Skip page header and navigation

Y Celfyddydau Breiniol (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Celfyddydau Breiniol yn radd hyblyg a luniwyd i ganiatáu i chi ddatblygu rhaglen astudio, o dan arweiniad eich tiwtor personol, sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol.

Mae’r rhaglen Celfyddydau Breiniol wedi’i chreu i fod yn rhaglen ryngddisgyblaethol hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu rhaglen astudio sy’n adlewyrchu eu diddordebau personol. Mae’n caniatáu i bob myfyriwr greu gradd bwrpasol trwy ddewis modylau o blith yr opsiynau sydd ar gael a allai fel arall fod yn gaeth i ffiniau pwnc traddodiadol. Fel y cyfryw, mae’r rhaglen yn cynnig dewis o bob modwl o’r Dyniaethau sydd ar gael mewn blwyddyn benodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
HU01
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ystod eang o fodylau ar bynciau perthnasol fel athroniaeth y meddwl, hanes hil-laddiad, neu lenyddiaeth diwylliannau’r Gorllewin.
02
Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr.
03
Addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Dyluniwyd y BA yn y Celfyddydau Breiniol i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb cyffredinol yn y Dyniaethau ac i roi iddynt raglen astudio eang, sy’n ymgysylltu ag ystod lawn pynciau’r Dyniaethau yn hytrach nag arbenigo mewn un maes pwnc unigol.

Mae dwy flynedd gyntaf y rhaglen radd yn cynnwys model addysgo arloesol: dwy flynedd o ‘Astudiaethau Sylfaenol’, sy’n gyflwyniad eang i’r Dyniaethau ac yn cynnwys modylau o’r gwahanol Ysgolion o fewn y Gyfadran.

Yn y ddwy flynedd yma bydd y myfyriwr yn gwneud dewisiadau pwysig am gynnwys y cwrs y byddant yn ei ddilyn: trwy ddewis cyrsiau o blith pedwar cainc ymholiad hanesyddol, ymgysylltu â diwylliant, Dyniaethau ymarferol a’r meddwl dynol, bydd y myfyrwyr yn dewis i rhyw raddau ar ba feysydd o’r Dyniaethau y byddant yn ffocysu.

O’r dechrau, fe gewch ddealltwriaeth eang o’r Dyniaethau, a thrwy hyn byddwch yn raddol hogi eich proffil yn arbenigedd yn eich trydedd flwyddyn. Yn y drydedd flwyddyn, dewisir dwy gainc i’w hastudio.

Y ddwy gainc arbenigol honno y byddwch yn eu hastudio’n fanwl ac a fydd yn llunio eich gradd Baglor. Mae hyn yn rhoi’r posibilrwydd i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth ryngddisgyblaethol yn y Dyniaethau, gan greu’r gydberthynas orau gyda diddordebau proffesiynol y myfyriwr a’u posibiliadau gwaith yn y dyfodol. Mae gan bob myfyriwr y rhyddid i ddewis y ddwy gainc a fydd yn llunio eu gradd Baglor.

Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
  • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
  • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
  • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar y flwyddyn y cynigir y modylau ynddi.

Gorfodol 

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Dewisol

Gwrthdaro a Rhyfel: Theori, Moeseg, Arfer

(20 credydau)

Oes yr Eithafion: Byd yn Rhyfela, c. 1914–1991

(20 credydau)

‘Llwybrau at Ddrygioni’: Hil-laddiad – Hanes, Theori a Gwadiad

(20 credydau)

Pŵer ac Anghydraddoldeb

(20 credydau)

Cyflwyniad i Foeseg

Blwyddyn A

Dewisol

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Moeseg Trais
Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Blwyddyn B

Dewisol

Sinema a Rhyfel

(20 credydau)

Anufudd-dod Sifil a'r Wladwriaeth

(20 credydau)

Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Blwyddyn A & B

Gorfodol 

Traethawd Hir

(60 credydau)

Blwyddyn A 

Dewisol

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Moeseg Trais
Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Blwyddyn B

Dewisol

Sinema a Rhyfel

(20 credydau)

Anufudd-dod Sifil a'r Wladwriaeth

(20 credydau)

Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

    • Cyfathrebu, busnes
    • Eiriolaeth ddiwylliannol a chymdeithasol
    • Ffilm a’r cyfryngau
    • Codi arian, ymgynghoriaeth ar reoli, ymchwil
    • Iechyd, bwyd a ffordd o fyw
    • Hawliau dynol, anifeiliaid a thir
    • Datblygu rhyngwladol, cymorth a sefydliadau elusennol
    • Amgueddfeydd, treftadaeth, twristiaeth
    • Cyhoeddi
    • Cysylltiadau hiliol, cymuned, gwaith cymdeithasol, y proffesiynau gofal
    • Addysgu

Mwy o gyrsiau History and Archaeology

Chwiliwch am gyrsiau