Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Perfformio (BA)
Mae’r rhaglen Perfformio yn gwrs arloesol, cyfrwng Cymraeg a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae’r cwrs yn datblygu perfformwyr amlddisgyblaethol, hyderus sydd â gwybodaeth gadarn am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt, ac sydd â chysylltiadau â’r diwydiannau hynny. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ddatblygu’n berfformwyr sy’n gallu perfformio yn y theatr, mewn neuaddau cyngerdd neu ar y radio ac mewn stiwdios teledu.
Mae strwythur y cwrs yn uchelgeisiol, a bydd y profiadau a gaiff myfyrwyr yn gyfoethog, amserol ac amrywiol, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer nifer o wahanol yrfaoedd sy’n gysylltiedig â pherfformio.
Cewch eich cyflwyno i ystod o sgiliau amrywiol yn ystod y cwrs a fydd yn eich paratoi i fod yn berfformiwr amryddawn a fydd yn gallu cyfrannu’n greadigol ac yn hyderus mewn nifer o wahanol gyd-destunau.
Trwy gydol dwy flynedd ddwys y cwrs, bydd gennych gyfle i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o’r diwydiant y bydd angen i chi eu meithrin er mwyn gallu gweithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.
Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.
BA Perfformio
UCAS Code: C68M
Ymgeisiwch trwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnodau Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd yn unig
- Asesiadau Ymarferol — Dim Arholiadau
- Cyfle i gymryd rhan mewn cynhyrchiad llawn gyda thîm technegol proffesiynol
- Cysylltiadau cryf â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt
- Cyfleoedd perfformio rheolaidd
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lefel 4 (Medi-Ebrill)
Cyfnod o ddatblygu sgiliau a thechnegau craidd yw Lefel 4. Mae’r 15 wythnos gyntaf yn gyfle i ganolbwyntio ar ddosbarthiadau actio, canu (1 i 1 a gwaith ensemble) a gwaith llais ynghyd â dosbarthiadau Tap, Bale, Jazz a dawns Gyfoes. Bydd cyfle i ddadansoddi ac ymchwilio ystod eang o arddulliau yn ein labordy theatr.
Daw y cyfnod i ben gyda prosiect perfformio sy’n gyfle i gymhwyso yr holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y lefel.
Lefel 5 (Mai-Rhagfyr)
Addysgir Lefel 5 am ryw 10 wythnos y naill ochr a’r llall i’r gwyliau haf. Yn ystod yr wythnosau hyn, byddwch yn datblygu ymhellach eich sgiliau a’ch technegau craidd ym meysydd actio, canu a dawnsio. Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiectau sy’n eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol, gyda phwyslais ar ddatblygu gwaith newydd, clyweliadau ac actio ar gyfer y teledu.
Lefel 6 (Ionawr-Mehefin)
Mae Lefel 6 yn ymwneud â dod â’r sgiliau a’r technegau at ei gilydd mewn dau gynhyrchiad sy’n rhoi cyfle i chi weithio gyda chyfarwyddwr a thîm cynhyrchu proffesiynol. Mae’r modiwl Diwydiannau Creadigol yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i bontio gyda’r byd gwaith yn cynnwys paratoi arddangosfa derfynol. Yn ogystal, byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol a all ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar y radd ac arddangos eich doniau unigol.
Lefel 4 (Cert HE, Dip HE & BA)
- Actio / Acting (20 credyd; gorfodol)
- Arfer Arbenigol (Retrieval) / Independent Study (Retrieval) (20 credyd; dewisol)
- Canu 1 / Singing 1 (20 credyd; gorfodol)
- Dosbarth Perfformio / Performance Class (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol / Learning in the Digital Era (20 credyd; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion; gorfodol)
- Hyfforddiant Dawns 1 / Dance Training 1 (20 credyd; gorfodol)
- Labordy Theatr / Theatre Laboratory (20 credyd; gorfodol).
Lefel 5 (Dip HE & BA)
- Actio 2 / Acting 2 (20 credyd; gorfodol)
- Adalw / Retrieval (20 credyd; dewisol)
- Canu 2 / Singing 2 (30 credyd; gorfodol)
- Hyfforddiant Dawns 2 / Dance Training 2 (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Cydweithredol / Collaborative Project (20 credyd; gorfodol)
- Techneg Clyweld / Audition Technique (10 credyd; gorfodol)
- Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy / Changemakers: Building your Personal Brand for Sustainable Employment (20 credyd; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion; gorfodol).
Lefel 6 (BA)
- Cynhyrchiad 1 / Production 1 (30 credyd; gorfodol)
- Cynhyrchiad Terfynol / Final Production (30 credyd; gorfodol)
- Diwydiannau Creadigol / Creative Industries (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol / Independent Project (40 credyd; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion; gorfodol).
Perfformiadau/digwyddiadau
Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.
Tiwtorialau rheolaidd
Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.
Cyflwyniadau
Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.
Gweithlyfrau proses
Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Cysylltiadau Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru



Bywyd Myfyrwyr ac Caerfyrddin
Gwybodaeth allweddol
Mae artistiaid proffesiynol o’r diwydiannau creadigol, sy’n arbenigwyr yn eu maes, yn addysgu ar ein gradd. Gallant gynnig nid yn unig wybodaeth fanwl a thrylwyr, ond hefyd brofiad personol a dirnadaeth o’r diwydiant perfformio heddiw.
- Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd: Eilir Owen Griffiths
- Darlithydd Theatr: Elen Bowman
- Darlithydd Dawns: Tori Johns
- Aled Pedrick (Acting)
- Alexa Garcia (Dance)
- Amy Guppy (Dance)
- Angharad Lee (Acting)
- Christopher Fossey (Music Director)
- David George Harrington (Music Director)
- David Laugharne (Singing)
- Eiry Thomas (Acting)
- John Quirk (Music Director)
- Luke Hereford (Director)
- Mali Tudno (Acting)
- Michael Moorwood (Singing)
- Morgan Thomas (Physical Theatre)
- Rhian Morgan (Voice)
- Rhian Cronshaw (Voice)
- Robbie Bowman (Acting)
- Sara Lloyd (Director)
- Steve Cassey (Acting)
- Tonya Smith (Acting)
Proses Clyweldiad ar-lein
CAM 1: Hunan-dâp
Dylai darpar fyfyrwyr baratoi hunan-dâp gyda'r cynnwys canlynol:
- Un gan mewn arddull sioe gerdd
- Monolog: Ni ddylai'r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac nid yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe'ch cynghorir i ddewis cymeriad sy'n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen naturiol. Gall ymgeiswyr berfformio eu monolog naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cofiwch nodi yn glir y manylion canlynol ar ddechrau y tap:
- Enw llawn
- Y cwrs rydych yn ymgeisio amdano
- Teitl y darn a gyflwynir.
CAM 2: Cyfweliad
Cewch eich gwahodd i gyfweliad byr gyda thîm y rhaglen ar Zoom. Rhaid i chi baratoi'r canlynol:
- Monolog: Ni ddylai'r monolog bara mwy na dwy funud ac o ddrama gyhoeddedig ac ni ddylai fod yn ddarnau o gerddi, nofelau, ffilmiau neu sgriptiau teledu. Fe'ch cynghorir i ddewis cymeriad sy'n agos at eich oedran a dylech ei berfformio yn eich acen frodorol. Dylai ymgeiswyr berfformio'r monolog yn Gymraeg.
- Bydd tîm y rhaglen yn gweithio gyda chi ar eich darn dewisol ac yna cwestiynau.
Yn dilyn clyweliad llwyddiannus bydd ymgeiswyr yn cael cynnig lle. Mae lleoedd cyfyngedig ar gael bob blwyddyn.
Byddem yn chwilio am 90-120 o bwyntiau UCAS.
Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.
- Actio
- Canu
- Teledu/Radio
- Theatr
- Theatr Gerddorol
- Chwarae rôl a hyfforddiant corfforaethol
- Addysg
- Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig
Heledd Roberts, BA Perfformio 2015-2017
“Trwy dderbyn hyfforddiant arbenigol gan unigolion profiadol iawn, fel Elen Bowman ac Eiry Thomas, yn ystod fy modylau actio, nid yn unig y dysgais i sut i fod yn well actor, ond fe wnaethon nhw hefyd fy ysbrydoli. Cefais fy nghyflwyno ganddyn nhw i dechnegau perfformio newydd – elfennau sydd wir wedi fy helpu i greu fy nghymeriad Anest yn Rownd a Rownd.
“Dysgais i gymaint yn ystod fy amser ar y cwrs. Yn fy marn i, mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am berfformio yn ogystal â’r diwydiant ei hun – mae’n hyblyg iawn ac yn gallu addasu i ofynion myfyrwyr. Roedd fy mhrofiad yn y brifysgol – ar y cwrs dwys ac unigryw hwn – yn amhrisiadwy a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dyfodol yn y celfyddydau perfformio i edrych ar y cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant.”
Lloyd Macey, BA Perfformio 2015-2017
“Dwi’n falch iawn fy mod i wedi astudio’r cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant – rhoddodd y cyfle i mi dyfu a datblygu fel perfformiwr ac i ddod o hyd i’m llais fy hun.
“Dwi ddim yn meddwl y byddwn i byth wedi cynnig am yr X Factor pe na bawn i wedi gwneud y cwrs hwn. Roeddwn i wastad wedi canu ac wedi cael profiad o ganu o’r blaen ond rhoddodd y cwrs hyder i mi ac fe wnaeth ddysgu cymaint i mi amdanaf i fy hun. Dysgodd fi sut i sianelu fy nerfau... i feddwl fy mod i’n gallu canu o flaen miliynau o bobl bob penwythnos.. ddwy flynedd yn ôl, fyddwn i byth wedi gallu gwneud hynny. Felly na, fyddwn i byth wedi gwneud yr X Factor oni bai am yr holl waith caled a’r ymdrech y mae’r darlithwyr yn ei roi i’r cwrs yma.
“Cawsom ein hannog i archwilio pob agwedd ar berfformio cyn penderfynu beth yr oeddem am ganolbwyntio arno – cawsom ni gymaint o brofiadau gwahanol. Buom ni’n gweithio hefyd gydag amrywiaeth enfawr o berfformwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd y theatr a’r teledu trwy gydol y cwrs – pobl sydd wedi gweld ein cynnydd a thystio i’n datblygiad.
“Dwi i ddim yn meddwl y byddwn wedi cael y dewrder a’r hunan-gred i fynd am glyweliad ar gyfer yr X Factor oni bai am yr holl gyfleoedd a’r profiadau gwych a gefais yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth