Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Meysydd Pwnc - Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar - Asesu
Asesu a gwaith cwrs
1af yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid - ACM 2019. Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar wedi dylunio a datblygu ystod o ddulliau asesu wedi’u teilwra sy’n golygu nad os DIM ARHOLIADAU. Rydym wedi darganfod bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd.
Roedd 96% o fyfyrwyr Blynyddoedd Cynnar YDDS yn fodlon gyda’r asesu a’r adborth – ACM 2017
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar wedi dylunio a datblygu ystod o ddulliau asesu wedi’u teilwra sy’n golygu nad oes DIM ARHOLIADAU. Rydym wedi darganfod bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sy’n meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy fel y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, defnyddio ystod o ddulliau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Cewch hefyd gyfleoedd i gael profiadau gwaith ymarferol, mynd ar leoliadau sy’n cefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Yn ystod asesiad, byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys:
- Cyflwyniadau llafar unigol
- Seminar mewn parau
- Dadleuon a thrafodaethau grŵp
- Cynllunio a gwerthuso gweithgareddau i gefnogi datblygiad a dysgu plant ifanc.
- Ysgrifennu adroddiadau adfyfyriol
- Cynllunio a pharatoi ystod o ddogfennau, fel papurau briffio, llawlyfrau ymarferydd, archwiliadau amgylcheddol ac asesiadau risg
- Prosiect perfformiad ymarferol
Mae’r asesiadau wedi’u dylunio i’ch galluogi i wneud cysylltiadau rhwng arfer a damcaniaeth ac i ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth trwy adfyfyrio, gwerthuso, dadansoddi a meddwl yn feirniadol. Yn gyffredinol, byddech yn cwblhau un aseiniad y modwl; gall fod gan rhai aseiniadau nifer o gydrannau o fewn yr un aseiniad. Er enghraifft, gall portffolio gynnwys cynllun gweithgaredd, gwerthusiad o’r gweithgaredd ac adroddiad adfyfyriol. Mae’r gwahanol gydrannau hy yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu ystod o sgiliau ac i ddangos eich dealltwriaeth i wahanol agweddau ar y pwnc. Mae gan rai modylau ddau gydran asesu a allai gynnwys cyflwyniad llafar ac adroddiad ysgrifenedig. Byddwch yn astudio 6 modwl y lefel astudio ar eich rhaglen.