UWTSD Home - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Ysgrifennu Creadigol (BA)
Bydd y radd Ysgrifennu Creadigol yn rhoi i chi brofiad ar draws ystod o wahanol arddulliau a genres, gan gynnwys straeon byr, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau.
Gyda chyflogadwyedd mewn meddwl, byddwch yn gwneud modylau mewn ysgrifennu ar gyfer y gweithle, ymchwil ac archifo, yn ogystal â’r cyfle i ysgrifennu darn mawr o waith o dan oruchwyliaeth ysgrifennwr cyhoeddedig a allai arwain at gyhoeddi eich gwaith chithau.
Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd
Ysgrifennu Creadigol (BA)
Cod UCAS: W801
Ymgeisio drwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol ac Ysgrifennu Creadigol (BA)
Cod UCAS: CCW1
Ymgeisio drwy UCAS
Ysgrifennu Creadigol a Saesneg (BA)
Cod UCAS: QW38
Ymgeisio drwy UCAS
Ysgrifennu Creadigol a Threftadaeth (BA)
Cod UCAS: CWH1
Ymgeisio drwy UCAS
Ysgrifennu Creadigol a Hanes (BA)
Cod UCAS: HCW1
Ymgeisio drwy UCAS
Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth (BA)
Cod UCAS: WV85
Ymgeisio drwy UCAS
Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: CRF1
Ymgeisio drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
fhpadmissions@uwtsd.ac.uk
£9,000
£13,500
Pam dewis y cwrs hwn?
- Yn heriol yn academaidd a chreadigol, ein nod yw meithrin eich talent creadigol ar draws gwahanol arddulliau - gan gynnwys straeon byr, sgriptiau ffilmiau, barddoniaeth, drama a nofelau.
- Rhoddwn gyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o’r byd cyhoeddi gan ffocysu ar eich ymchwil a’ch sgiliau golygu ac archwilio i agweddau allweddol ar gyhoeddi.
- Fel y mae pob cyhoeddwr a busnes yn cytuno mae sgiliau ysgrifennu clir yn hanfodol i unrhyw ysgrifennwr creadigol – a’r un mor hanfodol i unrhyw yrfa.
- Cymerwn ymagwedd ymdrochi at ddysgu, gan gynnig ystod amrywiol o ymagweddau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau gweithdy.
- Byddwch yn mynychu dosbarthiadau bach o ran maint gyda ffocws ar drafod a gweithgareddau dysgu i annog hunan-ddatblygiad ac adfyfyrio beirniadol a ystyrir yn allweddol wrth ddatblygu medrau personol a phroffesiynol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ynghyd â’r opsiynau o ran ffurf a genre, byddwch yn dilyn modylau mewn ymchwil ac archifo, ac o ganlyniad i hyn byddwch yn creu darn o waith sylweddol a allai gael ei gyhoeddi. Drwy gydol eich tair blynedd bydd gennych gyswllt rheolaidd gyda, a chefnogaeth gan, ystod o wahanol ysgrifenwyr.
Bydd sesiynau gweithdy’n cael eu cynnal ac yma cewch eich annog i drafod eich gwaith gyda’ch cymuned o gyd-ysgrifenwyr. Bydd eich tiwtor yn eich cefnogi wrth i chi baratoi eich gwaith i’w gyhoeddi ac yn rhoi cyngor ichi ar leoedd i gysylltu â nhw. Ochr yn ochr â’r hyfforddiant un i un hwn, byddwch hefyd yn dilyn modylau ar wahanol agweddau at y diwydiant ysgrifennu, gan gynnwys sesiynau ar adolygu, golygu ac ysgrifennu yn unol â briff.
Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith myfyrwyr a staff, ac mae’r gymhareb staff/myfyriwr yn golygu y gall myfyrwyr gysylltu â’u darlithwyr pan fydd angen. Mae’r dosbarthiadau bach yn gyfeillgar bob tro a byth yn frawychus, sy’n caniatáu i staff ddod i adnabod ei myfyrwyr yn ôl eu henwau cyntaf.
Mae’r modylau a gynigir ar y flwyddyn sylfaen yn ffocysu ar eich cyflwyno i fywyd y brifysgol a rhoi ichi sgiliau goroesi academaidd, fel sgiliau ysgrifennu creadigol. Deall llenyddiaeth, a sgiliau ymchwil.
Gan gymryd i ystyriaeth y gall dewisiadau a gofynion myfyrwyr amrywio’n radical, yn ogystal â sicrhau gwybodaeth gron o ysgrifennu creadigol yn gyffredinol, mae’r cynllun yn cynnig modylau sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau a materion. Ymhlith y meysydd astudio mae, er enghraifft, iaith darbwyllol, ysgrifennu drama, ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth, a sut i weithio tuag at gyhoeddi gwaith. Hefyd, gall opsiynau i astudio dramor fod ar gael, yn ogystal â hyfforddiant un i un gydag ysgrifenwyr.
Cynigir ystod o fodylau mewn disgyblaethau eraill ochr yn ochr â modylau eu prif bwnc. Er enghraifft, gallwch wneud modylau mewn Saesneg, Clasuron, Athroniaeth, Anthropoleg, neu unrhyw un o bynciau eraill Y Dyniaethau. Gallwch weld ein rhestr lawn o bynciau’r Dyniaethau yma.
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglen a Digwyddiadau Llambed
Dyniaethau | Y Gwahaniaeth Llambed
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:
- Swyddi gweinyddol a rheoli
- Gwaith Cymuned
- Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
- Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
- Marchnata a chodi arian
- Cyhoeddi
- Addysgu
- Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
- Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
- Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Hanes and Saesneg (BA)
Cod UCAS QV31
Ymgeisio drwy UCAS
Saesneg a Gwareiddiad Clasurol (BA)
Cod UCAS CCE1
Ymgeisio drwy UCAS
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth