Skip page header and navigation

Rheolaeth Menter Wledig (Llawn asmer) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Diben y rhaglen yw cynnwys myfyrwyr mewn ffyrdd o feddwl am fusnes cyfoes a’ch paratoi i gyfrannu at ddyfodol busnes mwy cyfrifol, lle mae busnes yn dechrau bod yn ddatrysiad, yn hytrach nag yn broblem, i faterion lleol a byd-eang. Rydym hefyd yn cynyddu’r pwyslais ar yr economi werdd a chylchol yn ogystal â chysyniadau fel niwroamrywiaeth yn y gweithle.

Rydym wedi gweld bod galw am newid mewn dysgu ac addysgu busnes sy’n symud i ffwrdd o’r modelau llinol traddodiadol sy’n ffocysu ar elw i fodel o ddysgu am fusnes yn seiliedig ar ffyrdd o feddwl cynaliadwy a moesegol.

Mae’r rhaglen hon yn hyrwyddo dealltwriaeth o nodweddion, heriau a chyfleoedd menter mewn ardaloedd gwledig ac yn ceisio cynyddu eich dealltwriaeth o fentrau gwledig, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes o fewn cyd-destun byd-eang newidiol.

Byddwch yn meithrin ymagwedd sy’n edrych at y dyfodol, gan gynnwys dysgu sut i ystyried canlyniad gweithrediadau, a sut y gellir addasu busnesau a chymdeithas i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Bydd graddedigion yn cael eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn rheoli mentrau gwledig drwy ddatblygu sgiliau proffesiynol a sgiliau deallusol, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau cymhleth, creadigrwydd ac adfyfyrio.

Gobeithio y bydd ein graddedigion yn rhan o lunio syniadau busnes yn y byd.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
238A
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn rhan o ailfeddwl busnes ar gyfer byd sy’n newid trwy ymuno ag ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ei lleoli wrth galon economi wledig.
02
Astudiwch fusnes cymdeithasol o safbwynt cyfoes gyda modylau a luniwyd i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain menter wledig yn y dyfodol.
03
Ymunwch ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan yr economi wledig y potensial i gyfrannu’n sylweddol i dwf economaidd a gweithgarwch entrepreneuraidd; nododd astudiaeth gan Ffederasiwn y Busnesau Bach fod yr ysbryd entrepreneuraidd yn fyw iawn yn ein cymunedau gwledig. Mae mwy o fusnesau y pen yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig o’u cymharu â’r mwyafrif o ardaloedd trefol. BBaChau neu ficrofusnesau yw’r rhan fwyaf o fentrau gwledig a chanddynt nodweddion penodol ac sy’n wynebu heriau gwahanol gan fusnesau trefol a chorfforaethau mwy o faint.

Nod ein rhaglen BA Rheolaeth Menter Wledig yw datblygu eich dealltwriaeth o ddiddordebau penodol menter wledig oddi mewn i gyd-destun busnes ehangach. Mae syniadau cynaliadwy a moesegol wrth wraidd y rhaglen, ac yn ddysgwr, byddwch yn herio paradeimau presennol, pwyso a mesur paradeimau newydd a thrafod atebion busnes a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu a chynnal diwydiannau diwylliannol yn rhan o’r economi a’r gymuned wledig ehangach.

Yn fyfyriwr Rheolaeth Menter Wledig yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn rhan o gymuned ddysgu gefnogol gyda staff brwd sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sy’n ymdrechu i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym ddull datblygol a thrawsnewidiol o ddysgu sy’n meithrin annibyniaeth yn ein dysgwyr ynghyd â’r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Yn rhan o’ch astudiaethau, cewch gyfle i ddilyn interniaeth, cyflawni gwaith maes o amrywiaeth o ddarlithoedd gwadd gan entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes. Mae gennym gysylltiadau ag amrywiaeth eang o sefydliadau, mae llawer o’r rhain yn gyfle i’n myfyrwyr fod yn rhan o waith prosiectau byw yn rhan o’u hastudiaethau. Caiff ein myfyrwyr hefyd gyfle i fynd ar semester o astudio rhyngwladol dramor, a gynigir mewn prifysgolion yn UDA a Chanada. 

Gorfodol 

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Dulliau Rheoli Cyfoes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Gorfodol 

Newid ac Arloesi Technolegol

(20 credydau)

Ymholiad ac Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Gorfodol 

Busnes Cyfrifol o Safbwynt Byd-eang

(20 credydau)

Strategaethau ar gyfer Gwydnwch a Ffyniant

(20 credydau)

Traethawd Hir

(60 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sy’n cyfrannu i ddyfodol yr economi wledig.  Nid oes angen yr astudiaeth flaenorol a byddem yn croesawu ymgeiswyr sydd ag amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Ein cynnig arferol ar gyfer y BA yw 88 pwynt tariff UCAS. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill yn gyfraniad at eich pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyniadau’n ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

  • Caiff y rhaglen BA Rheolaeth Menter Wledig ei hasesu trwy gyfuniad o ddulliau arloesol a rhai mwy traddodiadol a ddyluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr, y gallu i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol yn ystod eu tair blynedd o astudio.

    Mae asesiadau wedi eu cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae myfyrwyr yn adeiladu dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac y mae modd iddynt ddysgu trwy asesiad ffurfiannol gydol y rhaglen. 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr fynd ar ymweliadau dewisol dros nos yn y DU neu dramor ar ryw adeg yn ystod eu rhaglen astudio, gydag amcangyfrif o £600-£1000. Unwaith eto, nid yw presenoldeb ar ymweliadau maes dros nos ychwanegol yn orfodol ac nid ydynt yn effeithio ar y radd derfynol. Mae costau ar gyfer ymweliadau maes sy’n rhan o’r modylau wedi eu cynnwys yn ffioedd y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Caiff myfyrwyr BA Rheolaeth Menter Wledig wneud cais i astudio ar ein rhaglen astudio dramor. Os cânt eu derbyn, bydd y myfyrwyr yn astudio dramor yn un o’n sefydliadau partner yn UDA a Chanada ar gyfer ail semester lefel 5.

  • Noda adroddiad gan Fforwm Economaidd y Byd, erbyn 2020 y bydd 55% o’r sgiliau a ystyrir yn bwysig i gael swydd heddiw wedi newid; yn ôl yr adroddiad, y tri uchaf y bydd galw amdanynt gan y gweithlu fydd datrys problemau, meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd. Trwy astudio Rheolaeth Menter Wledig gyda ni, byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r galluoedd i ddatrys yn greadigol broblemau’r dyfodol trwy fynd ati i gyflawni dysgu sy’n seiliedig ar broblemau ac sy’n anelu at drawsnewid eich meddwl am fusnes a rheolaeth.  Oddi mewn i’r rhaglen, byddwch yn gweithio ar brosiectau byw ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a byddwch hefyd yn cyflawni interniaeth orfodol yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

    Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn meysydd megis arwain cynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, rheolaeth prosiectau, datblygu cymunedol ac adfywio.

    Mae pwyslais ar entrepreneuriaeth ac arloesi yn y rhaglen hefyd wedi golygu bod nifer o’n graddedigion diweddar wedi gadael i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn mynd ati’n rhagweithiol i gyfeirio myfyrwyr at gymorth mewnol ac allanol ar gyfer datblygiad busnes.

    Mae nifer o’n graddedigion yn dewis symud ymlaen i astudio pellach ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth naill ai yn Y Drindod Dewi Sant neu mewn prifysgolion eraill.  Yn Ysgol Fusnes Cymru, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ac mae gennym nifer o fyfyrwyr Doethuriaeth gweithredol.

Mwy o gyrsiau Business and Management

Chwiliwch am gyrsiau