewisais astudio yn PCYDDS oherwydd yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael yn y gyfadran, y gofod stiwdio i bob myfyriwr yn yr adran Dylunio Patrymau Arwyneb, a faint o amser cyswllt y mae’r myfyrwyr yn ei gael â thiwtoriaid bob wythnos.”
Beth oedd y pethau mwyaf defnyddiol a ddysgoch ar eich cwrs sy'n eich helpu’n awr?
“Un o’r pethau mwyaf defnyddiol dwi’n credu i mi ei ddysgu tra oeddwn ar y cwrs yw rheoli amser. Mae cymaint o agweddau’n perthyn i radd ddylunio fel fy mod yn awr yn gallu jyglo sawl tasg wahanol ar yr un pryd. Hefyd, mae gwerthfawrogiad o waith tîm a chefnogaeth gan gyfoedion ar y cwrs yn hanfodol. Mae creu sioe ar ddiwedd y flwyddyn yn galw am gydweithio!”
Beth oedd y rhan orau o'r cwrs i chi?
“Fy hoff agwedd ar y cwrs oedd gallu arbrofi mewn ystod eang o ddeunyddiau a chyfuno’r rhain i greu cynnyrch diddorol. Fodd bynnag, mae’r sioe graddio’n aros yn y cof oherwydd ei bod yn dangos y daith y bu’r grŵp blwyddyn cyfan arni gyda’i gilydd.”
Nicole De Haviland
Beth oedd y pethau pwysicaf a ddysgoch wrth astudio Dylunio Patrymau Arwyneb yn Abertawe?
“Y peth pwysicaf a ddysgais o ran datblygiad personol oedd rheoli amser. Drwy gydol y drydedd flwyddyn, roedd hi’n allweddol blaenoriaethu hyn. Roedd llawer o brosiectau i gadw rheolaeth arnynt a'u cynnal i safon gyson. O ran datblygiad ymarferol, gweithio gyda Creative Suite oedd y mwyaf buddiol. Roedd dysgu llwybrau byr a sut i ddefnyddio’r feddalwedd yn effeithiol ac yn hyderus yn fantais wrth chwilio am swydd ar ôl graddio gan fy mod am ddilyn ochr fasnachol Patrymau Arwyneb.”
Mark Eley, Athro Ymarfer
“Mae ansawdd a safon y gwaith gan y myfyrwyr Patrymau Arwyneb yn PCYDDS yn cael ei gyflawni’n broffesiynol iawn. Rhaid canmol ymdrech gydweithredol tîm cyfan y rhaglen. Gallai’r gwaith dylunio a gyflwynwyd gan bob myfyriwr gystadlu â’r gwaith yn y farchnad y’u bwriadwyd ar ei chyfer.”
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i'n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Yn ogystal â’n , mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.