Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar  -  Lleoliad a Thrwydded i Arfer

Lleoliad a Thrwydded i Arfer

teacher with a group of kids

Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiadau galwedigaethol ac ymarferol yn ystod eu hastudiaethau. Felly, rhoddir amser yn yr amserlen wythnosol i chi fynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar ar gyfer eich profiad lleoliad.

Nid yn unig y mae hyn yn eich galluogi i gysylltu damcaniaeth gydag arfer, gall mynychu lleoliadau hefyd roi ichi gyfleoedd i ddarganfod gwahanol lwybrau gyrfaol yn y sector blynyddoedd cynnar.

Mae mynychu lleoliadau mewn mannau blynyddoedd cynnar yn rhan annatod o’r rhaglen radd BA (Anrhydedd) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Rhaid i chi fynychu profiad lleoliad am o leiaf 100 diwrnod (cyfwerth â 700 awr). At ei gilydd, bydd hyn yn digwydd yn ystod eich astudiaethau Lefel 4 a Lefel 5. Mae hyn yn ofyniad gan Ofal Cymdeithasol Cymru er mwyn eich galluogi i gyflawni sgiliau academaidd ac ymarferol, gan roi ichi gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc. Mae’r rhaglen radd hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o’r cymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Fe’ch anogir i ymgymryd â phrofiad lleoliad mewn amrywiaeth o leoliadau: bydd hyn yn eich galluogi i brofi llawer o wahanol gyd-destunau blynyddoedd cynnar. Mae’r cyfryw brofiadau’n cyfoethogi eich hyder, perfformiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion cysylltiedig â blynyddoedd cynnar, fel anghenion dysgu ychwanegol, dinasyddiaeth fyd-eang, arfer cynhwysol, amddiffyn, iechyd a lles plant, yn ogystal â phwysigrwydd chware.

Ymhlith yr enghreifftiau arferol o leoliadau, mae:

  • Meithrinfeydd a gynhelir
  • Meithrinfeydd nas cynhelir
  • Meithrinfeydd (‘Crèches’)
  • Cylch Ti a Fi
  • Ysgolion cynradd, Cyfnod Sylfaen
  • Canolfannau Asesu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Dechrau’n Deg
  • Canolfannau teuluoedd
  • Clybiau brecwast (cofrestredig)
  • Clybiau ar ôl ysgol (cofrestredig)
  • Cynlluniau chwarae
  • Ysgolion fforest
  • Prosiectau yn y gymuned (cysylltiedig â phlant ifanc)
  • Sefydliadau gwirfoddol (cysylltiedig â phlant ifanc)

Gall cwblhau’r oriau gofynnol a medrau ymarferol mewn lleoliadau eich galluogi i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) gan hefyd ennill cymhwyster academaidd.