Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Saesneg (BA) – Cydanrhydedd

Saesneg (BA) - Cydanrhydedd Yn Unig

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Mae’r rhaglen BA Saesneg Cydanrhydedd yn cynnig cyfle i chi archwilio sawl cyfnod a genre llenyddiaeth Saesneg ac yn cynnwys arfer ysgrifennu creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i roi cydbwysedd rhwng dulliau a materion gwahanol o fewn disgyblaeth Saesneg a’i pherthynas â disgyblaethau eraill.

Wrth astudio ein gradd cydanrhydedd Saesneg, byddwch yn ennill sgiliau deallusol, trafodol, ymarferol a throsglwyddadwy trwy ymgolli ac ymgysylltu ag arferion, dulliau, a deunyddiau’r pwnc ei hun mewn modd manwl ac estynedig.

Cewch eich annog i ymholi â meddwl agored am gynhyrchu cysyniadau a gwerthoedd o fewn Saesneg fel disgyblaeth.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Ysgrifennu Creadigol a Saesneg (BA) – Cydanrhydedd
Cod UCAS: QW38
Gwneud cais trwy UCAS

Hanes a Saesneg (BA) – Cydanrhydedd
Cod UCAS: QV31
Gwneud cais trwy UCAS

Ysgrifennu Creadigol a Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen (BA) – Cydanrhydedd
Cod UCAS: CEF1
Gwneud cais trwy UCAS

Hanes a Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen (BA) – Cydanrhydedd
Cod UCAS: HEG1
Gwneud cais trwy UCAS


Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am Ragor o Wybodaeth
E-bost Cyswllt: p.mitchell@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Peter Mitchell


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

Wrth astudio’r BA Saesneg Cydanrhydedd, byddwch yn ennill sgiliau deallusol, trafodol, ymarferol a throsglwyddadwy gwerthfawr trwy ymgolli ac ymgysylltu ag arferion, dulliau, a deunyddiau’r pwnc ei hun mewn modd manwl ac estynedig.

Cewch eich annog i ymholi â meddwl agored am gynhyrchu cysyniadau a gwerthoedd o fewn Saesneg fel disgyblaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglen Cydanrhydedd gyda Saesneg yn rhan ohoni, yn mwynhau cwricwlwm eang ac amrywiol a’r cyfle i astudio awduron canonaidd, testunau sefydledig a chyfnodau llenyddol cydnabyddedig yn ogystal â llenyddiaeth, testunau, ac awduron a allai fod yn llai cyfarwydd iddynt cyn eu hastudiaethau prifysgol. Bydd Saesneg a astudir yn elfen o raglen radd yn ymwneud â datblygu dealltwriaeth resymegol a mwy cywir o lenyddiaeth a’i chyd-destunau a’i pherthnasoedd amrywiol, ac yn annog myfyrwyr i ddefnyddio iaith a llenyddiaeth i adfyfyrio’n feirniadol ac yn llawn dychymyg ar eu dysgu a’u ffordd o feddwl ar draws disgyblaethau.

Ar bob lefel, bydd gofyn i fyfyrwyr Saesneg Cydanrhydedd ddilyn gwerth o leiaf 60 credyd o fodylau sy’n delio’n uniongyrchol â Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol (neu’r swm hwn wedi’i wasgaru ar draws dwy flynedd os byddwch yn astudio’r cwrs yn rhan-amser). Bydd y 60 credyd arall yn deillio o’r ddisgyblaeth gysylltiedig gan ganiatáu profiad ehangach i fyfyrwyr a sawl cyfle i greu cyfuniadau o fodylau sy’n gydlynol yn ddeallusol.

Pynciau Modylau

Lefel 3 – Tyst AU, Dip AU, BA

  • Haneseiddio Testunau (20 credyd; gorfodol)
  • Dehongli Testunau (20 credyd; gorfodol)
  • Addysgu Saesneg fel Ail Iaith: Damcaniaeth a Dull (20 credyd; dewisol)
  • Iaith/Ieithoedd Perswâd (20 credyd; dewisol).

Lefel 5 a 6 – Dip AU, BA

  • Busnes Ysgrifennu (20 credyd; dewisol)
  • Santeiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd; Bucheddau a Chyltiau’r Seintiau (20 credyd; dewisol)
  • Dadlau Hunaniaeth Ganoloesol: Lleisiau Cymeriadau’r Canterbury Tales (20 credyd; dewisol)
  • Traethawd Hir Saesneg (40 credyd; dewisol)
  • Prosiect Annibynnol Saesneg (20 credyd; dewisol)
  • Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni (20 credyd; dewisol)
  • Modwl Astudio Annibynnol Rhyngwladol (40 credyd; dewisol)
  • Modwl Astudio Annibynnol Rhyngwladol (60 credyd; dewisol)
  • Ymchwil ac Ysgrifennu (20 credyd; dewisol)
  • Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen (20 credyd; dewisol)
  • Addysgu Saesneg fel Ail Iaith: Gramadeg ac Asesu (20 credyd; dewisol)
  • Addysgu Saesneg fel Ail Iaith: y dosbarth Saesneg Ail Iaith (20 credyd; dewisol)
  • Y Llyfr, y Corff a’r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio’r Dadeni (20 credyd; dewisol)
  • Synau a Golygon Trefol: Hanesion Diwylliannol y Ddinas Fodern (20 credyd; dewisol).
Asesiad

Asesir y rhaglen mewn amryw ffyrdd a bydd yn cynnwys sawl un o’r mathau asesu canlynol: traethodau o 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd, dadansoddi dogfennau, adolygiadau llyfr, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion wedi’u hamseru, arholiadau cymryd-adref, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir o 10,000 o eiriau, wikis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan

Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad
  • 96 i 112 Pwyntiau Tariff UCAS
Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Llety

Ewch i'r adran llety i ddysgu rhagor.