person working on circuit board

Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol gan gynnal trylwyredd academaidd.

Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu’r wybodaeth am beirianneg drydanol ac electronig sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.   

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel MATLAB, Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft.

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a fu’n bosibl drwy roddion o offer gan Xilinx a Texas Instruments.  Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol gyda’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio mewn diwydiant ar hyn o bryd.

Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. Mae cyflogwyr yn uchel eu parch at yr arbenigedd a’r sgiliau byddwch yn eu datblygu drwy ddylunio a gweithredu atebion i broblemau penodol fel rhan o dîm.

Pynciau Modylau

LEFEL 4

  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol | 20 credyd
  • Mathemateg | 20 credyd
  • Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol | 10 credyd
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig | 20 credyd
  • Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu | 20 credyd
  • Embedded C | 20 credyd
  • Signalau a systemau | 10 credyd

LEFEL 5

  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth | 20 credyd 
  • Electroneg 1| 20 credyd
  • Systemau Deallusrwydd Gwasgaredig | 20 credyd
  • Prosiect Grŵp | 20 credyd
  • Peirianneg Drydanol | 20 credyd
  • Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau | 20 credyd

LEFEL 6

  • Dylunio Systemau Electronig | 20 credyd
  • Electroneg 2 | 20 credyd
  • Electroneg Pŵer a Gyriannau | 20 credyd
  • Prosiect Annibynnol | 40 credyd
  • Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol | 20 credyd

Asesu 

Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol.  Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad.  Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a osodir a’u cwblhau yn ystod y modwl.  Asesir gwaith prosiectau drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a feithrinwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle.

Os dyma’r cwrs i chi neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, ewch i gofrestru eich diddordeb  a bydd aelod o’r uned brentisiaethau yn cysylltu â chi.