Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Meysydd Pwnc - Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar - Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog
1af yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid - ACM 2019.
Mae’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn unigryw am eu bod ar gael naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gall fod yn bosibl astudio’r HOLL fodylau a rhaglenni cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir darlithoedd gan staff dwyieithog sy’n brofiadol iawn mewn addysgu a chyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Darperir adnoddau fel taflenni darlithoedd neu sleidiau bwrdd gwyn yn y Gymraeg a Saesneg.
Gellir cyflwyno pob asesiad a gwaith cwrs yn y Gymraeg neu Saesneg a chaiff y gwaith ei farcio yn yr iaith wreiddiol gan staff darlithio profiadol.
Astudio’n ddwyieithog
Fe allech chi ddewis astudio’n ddwyieithog ac mae yna hyblygrwydd i ganiatáu hyn. Er enghraifft, fe allech chi benderfynu gwneud rhai modylau cyfrwng Cymraeg yn rhan o’ch rhaglen cyfrwng Saesneg, neu gyflwyno peth o’ch gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Ysgol yn ymroi i helpu myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithrwydd a’u hyder mewn amgylchedd cefnogol.
Manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog
- Cymorth ariannol ychwanegol wrth i chi astudio.
- Gall myfyrwyr sy’n astudio o leiaf dwy ran o dair o’u rhaglen (80 credyd y flwyddyn), drwy gyfrwng y Gymraeg, fod yn gymwys i gael £3,000 dros dair blynedd http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/
- Gall myfyrwyr sydd am astudio o leiaf traean (40 credyd y flwyddyn) o’r rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn gymwys i gael £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) http://www.colegcymraeg.ac.uk/en/study/financialsupport/
Os byddwch yn penderfynu astudio rhai modylau cyfrwng Cymraeg fe allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o gymhellion ariannol. Er enghraifft:
- Adnoddau ychwanegol
- Cyfleoedd Cyflogaeth
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig adnoddau addysg i gefnogi’r astudiaethau dwyieithog. Mae hyn yn cynnwys ei gyfnodolyn academaidd ei hun, o’r enw ‘Gwerddon’, y gall myfyrwyr elwa ohono
Dysgwch ragor yn http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/
Mae cyflogwyr yn weithredol chwilio am fyfyrwyr a graddedigion sy’n hyderus i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg i weithio gyda phlant a theuluoedd. Mae sefydliadau fel Mudiad Meithrin, Dechrau’n Deg, Ysgolion, Awdurdodau Lleol a Meithrinfeydd yn weithredol wrth recriwtio graddedigion dwyieithog i gefnogi eu rolau.
- Cefnogi ymgyrch Miliwn o siaradwyr Cymraeg Llywodraeth Cymru erbyn 2015.
- Digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol
Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr bydd ein Graddedigion BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn hanfodol wrth gefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau dwyieithrwydd.
Mae yna gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol a drefnir gan gangen YDDS o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu ethos dwyieithog cryf ac fe’u cydnabyddir yn arbenigwyr wrth gefnogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Gwnawn hyn drwy feithrin diddordeb a hyder yn y Gymraeg o bob lefel.
‘Mae’r rhaglen wedi fy nhywys tuag at y person yr hoffwn fod, gan fagu hyder a rhoi i mi gyfleoedd i ddatblygu pwy ydw i a symud fy addysg ymlaen mewn gyrfa llawn potensial rwy’n ei charu’
Naomi Rosser 2018