Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar  -  Rhaglenni Dydd

Day time programme Banner

Mae’r rhaglenni BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn darparu cyfleoedd i ddysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i’n myfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau i ddamcaniaethau sy’n gysylltiedig â datblygiad holistaidd. Mae’r holl raglenni wedi’u lleoli ar gampws Caerfyrddin neu SA1 Abertawe.

Mae’r rhaglenni israddedig Blynyddoedd Cynnar yn arloesol ac fe’u dyluniwyd i roi’r sgiliau a’r cymwyseddau hanfodol i fyfyrwyr ar gyfer gweithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gan gynnwys trwydded i arfer mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.  Bydd y rhaglenni’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddadwy fel; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, sgiliau trefnu, sgiliau TGCh a gallu digidol, sgiliau ymchwil a gwaith tîm.

Hefyd, mae’r rhaglenni’n cynnig llwybrau i feysydd astudio a chyflogadwyedd eraill.

Roedd 91% o fyfyrwyr Ysgol y Blynyddoedd Cynnar YDDS yn fodlon ar eu cwrs – ACM 2018. 

Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.  Mae yna bwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi eich dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer yn y blynyddoedd cynnar.

Addysgir y rhaglenni drwy ddull addysgu bloc arloesol, sy’n caniatáu ichi ffocysu’n fanwl ar un modwl ar y tro, yn hytrach nag astudio tri modwl yn olynol.   Rydym wedi canfod bod y dull hwn o gyflwyno rhaglenni yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o gynnwys pob modwl.

BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar