Rydym wrth ein bodd eich bod wedi penderfynu dysgu am ein rhaglenni Blynyddoedd Cynnar. Mae ein rhaglenni’n cynnig ystod o opsiynau astudio yn y Gymraeg a Saesneg, yn y dydd neu gyda’r nos. Gallwch astudio rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig; dewch i ymweld â ni am sgwrs ar un o’n nosweithiau agored neu cysylltwch gyda g.tinney@uwtsd.ac.uk a dewiswch y llwybr iawn i chi.
Mae ein holl raglenni’n cydnabod y potensial enfawr sydd gan blant, os cânt y cyfleoedd iawn i ffynnu a datblygu. Mae lles, hawliau a chynhwysiant plant wrth galon ein holl raglenni a bydd gennych rôl sylweddol i’w chwarae wrth ddatblygu addysg a gofal blynyddoedd cynnar ymhellach.
Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi am yrfa gyffrous a gwerth chweil, gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar fywydau plant a theuluoedd.
Cewch chi hefyd gyfle i ennill trwydded i arfer drwy astudio’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar sy’n cael ei gydnabod gan Ofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae hefyd yn gymwyster llawn a pherthnasol (full and relevant) sy'n dangos cymwyseddau ymarferwyr graddedig (graduate practitioner competences) ac yn rhan o’r Early Childhood Studies Degrees Network (ECSDN).
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd a rolau gwerth chweil; er enghraifft: athrawon, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, ymarferwyr gofal iechyd, lles a swyddogion chwarae.
Archebwch Le Diwrnod Agored Abertawe Archebwch Le Diwrnod Agored Caerfyrddin CAIS AM WYBODAETHYr Athrofa
Astudio yn y dydd
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (BA)
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (BA)
Astudio gyda'r hwyr
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)
- Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)
Campws Birmingham