Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol (BA, DipAU)
Y Byd yw Ein Darlithfa
Nod ein rhaglen Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yw darparu profiad academaidd heriol sy’n datblygu eich sgiliau deallusol mewn perthynas â materion pynciol o fewn Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Nod y rhaglen yw cyfoethogi eich sgiliau diwydiant proffesiynol gan wella eich cyflogadwyedd o fewn maes Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys ystod o gyfleoedd lleoliad a hyfforddi rhyngwladol cyffrous o fewn y sector.
Mae’r rhaglen Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth reolaethol ac i weithio gyda chreadigrwydd a hunangyfeiriad arloesol. Byddwch yn datblygu safonau gwasanaeth gwesteion proffesiynol o’r radd flaenaf i fodloni anghenion newidiol prif sefydliadau twristiaeth a theithio’r byd.
Bydd myfyrwyr yn graddio gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif agweddau ar Reolaeth Teithio a Thwristiaeth. Mae hyn yn cynnwys dysgu am gysyniadau twristiaeth byd-eang fel maes theori academaidd ac astudio cymhwysol mewn perthynas â busnes a rheolaeth.
Caiff lleoliadau ymarferol eu hymgorffori yn eich astudiaethau gan eich galluogi i ddeall natur ddeinamig y diwydiant rhyngwladol. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o weithrediadau, strategaethau teithio a thwristiaeth, cyrchfannau a digwyddiadau gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer ystod o yrfaoedd ym maes Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol
Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol (BA)
Cod UCAS: N841
Gwneud cais drwy UCAS
Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol (DipAU)
Cod UCAS: ITO6
Gwneud cais drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Y byd yw ein darlithfa – mae’r rhaglen yn defnyddio’r cyfleoedd dysgu arloesol a chreadigol i alluogi myfyrwyr i gael profiad rheolaidd i fyfyrwyr tu ôl i’r llen o fewn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau astudio maes lleol a rhyngwladol i ddod â’r dysgu’n fyw.
- Mae gan yr Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu rhaglenni proffesiynol o’r radd flaenaf mewn Hamdden a Thwristiaeth yn ffocysu ar hyrwyddo rhagoriaeth o ran gwasanaeth gwesteion a grymuso o’r cychwyn cyntaf.
- Mae gan y rhaglen enw rhagorol yn y diwydiant twristiaeth byd-eang sy’n arwain at gyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr rwydweithio ac ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant i gefnogi datblygiad eu gyrfa. Mae llawer o’r cysylltiadau hyn yn raddedigion y rhaglen sy’n ysbrydoli myfyrwyr presennol.
- Cynigir cyfleoedd lleoliadau byd-eang digyffelyb i fyfyrwyr gyda phrif sefydliadau teithio a thwristiaeth rhyngwladol er mwyn iddynt gael profiad gweithredol a datblygu’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i’w paratoi at yrfaoedd rheolaeth llwyddiannus tu hwnt.
- Mae’r tîm addysgu sydd â phrofiad o’r diwydiant yn darparu ymagwedd gyfeillgar a chefnogol at fywyd Prifysgol sy’n hyrwyddo perthnasau gweithio clos rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid sy’n arwain at amgylchedd dysgu positif a gweithredol.
- 1af yng Nghymru am Dwristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch yn y Guardian.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y rhaglen trwy ymgynghori’n agos ag arweinwyr y diwydiant teithio a thwristiaeth byd-eang er mwyn bodloni anghenion diwydiant ac uchelgeisiau myfyrwyr.
Caiff ffocws cryf ar reolaeth a marchnata ei gyflwyno o gychwyn y rhaglen. Caiff materion eu hystyried o safbwynt byd-eang yn ogystal â materion diwydiannol amserol, cyfryngau cymdeithasol, gweithrediadau teithio rhyngwladol a diwylliannau rhyngwladol.
Mae’r rhaglen arloesol yn ffocysu ar ragoriaeth gwasanaeth gwesteion o’r cychwyn cyntaf a rhoi i fyfyrwyr a graddedigion ystod ardderchog o astudiaethau achos diwydiannol ysbrydoledig a heriol i gymhwyso eu dysgu.
Caiff lleoliadau rhyngwladol eu hintegreiddio ar lefel 4 a 5 gan alluogi i fyfyrwyr ffocysu ar sgiliau diwydiannol a gweithredol proffesiynol a datblygu dealltwriaeth o reolaeth.
Tua diwedd y rhaglen, anogir myfyrwyr i herio cysyniadau’r diwydiant ac ystyried materion rheolaeth strategol o safbwynt academaidd a chymhwysol.
Mae amgylcheddau dysgu arloesol a chreadigol yn sicrhau bod y rhaglen yn dod â dysgu’r myfyriwr yn fyw. Drwy droi’r Byd yn Ddarlithfa, gall myfyrwyr brofi tu ôl i’r llen mewn cyfleusterau a chyrchfannau twristiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio gydag arweinwyr y diwydiant.
Lle bo’n bosibl bydd myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau, digwyddiadau a phrofiadau addysgol yn y DU a gynlluniwyd i helpu i gefnogi eu dysgu academaidd a datblygu eu gwerthfawrogiad o’r diwydiant. Efallai y bydd ffi ychwanegol.
Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gwrdd yn rhithwir gydag arweinwyr y diwydiant a graddedigion i drafod materion cyfoes yn ogystal â chymryd rhan mewn ymweliadau digidol neu fyw tu ôl i’r lle yn y diwydiant.
Trwy eu hastudiaethau a dysgu allgyrsiol bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â chyfleoedd ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a sgiliau yn y diwydiant sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau. Gall hyn gynnwys tystysgrifau hyfforddiant ABTA ynghyd â Gwobr Lletygarwch a Digwyddiadau yn cynnwys Hyfforddiant am Winoedd a Gwirodydd a gall fod ffi ychwanegol am hyn.
Lefel 4 (Dyfarniad - Tystysgrif Addysg Uwch)
Bydd y modylau’n cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:
Sgiliau Academaidd a Digidol, Marchnata, Sgiliau Digidol, Diwydiant Twristiaeth, Twristiaeth, Rheolaeth Digwyddiadau a Hamdden, Lletygarwch a Gwasanaeth Gwesteion, Sgiliau Academaidd, Gwirfoddoli a Datblygiad Proffesiynol.
Lefel 5 (Dyfarniad - Diploma Addysg Uwch)
Bydd y modylau a astudir yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:
Rheolaeth Gweithrediadau, Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth a Digwyddiadau Cynaliadwy, Twristiaeth Fyd-eang, Brandio Personol, Cyflogaeth Gynaliadwy, Lleoliadau, Interniaethau a Phrofiadau Gwirfoddoli a Phrosiectau Menter.
Lefel 6 (Dyfarniad - BA)
Bydd y modylau a astudir yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:
Rheolaeth Strategol, Twristiaeth Gyfrifol, Rheolaeth Argyfwng, Cyrchfannau Byd-eang, Rheolaeth Cyrchfannau, Rheolaeth Atyniadau Treftadaeth a gwaith Prosiectau.
Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, lleoliadau, astudiaethau achos, digwyddiadau, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau teithio, DVD/fideos, blogiau teithio, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau a phrofiadau teithio a thwristiaeth.
Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant. NID yw’r rhaglen yn cynnwys arholiadau.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
#TwristiaetharDaith Malaysia a Singapore
Mynd i Leoedd gyda’n Gilydd gyda Qatar Airways, Maes Awyr Caerdydd a Phrifysgol Malaya Cymru.
Yn adran Twristiaeth Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, bydd y Byd yn Ddarlithfa. I ddysgu rhagor edrychwch ar y fideo blasu fer hon o Daith Addysgol Twristiaeth Ryngwladol sy’n dod â’r hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu yn fyw a byddant yn gweld y byd â llygaid hollol newydd.
Campws Busnes Abertawe
Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?
Gwybodaeth allweddol
- Jacqui Jones (Cyfarwyddwr Rhaglen)
- Deborah Jenkins (Tiwtor)
88 o bwyntiau UCAS (BA) | 44 o bwyntiau UCAS (DipAU)
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol ac ymrwymedig sy’n dangos ymrwymiad cryf i Deithio a Thwristiaeth Rhyngwladol yn ogystal â’r rheiny sydd â phrofiad gwaith sylweddol a pherthnasol. I asesu addasrwydd myfyriwr posibl gallwn drefnu cyfweliadau i chi drafod eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiadau bywyd gyda ni.
Mae hyblygrwydd y rhaglen, ei ffocws ar gyfleoedd yn y diwydiant, interniaethau a chymorth lleoliad graddedigion yn grymuso myfyrwyr i lywio eu hastudiaethau tuag at eu huchelgeisiau gyrfaol eu hunain a’u hamgylchiadau personol.
Mae’r rhyngweithio cyson gyda chyflogwyr yn ffocysu ar wasanaeth gwesteion a sgiliau cyflogadwyedd proffesiynol sy’n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i wireddu eu potensial gyrfaol trwy eu hastudiaethau.
Ar ôl graddio, mae myfyrwyr o’r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau ystod o swyddi rheoli a gweithredol yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol.
Gall llwybrau gyrfaol y dyfodol gynnwys:
- Rheolaeth Twristiaeth – Atyniadau, Gwestai Rhyngwladol, Digwyddiadau, Confensiynau, Gwyliau, Byrddau Twristiaeth.
- Rheolaeth Teithio – Cwmnïau Hedfan, Meysydd Awyr, Gweithredwyr Teithiau, Asiantau Teithio.
- Ymhlith enghreifftiau blaenorol gyrfaoedd graddedigion mae ystod o swyddi rheoli gyda Aspen Ski Company, Awdurdod Twristiaeth Prydain, Contiki Holidays, Jumeirah Resorts Dubai, Merlin Entertainment, Necker Island yn y Caribi, PGL Activity Holidays, Planos Holidays Greece, St Brides Spa Hotel, Retreats Group, Ritz Carlton Resorts Worldwide, Rockley Watersports France & UK, Royal Caribbean Cruiselines, Tui Holidays, Croeso Cymru, Walt Disney World.
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor oherwydd gellir defnyddio hwn i gefnogi talu am deithiau maes a lleoliadau.
Costau ychwanegol opsiynol ar gyfer Teithiau Maes:
Bydd y rhain ar gael i fyfyrwyr, ac maent naill ai’n gymorthdaledig, yn opsiynol neu’n rhan o fodwl astudio opsiynol. Telir am yr holl deithiau maes gorfodol.
Mae costau teithiau yn y DU sy’n opsiynol yn amrywio o £5 hyd at £100 am daith breswyl.
Mae’r Daith Maes Astudio Ewropeaidd (Lefel 4) opsiynol sydd â chymhorthdal ac sy’n rhan o fodwl opsiynol yn costio £500 ac mae hynny’n cynnwys teithio mewn trên ar draws Ewrop, llety yn y cyrchfannau sydd, fel arfer, ym Mharis a’r Swistir, mynediad i atyniadau a rhai prydau. Gellir talu fesul rhandaliad sy’n cyfateb yn fras i £10 yr wythnos, £50 y mis neu daliadau bloc dros gyfnod o flwyddyn.
Mae costau Taith Addysgol y Gyfadran sy’n opsiynol ac sy'n rhan o fodwl opsiynol hyd at £1,000 am daith 10 niwrnod i Malaysia, fel arfer trwy Doha gan hedfan adre o Singapore ac aros mewn gwestai 5 seren yn Kuala Lumpur a Penang ac yn cynnwys tocynnau awyren, gwely a brecwast, prif wibdeithiau a theithio. Gellir talu am y daith hon dros gyfnod 1 i 2 flynedd gyda thaliadau misol neu floc sy’n cyfateb i ryw £10 yr wythnos.
Gwerth ychwanegol teithiau maes:
Mae Teithiau Maes gyda theithiau y tu ôl i’r llenni, siaradwyr gwadd a chyfleoedd ymchwil yn dod â’r hyn y mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu’n fyw ac yn caniatáu iddynt rwydweithio â’r diwydiant a datblygu cyfleoedd gyrfa yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gael profiad o’r lleoliadau a’r diwydiant twristiaeth.
Cyllid ‘Taith’
Mae’n bosibl y bydd Cyllid y rhaglen Taith ar gael i gefnogi teithiau astudio maes sy’n gysylltiedig ag astudiaethau academaidd a dysgu diwylliannol a gallant gynnwys Aspen, Colorado neu Fflorida yn ogystal â chyrchfannau posibl eraill yn cynnwys Slofenia a Malta.
Costau ychwanegol opsiynol ar gyfer Lleoliad:
Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n dewis mynd ar rai lleoliadau i UDA neu gyrchfannau eraill dalu am eu teithiau awyr a’u fisas. Lleoliadau wedi eu talu yw’r rhain ond y myfyrwyr fydd yn talu costau’r fisa ymlaen llaw. Y Ffioedd presennol a hysbysebir ar gyfer Gwaith Haf a Fisas y Rhaglen Deithio yn UDA yw £630 sy’n cynnwys yswiriant. Ar hyn o bryd hysbysebir mai costau fisa J1 am 12 mis yn UDA yw £1425 ac mae hynny’n cynnwys yswiriant. Nid yw’r prisiau hyn wedi eu rheoli gan y Brifysgol a gallai Noddwyr y Fisa a Llywodraeth UDA eu newid. Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr sy’n gweithio i rai sefydliadau mewn cyrchfannau yn UDA a lleoliadau eraill dalu eu treuliau teithio eu hunain ar gyfer rhai lleoliadau fodd bynnag, unwaith eto costau dewisol yw’r rhain gan fod lleoliadau eraill ar gael lle telir costau teithio.
Sylwer bod mynd i UDA ar leoliad yn opsiynol, ac felly costau dewisol yw’r rhain.
Gwerth Ychwanegol:
Mae'r lleoliadau rhyngwladol yn UDA yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr weithio i rai o brif sefydliadau’r byd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd ardderchog iddynt ddysgu a datblygu eu sgiliau gwasanaeth gwesteion proffesiynol i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheoli yn y dyfodol. Yn ystod eu lleoliadau byddant yn ennill arian i dalu am gostau’r fisa a chostau teithio. Fodd bynnag, rhaid nodi bod y lleoliadau hyn yn rhai opsiynol ac y gall y myfyrwyr ddewis lleoliadau y telir amdanynt mewn cyrchfannau eraill lle nad oes unrhyw gostau cychwynnol.
- Rheolaeth Twristiaeth (BA, DipAU)
- Rheolaeth Twristiaeth, Teithio a Hamdden (TystAU)
- Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol (BA, DipAU)
- Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (BA, DipAU, TystAU)
Nawr mae Shanna McFadden Drivenes nawr un o’n Graddedigion Teithio a Thwristiaeth a nawr CEO Digwyddiadau Dirty Girls Norwy Sbardunodd fi i’r gyrfa sydd gen i heddiw. Cymerais ran mewn profiad gwaith un flwyddyn yng Nghyrchfan y Ritz Carlton Batchelor Gulch yng Ngholorado lle dysgais am wasanaeth ar lefel arall ac rwyf wedi cymryd hyn ymlaen i’m holl swyddi ac wedi agor fy musnes fy hun. Buaswn yn argymell Y Drindod Dewi Sant i unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y diwydiant hwn am y bydd gennych fynediad i rai o’r lleoliadau gorau yn y byd a’r profiad myfyriwr gorau”
Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfle i ymgymryd â lleoliadau rhyngwladol integredig yn ystod lefel 4, 5 a 6 er mwyn cael profiad arbenigol yn y diwydiant ac i ddatblygu sgiliau proffesiynol myfyrwyr.