Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Blynyddoedd Cynnar  -  Rhaglenni gyda’r Nos

Astudio gyda’r Nos a Hyblyg

Evening Programmes banner

Mae gan dîm y Blynyddoedd Cynnar enw da iawn am ddarparu addysg uwch o ansawdd uchel. Mae’r rhaglenni BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wedi’u dylunio ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg. Caiff y rhaglenni eu hastudio mewn dwy flynedd ac fe'u cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn.

Rhaglenni gyda’r Nos ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio gyda phlant a theuluoedd

Datblygwyd y rhaglenni i ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc wrth ichi barhau i weithio.  Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd ichi gysylltu eich gweithgareddau ymarferol a phrofiadau eich hun yn yr amgylchedd gwaith â damcaniaethau sy’n gysylltiedig ag addysg a gofal plant.    

Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.  Mae yna bwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi eich dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer yn y blynyddoedd cynnar.

Roedd 91% o fyfyrwyr Ysgol y Blynyddoedd Cynnar YDDS yn fodlon ar eu cwrs – ACM 2018.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod rhagor.

Rydym hefyd yn darparu astudiaeth ôl-radd rhan amser gan gynnwys rhaglenni seiliedig ar ymchwi.