Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Meysydd Pwnc - Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar - Profiad Myfyrwyr
Profiad Myfyrwyr
Rydym wedi dylunio profiad sy’n gwneud astudio yn ddiddorol ac yn eich cefnogi i wneud yn fawr o’ch profiad Blynyddoedd Cynnar gyda ni yn YDDS. Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cynnig rhaglenni llawn amser yn y dydd neu raglenni llawn amser yn y nos a ddyluniwyd ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Mae yna hefyd gyfle i gael mynediad uniongyrchol i mewn i lefel 5 neu lefel 6 er mwyn “ychwanegu” at eich cymwysterau presennol naill ai yn y dydd neu’r nos.
Kirsty Goff, lefel 6, 2018
"Dwi mor falch fy mod i wedi dod yma, fyddwn i ddim eisiau bod yn unrhyw le arall yn gwneud unrhyw gwrs arall."
Emma Blofield, a raddiodd yn 2017
"Mae astudio’r radd wedi fy helpu i’n aruthrol nid yn unig i feithrin fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd i’m galluogi i gredu ynof i fy hun. Gyda chymorth y Brifysgol, ffrindiau hen a newydd, fy nheulu cefnogol a’m hawydd personol i lwyddo, cwblheais i'r radd yn llwyddiannus gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf!"
Ymsefydlu
Rhaglen tair blynedd yn y dydd, BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
- Wythnos ymsefydlu cefnogol a hwyl a ddyluniwyd i’ch croesawu i fywyd Prifysgol. Byddwch yn cwrdd â’ch darlithwyr a myfyrwyr newydd eraill a chael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chrwydro’r campws. Cewch hefyd gyfle i ymgyfarwyddo â’ch amserlen a dysgu sut i gael cymorth gyda defnyddio systemau Llyfrgell a TG y Brifysgol. Mae’r wythnos gyntaf hon yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd a setlo i mewn i fywyd y Brifysgol. Mae’r wythnos hefyd yn cynnwys ymweliad lleol i gefnogi myfyrwyr i ddod i adnabod ei gilydd a’r ardal.
- Mae’r amserlen wedi’i dylunio i gefnogi lleoliad neu fe fydd gennych o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos heb darlithoedd ac mae hyn yn gwneud ymrwymo i leoliad/gwirfoddoli rheolaidd drwy’r flwyddyn yn bosibl.
Gofal Bugeiliol
Rhaglen tair blynedd yn y dydd; BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cynnig gofal bugeiliol rhagorol ac bydd gan bob myfyriwr diwtor personol sydd yno i gynnig arweiniad a chefnogaeth lle bynnag y bydd angen (link also to student Services). Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar yn awyddus i ddod i adnabod eu myfyrwyr yn dda iawn a chynnal rolau bugeiliol cryf, cefnogol yn ogystal â rhai academaidd drwy gydol eu hamser yn astudio.
Addysgu Bloc
Rhaglen tair blynedd yn y dydd
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn brofiadol iawn wrth addysg mewn bloc. Hwn fu’r fformat yn yr ysgol ers nifer o flynyddoedd,
Byddwch yn astudio chwe modwl, ar bob lefel. Addysgir pob modwl ar wahân, dros un bloc. Mae pob bloc tua 4-5 wythnos yr un.
Cwblheir gwaith asesu pob modwl tua diwedd pob modwl. Golyga hyn mai dim ond ar un modwl ar y tro y byddwch yn gweithio ac na chewch eich gorlethu gan nifer o ddarnau o waith cwrs ar yr un pryd.
Amserlen
Rhaglen tair blynedd yn y dydd
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Profiadau dysgu ymarferol
Rhaglen tair blynedd yn y dydd
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Nid dim ond darlithoedd yw ein rhaglenni. Rydym wedi dylunio profiad dysgu sy’n seiliedig ar gysylltu damcaniaeth blynyddoedd cynnar â sefyllfaoedd real. Byddwch yn rhan o drafodaethau dosbarth, chwarae rhan, gemau, gweithgareddau chwarae a dysgu awyr agored sy’n gwneud eich darllen ac ymchwil personol yn ystyrlon.
Dulliau Addysgu
Rhaglen tair blynedd yn y dydd
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu. Nid ydym yn dibynnu ar ddarlithoedd yn unig. Yn hytrach, cymerwn chi i weld syniadau newydd mewn mannau sydd ag arbenigedd blynyddoedd cynnar. Yn rhan o fodylau, fe fydd ymweliadau â mannau o ddiddordeb fel Down to Earth a Phentref Bach.
Mae yna amrywiaeth o ddarlithwyr gwadd. Rydym yn trefnu darlithoedd gwadd o ystod o wahanol sefydliadau blynyddoedd cynnar sy’n eich caniatáu i glywed syniadau newydd ac ymchwil diweddar gan nifer o wahanol arbenigwyr.
Nid oes gennym UNRHYW ARHOLIADAU. Bydd eich asesiad yn waith cwrs 100%. Cewch ystod o asesiadau, gan gynnwys trafodaethau grŵp, chwarae rhan, adrodd straeon, portffolios, creu gweithgareddau ar gyfer plant, dylunio adnoddau ar gyfer ymarferwyr a rhieni, cyflwyniadau ac adroddiadau. Mae ein gwaith cwrs wedi’i ddylunio i gefnogi sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Ymsefydlu
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Pan fyddwch yn dechrau eich rhaglen, bydd y sesiynau cyntaf yn cael clustnodi i gofrestru ac ymsefydlu. Byddwch yn cwrdd â’ch darlithwyr a myfyrwyr newydd eraill. Cewch hefyd gyfle i ymgyfarwyddo â’ch amserlen a dysgu sut i gael cymorth gyda defnyddio systemau Llyfrgell a TG y Brifysgol. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd a setlo i mewn i’ch astudiaethau.
Gofal Bugeiliol
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cynnig gofal bugeiliol rhagorol ac bydd gan bob myfyriwr diwtor personol sydd yno i gynnig arweiniad a chefnogaeth lle bynnag y bydd angen. Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar yn awyddus i ddod i adnabod eu myfyrwyr yn dda iawn a chynnal rolau bugeiliol cryf, cefnogol yn ogystal â rhai academaidd drwy gydol eu hamser yn astudio.
Addysgu Bloc
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Byddwch yn astudio chwe modwl, ar bob lefel. Addysgir pob modwl ar wahân, dros un bloc. Mae pob bloc tua 4-5 wythnos yr un
Cwblheir gwaith asesu pob modwl tua diwedd pob modwl. Golyga hyn mai dim ond ar un modwl ar y tro y byddwch yn gweithio ac na chewch eich gorlethu gan nifer o ddarnau o waith cwrs ar yr un pryd.
Amserlen
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Cyflwynir y rhaglenni gradd un noson yr wythnos, sef dydd Llun, rhwng 4.30pm-8.30pm ac ambell ddydd Sadwrn. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr barhau ag ymrwymiadau gwaith ac astudio ar yr un pryd. Mae’r rhaglen carlam hyblyg dwy flynedd hon wedi’i dylunio yn y cyfryw ffordd fod gwerth tair blynedd o gynnwys astudio ei gyflwyno mewn dwy flynedd drwy ddefnyddio amser gwyliau traddodiadol y Brifysgol.
Profiadau dysgu ymarferol
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Nid dim ond darlithoedd yw ein rhaglenni. Rydym wedi dylunio profiad dysgu sy’n seiliedig ar gysylltu damcaniaeth blynyddoedd cynnar â sefyllfaoedd real. Byddwch yn rhan o drafodaethau dosbarth, chwarae rhan, gemau, gweithgareddau chwarae a dysgu awyr agored sy’n gwneud eich darllen ac ymchwil personol yn ystyrlon.
Dulliau Addysgu ac Asesu
Rhaglen dwy flynedd gyda’r nos (Abertawe a Chaerfyrddin)
BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu. Nid ydym yn dibynnu ar ddarlithoedd yn unig. Yn hytrach, rydym yn darparu cyfleoedd i drafod a dysgu gyda chymheiriaid lle gall myfyrwyr gymharu eu harfer gwaith eu hunain gyda’r llenyddiaeth ymchwil.
Mae yna amrywiaeth o ddarlithwyr gwadd. Rydym yn trefnu darlithoedd gwadd o ystod o wahanol sefydliadau blynyddoedd cynnar sy’n eich caniatáu i glywed syniadau newydd ac ymchwil diweddar gan nifer o wahanol arbenigwyr.
Nid oes UNRHYW ARHOLIADAU gennym. Bydd eich asesiad yn waith cwrs 100%. Cewch ystod o asesiadau gan gynnwys trafodaethau grŵp, chwarae rhan, adrodd straeon, portffolios, creu gweithgareddau ar gyfer plant, dylunio adnoddau ar gyfer ymarferwyr a rheini, cyflwyniadau ac adroddiadau. Mae ein gwaith cwrs wedi’i ddylunio i gefnogi sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
Rhaglen tair blynedd yn y dydd a rhaglen dwy flynedd gyda’r Nos (Abertawe a Chaerfyrddin) | BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Rydym yn cynnig profiadau ychwanegol i gefnogi’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys wythnos cyflogadwyedd lle mae ystod o ddigwyddiadau hyfforddi/cyrsiau byr ar gael. Mae’r rhain yn ychwanegiadau defnyddiol at eich CV. Hyd yma, mae’r hyfforddiant wedi cynnwys Cymorth Cyntaf, Amddiffyn, ELKLAN, Yoga i Fabanod, MAKATON ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i astudio tystysgrifau arbenigol fel rhan o’ch modylau fel Gwobr John Muir neu hyfforddiant UNCRC.
Gallwn gynnig y cyfleoedd unigryw hyn oherwydd bod gennym dîm o staff sydd ag ystod o sgiliau, arbenigedd a diddordebau. Mae’r rhain yn cynnwys profiad fel athrawon, swyddogion amddiffyn plant yr heddlu, perchnogion a rheolwyr meithrinfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymorth teuluoedd, ymchwilwyr, arbenigwyr cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol, arweinwyr Ysgolion Fforest.
Byddwch hefyd yn elwa o brofiad campws unigryw Abertawe a Chaerfyrddin YDDS.