Skip page header and navigation

Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Mae Peirianneg Ynni ac amgylcheddol yn parhau ar reng flaen ymchwil mawr i ffynonellau ynni a thechnoleg lleihau carbon y dyfodol. Yr her go iawn yw lleihau ein heffaith amgylcheddol fel bodau dynol heb effeithio ar ein bywydau beunyddiol. Mae diogelwch ynni yn fater allweddol ac mae angen datblygu ffynonellau ynni mwy cynaliadwy fel y gallwn leihau neu waredu ar allyriadau niweidiol a ddaw o danwydd ffosil traddodiadol.

Mae Llywodraeth y DU a Senedd Cymru wedi cydnabod bod wir angen datblygu peirianwyr a rheolwyr ym maes technoleg ynni ac amgylcheddol i dderbyn yr her hon o ran parhau i ddatblygu’r maes gwerth uchel gweithgynhyrchu hwn.

Bydd ein rhaglen radd Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, megis y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth yn feirniadol; y gallu i gyflwyno dadleuon clir a rhesymegol a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir.

Bydd addysg o’r fath yn datblygu ymwybyddiaeth o gydgysylltiad materion amgylcheddol a chynaliadwy ac yn rhoi i chi gymhwyster sy’n berthnasol i nifer o wahanol sefyllfaoedd cymhwysol.

Achredwyd y radd Faglor ganlynol fel un sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer y carfanau derbyn o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:

BEng(Anrh) Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol (Llawn Amser 3 Blynedd; EngC)

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
42UO
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae rhagolygon gyrfa ar gyfer Peirianwyr Ynni ac Amgylcheddol yn dda iawn, ac mae’r galw am beirianwyr yn y sector hwn yn uchel iawn ar hyn o bryd.
02
Rhagwelir y bydd angen 1.5 miliwn yn fwy o beirianwyr ar draws Ewrop yn y maes hwn dros y pum i ddeng mlynedd nesaf.
03
Mae’r Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gall myfyrwyr ffocysu ar broblemau/cymwysiadau byd go iawn.
04
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach i ddatblygu datrysiadau i ystod o broblemau gan ganiatáu datblygu gwaith tîm, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a datblygu cysyniadau.
05
Rhoddir i chi’r cyfle i ymweld ag amrywiaeth o sefydliadau sy’n rhan o gynhyrchu trydan a chynhyrchu/defnyddio technolegau amgylcheddol, er enghraifft, Gorsaf Ynni Penfro, y Ganolfan Technoleg Amgen, y Grid Cenedlaethol, ayb.
06
Mae eich prosiect blwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo mewn maes diddordeb o’ch dewis.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bwriad y rhaglenni Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yw rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr ym maes egwyddorion a chysyniadau peirianneg a chymhwyso hyn i broblemau ynni ac amgylcheddol (YacA).

Mae angen i Beiriannydd YacA ddatblygu datrysiadau newydd ac arloesol i helpu datrys problemau YacA cyfredol, yn ogystal â rhai’r dyfodol.

Mae Peirianneg Ynni’n cynnwys astudio dulliau cynhyrchu ynni cyfredol yn ogystal â datblygu technolegau ym maes cynhyrchu ynni. Mae angen defnyddio’r mathau hyn o ynni’n effeithiol fel ein bod yn defnyddio llai o ynni yn y dyfodol gan barhau i fodloni anghenion cymdeithas.

Diben Peirianneg Amgylcheddol yw parhau i leihau a dileu’r effeithiau niweidiol y mae dyn eu cael ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ddulliau y gellir eu defnyddio i reoli llygredd aer, dŵr a sŵn drwy ddeall yr egwyddorion tu ôl i sut mae technolegau rheoli llygredd yn gweithio.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a defnyddiau. Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnegol ac yn galluogi i fyfyrwyr ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

Gorfodol 

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Rheoli ac Awtomeiddio

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Dynameg

(20 credydau)

Mecaneg thermohylifau

(20 credydau)

Peirianneg Amgylcheddol ac Ynni Cynaliadwy

(20 credydau)

Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Gorfodol 

Rheoli Llygredd Amgylcheddol

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Mae gan fyfyrwyr y math yma o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw ennyn y diddordeb hwn fel bod myfyrwyr yn mwynhau dysgu a gwerthfawrogi’r manteision y gall gradd beirianneg eu hychwanegu i gefnogi eu meysydd diddordeb.

    Bydd asesiadau’r rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd cyflwyniadau hefyd yn rhan o fodylau fel y prosiect grŵp a phrosiect Mawr lle cewch y cyfle i arddangos eich gwaith.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prif brosiect, ond nid yw hyn yn ofyniad ac ni chaiff unrhyw effaith ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r diwydiant yn cynnwys gweithgynhyrchwyr arbenigol bychain a diwydiannau graddfa fawr. Mae yna farchnad glir i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn y maes hwn, ac mae’r galw am raddedigion peirianneg amgylcheddol yn parhau’n uchel a chynigir cyflogau cychwyn rhagorol i raddedigion.